Cynnig hyfforddiant iechyd meddwl i bob clwb pêl-droed yng Nghymru

Connor RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Connor Roberts wedi ymddeol o bêl-droed oherwydd problemau iechyd meddwl yn dilyn marwolaeth ei dad

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd hyfforddiant iechyd meddwl ar gael i bob clwb pêl-droed yng Nghymru fel rhan o gynllun newydd i gefnogi chwaraewyr, hyfforddwyr a'u cymunedau yn ehangach.

Bydd y cwrs e-ddysgu - sydd wedi ei ddatblygu gan Mind Cymru a UK Coaching - yn cael ei gynnig i glybiau gyda chefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).

Y nod yw codi ymwybyddiaeth a chryfhau dealltwriaeth pobl o broblemau iechyd meddwl, fel eu bod yn gallu cefnogi rhai sy'n dioddef a chreu awyrgylch gadarnhaol o fewn y clybiau.

A hithau'n wythnos codi ymwybyddiaeth iechyd meddwl, mae cyn-chwaraewr Y Seintiau Newydd, Connor Roberts wedi datgelu ei fod wedi ymddeol o bêl-droed proffesiynol oherwydd problemau iechyd meddwl wnaeth godi ar ôl marwolaeth ei dad.

Bu farw tad Connor Roberts, Stuart, cyn-chwaraewr Stoke City, o hunanladdiad ym Mehefin 2023 ar ôl iddo yntau brofi trafferthion iechyd meddwl. Roedd yn 56 oed.

Fe gyhoeddodd Roberts, 32, ym mis Chwefror y byddai'n ymddeol ar ddiwedd y tymor, ac mewn cyfweliad gyda CBDC mae'n trafod yr heriau mae wedi wynebu dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf.

"Roedd fy nhad yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl, fe lwyddodd i chwarae yn broffesiynol ac roedd wir yn arwr i mi," meddai.

"Yn anffodus fe wnaeth brofi iselder a diffyg hyder. Roedd gorbryder yn broblem ac roedd yn teimlo'n euog iawn - sydd yn gyffredin ymhlith pobl sydd yn teimlo'n isel.

"Ar y dechrau (wedi ei farwolaeth) roedd chwarae pêl-droed yn fath o ryddhad, ond erbyn hyn dydi o ddim yn cael yr un effaith.

"Dwi eisiau gorffen y bennod yma a dechrau'r nesaf wrth i mi ddechrau ar fy siwrne hyfforddi."

Connor Roberts yn chwarae i'r Seintiau yn erbyn Fiorentina yn gynharach y tymor hwnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Connor Roberts yn chwarae i'r Seintiau yn erbyn Fiorentina yn gynharach y tymor hwn

Fel un a chwaraeodd ran allweddol yn rhediad Ewropeaidd y Seintiau y tymor hwn, dywedodd Roberts fod y gemau yn erbyn timau fel Fiorentina a Panathinaikos wedi bod yn "anodd iawn" iddo.

"Dwi'n meddwl bo' fi wedi torri lawr ar ôl bob un gêm yn Ewrop eleni, achos 'da chi'n meddwl am y ffaith nad oedd o yno i weld y gêm, ac i rannu'r profiad yna efo fi.

"Dwi wedi dweud wrth fy nghwnselydd fy mod yn disgwyl teimlo rhyw fath o ryddhad ar ôl gorffen chwarae, ac fy mod yn ffeindio rhyw dawelwch meddwl fydd yn gallu helpu fi drwy'r profiad yma.

"Yn anffodus dwi wedi colli Dad, ond mewn ffordd dwi'n falch o fod wedi profi iechyd meddwl gan ei fod yn rhywbeth fedra ei drafod wrth hyfforddi chwaraewyr ifanc."

Ychwanegodd: "Fydda neb wedi dyfalu fy mod i'n mynd drwy'r hyn yr wyf i wedi bod yn mynd drwyddo, ac mae hynny'n golygu y gallai unrhyw un fod yn profi'r un peth.

"Dydw i ddim dros hynny eto... Mae'n siwrne, yn llwybr sy'n codi a disgyn, a dydi'r siwrne yno ddim ar ben."

Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Carwyn Jones yn credu bod llai o stigma ynglŷn ag iechyd meddwl o fewn y byd pêl-droed erbyn hyn

Yn ôl yr Athro mewn Moeseg Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Carwyn Jones, mae'r gefnogaeth i chwaraewyr ar y lefel uchaf wedi gwella dros y blynyddoedd ond dydy'r un strwythurau ddim ar gael ar lawr gwlad.

"Dwi'n meddwl bod iechyd meddwl yn cael ei drafod mwy heddiw nag erioed o'r blaen... a dwi ddim yn siŵr os dwi'n cytuno bod yna stigma erbyn hyn," meddai.

"Mae nifer o bobl mewn nifer o yrfaoedd gwahanol - gan gynnwys pêl-droed - yn cael trafferth dygymod ag agweddau o'u bywydau, a dros y blynyddoedd mae cyrff llywodraeth a chlybiau mwy proffesiynol yn cyflogi aelodau staff gyda chymwysterau mewn pethau fel seicotherapi ac iechyd meddwl ac ati.

"Tu allan i'r byd mwy proffesiynol efallai, dydi'r help ddim ar gael mor hawdd, felly bydd addysgu pobl i fod yn fwy ymwybodol o arwyddion a phatrymau ymddygiad yn helpu."

'Amrywio o dîm i dîm ac o berson i berson'

Ychwanegodd fod gwrywdod (masculinity), yn hanesyddol, wedi bod yn ffactor wrth wneud chwaraewyr yn gyndyn i rannu profiadau a theimladau.

"Mae'r naratif yma fod dynion ddim yn dangos teimladau yn treiddio drwy lot o swyddi a lleoliadau ble mae dynion efo'i gilydd - ffermio, y fyddin, meddygon ac ati - llefydd lle'r oedd mwy o bwysau a chystadleuaeth.

"Yn draddodiadol roedd hyn yn cael ei weld fel rhywbeth oedd yn gwneud pobl yn llai tebygol o edrych am help, ond dwi ddim yn siŵr os ydi hynny'n wir bellach, a bod hynny'n amrywio o dîm i dîm ac o berson i berson.

"Ar y lefel uchaf mae nifer o swyddi yn gysylltiedig â chefnogi chwaraewyr - lifestyle coaches, resilience coaches ac yn y blaen - sydd yno i helpu chwaraewyr ddygymod â phethau amrywiol yn eu bywydau."

Er yn croesawu'r gefnogaeth gynyddol i chwaraewyr, awgrymodd nad yw labelu trafferthion personol fel problemau iechyd meddwl bob tro yn helpu a bod angen osgoi trin pethau fel galar a theimlo'n drist fel pethau annaturiol.

Craig Bellamy a Lewis KoumasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig ein bod ni gyd wella ein dealltwriaeth o iechyd meddwl, yn ôl Craig Bellamy

Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed dynion Cymru, Craig Bellamy wedi annog pob clwb i fanteisio ar y cyfle i dderbyn hyfforddiant.

"Mae'n bwysig ein bod ni gyd yn ceisio gwella ein dealltwriaeth o iechyd meddwl a sut gallwn ni gefnogi'r bobl o'n cwmpas," meddai.

"Fe fydd y cwrs e-ddysgu yma yn helpu clybiau pêl-droed i ddeall sut yn union gallen nhw chwarae rhan wrth gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.

"Byddwn i'n annog pob clwb yng Nghymru i gymryd rhan ac i fanteisio ar y cyfle i wneud yr hyfforddiant yma."

'Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol'

Ychwanegodd Hayley Jarvis, pennaeth gweithgarwch corfforol gydag elusen Mind: "Mae gan yr hyfforddiant y potensial i gyrraedd pob clwb pêl-droed yng Nghymru, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

"Mae'n gam hollbwysig tuag at chwalu rhwystrau, mynd i'r afael â stigma, a gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rhywbeth sy'n agored i bawb - yn enwedig y rhai ohonom ni sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl."