Ymchwiliad llofruddiaeth yn datgelu tystion posib i ddynes goll o Gaerdydd

Charlene HobbsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Charlene Hobbs, 36, o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, heb gael ei gweld ers mis Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib fod dynes sydd ar goll o Gaerdydd ers y llynedd wedi cael ei gweld ychydig o ddyddiau ar ôl ei diflaniad.

Dydy Charlene Hobbs, 36, o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, heb gael ei gweld ers mis Gorffennaf 2024 ac mae Heddlu'r De yn trin ei diflaniad fel llofruddiaeth.

Cafodd Charlene ei gweld diwethaf mewn eiddo yn Broadway, Adamsdown ar 24 Gorffennaf am 06:07.

Ond mae'r heddlu nawr yn apelio ar dystion i ddod ymlaen ar ôl iddi gael ei gweld o bosib bum niwrnod yn ddiweddarach gyda dau ddyn, un ohonynt yn gwisgo "gorchudd wyneb".

Mae'n bosib y cafodd hi hefyd ei gweld ym mis Tachwedd mewn Asda yn Coryton gyda bachgen ifanc cyn iddyn nhw adael gyda dynes tua 40 oed, yn ôl y llu.

Mae ditectifs yn apelio ar y bobl yma - y dywedon nhw oedd yn dystion posib - i gysylltu â'r heddlu.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: "Er gwaethaf nifer fawr o ymholiadau, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth bod Charlene yn fyw ond rydym yn parhau i fod yn benderfynol o ddod o hyd i Charlene yn fyw a'i dychwelyd at ei theulu."

Cafodd Ms Hobbs ei gweld o bosib yn "cerdded mewn llinell gyda dau ddyn" ar bont reilffordd, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel y Bont Ddu, sy'n cysylltu Adamsdown a Sblot, ar 29 Gorffennaf am tua 11:20.

Cafodd un ei ddisgrifio fel dyn o daldra cyfartalog gyda chroen golau, yn ei 30au neu 40au.

Roedd y llall hefyd o daldra cyfartalog ac yn gwisgo gorchudd du ar ei wyneb ond nid yw'n glir os oedd yr orchudd yn rhan o gôt, sgarff, neu falaclafa.

Dywedodd y llu y gallai Ms Hobbs fod wedi bod yn gwisgo siaced las.

Yr ail dro i Ms Hobbs cael ei gweld o bosib, roedd hi'n sefyll ger desg diogelwch Asda yn Coryton gyda bachgen tua phedair oed ar 1 Tachwedd am tua 17:30.

Aeth dynes, a gafodd ei disgrifio fel tua 40 oed gyda gwallt coch tywyll byr, at Ms Hobbs ac fe adawodd y tair yr archfarchnad gyda'i gilydd, meddai Heddlu De Cymru.

CharleneFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Charlene ei gweld ar deledu cylch cyfyng yn siop Morrisons, Adamsdown, ar 23 Gorffennaf 2024

Ychwanegodd Ditectif Arolygydd Powell: "Hoffem apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach am y ddau a welwyd yn Adamsdown a Coryton i ddod ymlaen.

"Yn benodol, rydyn ni'n annog y ddau ddyn ar bont y rheilffordd a'r ddynes â'r gwallt coch tywyll yn Asda i ddod ymlaen."

Dywedodd fod teulu Ms Hobbs "yn parhau i gael eu diweddaru, ac mae ein meddyliau gyda nhw ar yr amser anodd hwn".

Mae Crimestoppers yn cynnig gwobr o hyd at £20,000 am wybodaeth sy'n arwain at arestio ac euogfarnu unrhyw un sy'n gyfrifol am ddiflaniad Ms Hobbs.