Pump wedi'u harestio wrth i deulu rhoi teyrnged i ddyn, 20, fu farw

Bu farw Ethan Powell, 20, yn y fan a'r lle am tua 04:50 ar 31 Mai
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 20 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A465 wedi talu teyrnged i "enaid fwyaf caredig".
Bu farw Ethan Powell, o Frynmawr, yn y fan a'r lle am tua 04:50 ar 31 Mai, ar ôl i feic cwad gael ei ddarganfod wedi troi drosodd ar y ffordd tua'r gorllewin.
Cafodd dau ddyn a gafodd eu harestio yn dilyn y gwrthdrawiad - un ohonyn nhw ar ar amheuaeth o lofruddio - eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Ers hynny mae Heddlu Gwent wedi arestio tri o bobl eraill mewn cysylltiad â'r ymchwiliad, sy'n golygu bod pum person wedi cael eu harestio i gyd.
Cafodd dyn 43 oed o Dredegar a dyn 34 oed o Bontypridd eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr ac maen nhw'n cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Cafodd dyn 41 oed o Ferthyr Tudful ei arestio hefyd ar yr un amheuon a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i'r ymchwiliad barhau, ond cafodd ei alw yn ôl i'r carchar mewn cysylltiad â mater arall.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.
'Cofio amdano bob eiliad o bob dydd'
Dywedodd teulu Mr Powell fod calon y teulu yn "deilchion ar ôl clywed y newyddion, ac mae bywyd ifanc gyda chymaint i edrych ymlaen ato wedi cael ei gymryd yn llawer rhy fuan".
"Roedd yn gymeriad mor ddoniol, ac roedd bob amser yn llenwi ystafell gyda'i bersonoliaeth," meddai'r datganiad.
"Bydd yn fyw o hyd trwy ei chwiorydd Eleanor ac Isabella a bydd ein teulu'n cofio amdano bob eiliad o bob dydd."
"Rydyn ni eisiau diolch i bawb am y gefnogaeth anhygoel rydyn ni wedi ei derbyn ers dydd Sadwrn.
"Mae'n rhoi ychydig o gysur i ni i weld mor annwyl oedd ef i bobl a chymaint roedd pobl yn meddwl ohono, ond gofynnwn am breifatrwydd yn awr i alaru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl