Hwlffordd a Chaernarfon yn brwydro am le yn Ewrop

Fe orffennodd Hwlffordd yn drydydd yn y tabl, gyda Chaernarfon yn bedwerydd
- Cyhoeddwyd
Lle yng Nghyngres UEFA fydd y wobr i unai Hwlffordd neu Caernarfon pan fydd y clybiau'n cwrdd ddydd Sul yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r Cymru Premier.
Bydd ennill y rownd derfynol yn sicrhau swm o hyd at £250,000 i'r clwb buddugol am y fraint i chwarae yn Ewrop.
Dyma'r ddau glwb sydd wedi ennill y ddwy rownd derfynol ddiwethaf - gyda Hwlffordd yn trechu'r Drenewydd yn 2023, a Chaernarfon yn curo Penybont y llynedd.
Mae'r Seintiau Newydd a Phenybont eisoes wedi sicrhau eu lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf oherwydd eu safleoedd yn y gynghrair.
Ar ôl i'r Seinitiau Newydd drechu Cei Connah i ennill Cwpan Cymru bythefnos yn ôl, cafodd Penybont wybod bod eu lle nhw yn Ewrop yn ddiogel.
Roedd hynny'n golygu bod Hwlffordd - orffennodd y tymor arferol yn drydydd yn y tabl - yn sicr o'u lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Ond mae Caernarfon - orffennodd yn bedwerydd - eisoes wedi gorfod trechu'r Barri a Met Caerdydd yn y gemau ail gyfle am yr hawl i herio Hwlffordd.
'Siwtio ni bod Hwlffordd yn ffefrynnau'
Ymddangosodd Caernarfon am y tro cyntaf erioed mewn cystadleuaeth Ewropeaidd yr haf diwethaf.
Llwyddodd tîm Richard Davies i gyrraedd ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA wedi iddyn nhw drechu Crusaders o Ogledd Iwerddon, cyn colli o 11-0 dros ddau gymal yn erbyn Legia Warsaw.
"Unwaith ti'n cael y blas mae'n rhywbeth ti isio g'neud eto," meddai Davies wrth ystyried y posibilrwydd o ddychwelyd i Ewrop.
Ond mae rheolwr Caernarfon yn cydnabod mai Hwlffordd fydd yn dechrau'r gêm fel ffefrynnau.
"Maen nhw wedi gorffen yn uwch na ni yn y gynghrair ac mae ganddyn nhw'r fantais o fod adra," ychwanegodd.
"Faswn i'n dweud bod nhw'n ffefrynnau, ond mae hynna'n siwtio ni."
'Chwarae yn Ewrop yn brofiad anhygoel'
Dwy flynedd yn ôl cyrhaeddodd Hwlffordd ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA yn dilyn eu buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn yn erbyn KF Shkëndija o Ogledd Macedonia.
"Mae chwarae yn Ewrop yn brofiad anhygoel," meddai rheolwr Hwlffordd, Tony Pennock.
"Y tro diwethaf roedd mynd drwodd un rownd yn anferth.
"Fe wnaethon ni fwynhau y ddwy daith oddi cartref a gwneud cyfiawnder i ni'n hunain.
"Mae gan y bois oedd yma atgofion am oes.
"Mae'r chwaraewyr sydd wedi ymuno gyda ni ers hynny wedi clywed yr hanes felly maen nhw'n gwybod beth mae'n ei olygu hefyd."