Hanes rhodfa i gofio am ffoaduriaid y Rhyfel Mawr

Rhodfa'r Belgiaig
  • Cyhoeddwyd

Wedi'i leoli rhwng y ddwy bont ac ar lan Afon Menai mae rhodfa 500 metr sydd â hanes arwyddocaol iddi.

Cafodd y stribed hwn ei adeiladu gan griw o Felgiaid i ddiolch i drigolion Porthaethwy am roi lloches iddyn nhw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd y llwybr ei orffen yn 1916 a'i ddatblygu eto yn 1963.

Dyma hanes y ffoaduriaid o Wlad Belg a'i cysylltiad ag Ynys Môn.

Cyrraedd Cymru

Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, roedd cyfnod argyfyngus ble roedd angen ail-gartrefu dinasyddion rhai o wledydd Ewrop ar frys.

Roedd ardal Mechelen yng Ngwlad Belg dan reolaeth yr Almaenwyr ar y pryd, ac roedd sawl teulu yn ffoi o'r ddinas.

Daeth 63 o ffoaduriaid ar drên a glanio ym Mhorthaethwy, gan gynnwys teuluoedd o oedrannau amrywiol.

Roedd Colonel Bulkeley Price, a oedd yn dirfeddiannwr cyfoethog ar Ynys Môn, wedi rhoi caniatâd i ddau deulu fyw mewn dau o'i eiddo ym Mhorthaethwy heb orfod talu ceiniog o rent.

Roedd Bod Idris a thŷ arall yn nheras Nant wedi'i gosod a'u dodrefnu yn barod ar gyfer y ffoaduriaid.

Rhodfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhodfa wedi'i leoli rhwng y ddwy bont

Roedd adroddiadau hefyd ym mhapur newydd y North Wales Chronice ym mis Hydref 1914, fod merched lleol wedi dechrau paratoi tê parti i groesawu'r Belgiaid i Fôn.

Pan gyrhaeddodd eu trên 4 o'r gloch ym Mangor roedd pwysigion yr ardal yn disgwyl amdanyn nhw i'w croesawu.

Yn eu plith oedd Esgob Bangor a chadeirydd Cyngor Porthaethwy Mr J.G Bacon ac eto fe ddisgrifiodd y papur newydd fod y ffoaduriaid wedi cael croeso tebyg i un brenhinol wrth groesi Pont Menai.

Roedd hyd yn oed y band pres lleol yn chwarae anthem Genedlaethol Gwlad Belg wrth iddyn nhw gamu allan o'r ceir.

Unwaith y cawsant nhw eu harchwilio'n feddygol, fe gafodd y teuluoedd eu gosod yn y dref ac fe aeth 12 i bentref Llandegfan i lawr y ffordd.

Edward WillemsFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Edward Willems a ddychwelodd yn 1963 i agoriad swyddogol y rhadfa

Yn ystod y misoedd nesaf fe aeth sawl un yn wael gyda Difftheria a'r Twymyn Goch, ond fe dderbyniodd nhw ofal am ddim yn yr ysbyty lleol, gyda chronfa Ffoaduriaid Belg oedd wedi'i sefydlu'n lleol yn cymryd gofal o unrhyw gostau.

Roedd y croeso yn du hwnt o gyfeillgar a sawl ffoadur bellach yn derbyn addysg i ddysgu Saesneg yn lleol gan Brif Athro Ysgol San Paul ym Mangor, Mr T.J Williams.

Erbyn 1915 roedd adroddiadau fod rhai o'r plant wedi dechrau dysgu Cymraeg hefyd.

Fe wnaeth ambell i deulu adael yn ôl am Wlad Belg. Ym mis Rhagfyr 1914, roedd adroddiad papur newydd yn dweud fod un teulu wedi gadael Porthaethwy gan eu bod wedi derbyn cadarnhad bod ei fferm yn Malines heb ei ddifrodi.

Er gwaethaf cais rhai o drigolion Porthaethwy i'r teuluoedd aros yno, eu dymuniad oedd dychwelyd adref, ond dywedodd y teulu o Wlad Belg pa mor ddiolchgar oedden nhw o'r croeso a'r cyfeillgarwch.

Porthaethwy

Doedd dim sôn fod y rhyfel am ddod i ben ac erbyn 1916 roedd rhai o'r dynion oedd yn meddiannu ar grefft arbennig wedi cael gwaith dros y ffin yn Lloegr mewn chwareli Copr.

Roedd y gwaith o ddatblygu lan y Fenai a'r promenâd wedi digwydd a'r llecyn penodol rhwng Eglwys St Tysilio a phont Menai dan ofal rhai o' ffoaduriaid. Roedd y gweithwyr yn derbyn tâl o 10 swllt yr wythnos.

Doedd dim agoriad swyddogol nes bron i 50 mlynedd yn ddiweddarach.

Yr unig un o'r adeiladwyr gwreiddiol a oedd dal yn fyw erbyn hynny oedd Mr Edward Willems o'r Malines, ac fe ddychwelodd i Borthaethwy i dorri'r rhuban yn swyddogol.

Yn ystod y seremoni fe siaradodd Mr Willems am y cyfeillgarwch a'r berthynas arbennig rhwng y ffoaduriaid a phobl Porthaethwy, a hyd heddiw mae'r hanes yn fyw i unrhyw un sy'n dewis mynd am dro ar y llwybr.

Pynciau cysylltiedig