Rhybudd oren am wynt i rannau o Gymru yn sgil Storm Éowyn

Mae sawl rhybudd mewn grym i Gymru dros y dyddiau nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd oren am wyntoedd cryf wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Gwener.
Daw wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi sawl rhybudd am wynt a glaw i Gymru gyfan dros y dyddiau nesaf.
I holl siroedd y gogledd, mae rhybudd oren am wynt yn weithredol rhwng 06:00 a 21:00 ddydd Gwener, gyda disgwyl gwyntoedd 70mya yn gyffredinol, a hyd at 90mya ger yr arfordir ac ar dir uchel.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod torri cyflenwadau trydan ac effeithiau i deithwyr yn debygol, ac y gallai'r gwyntoedd achosi difrod i adeiladau ac anafiadau i bobl.
Mae rhybudd coch am 'berygl i fywyd' mewn grym ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Mae disgwyl i wyntoedd cryfion effeithio ar siroedd y gogledd - yn enwedig ardaloedd arfordirol fel Llandudno (uchod) - ddydd Gwener
Wrth i Storm Éowyn daro'r DU ddydd Gwener, mae dau rybudd melyn am wynt a glaw hefyd wedi eu cyhoeddi.
Mae'r rhybudd am wynt mewn grym i weddill Cymru, ac yn para drwy'r dydd.
Mae'r rhybudd am law yn weithredol rhwng 00:00 a 09:00 fore Gwener i'r rhan helaeth o Gymru, heblaw am y gogledd-ddwyrain.
Mae mae rhybudd melyn am wynt eisoes mewn grym rhwng 07:00 a 18:00 ddydd Iau hefyd.
Mae'n berthnasol i'r rhan helaeth o'r gogledd-orllewin a'r de-orllewin, yn ogystal ag ardaloedd arfordirol y canolbarth a'r de.
Am fwy o wybodaeth am y rhybuddion yn eich ardal chi, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol.
Canolfannau ymwelwyr ar gau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y bydd eu canolfannau ymwelwyr ynghau ddydd Gwener, gan annog pobl i "osgoi teithio i'n coedwigoedd a'n gwarchodfeydd".
"Mae'r gwyntoedd cryfion a ddisgwylir gyda Storm Éowyn, wedi'i waethygu gan y difrod a achoswyd eisoes gan Storm Darragh, yn cynyddu'n sylweddol y perygl o goed a changhennau yn cwympo yn yr ardaloedd hyn," meddai llefarydd.
"Bydd y canolfannau ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian, ac Ynyslas, yn ogystal â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, ar gau ddydd Gwener."
Mae'r RNLI hefyd wedi annog unrhyw un sy'n ymweld â'r arfordir dros y dyddiau nesaf i sicrhau eu bod yn cadw eu pellter o'r môr.
Rhagor o rybuddion i ddod
Wedi i'r storm basio, mae rhagor o rybuddion am dywydd garw mewn grym ar gyfer dydd Sul a dydd Llun.
Mae rhybudd melyn am wynt mewn grym ar gyfer Cymru gyfan o 08:00 tan 15:00 ddydd Sul.
Mae yna hefyd rybudd am law trwm rhwng 08:00 fore Sul tan 06:00 fore Llun, a hwnnw ar gyfer pob sir oni bai am Ynys Môn.