'Cyfle unwaith mewn oes' cystadlu am fferm yn Eryri ar raglen deledu

Lowri a RyanFfynhonnell y llun, Channel 4
Disgrifiad o’r llun,

Un cwpl sy'n ymgeisio am y denantiaeth ydy Ryan a Lowri - gŵr a gwraig o ardal Llanrwst

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl o ardal Llanrwst sy'n ymgeisio am denantiaeth fferm yn Eryri fel rhan o raglen deledu yn dweud bod cymryd rhan yn y gyfres yn "gyfle unwaith mewn oes".

Mae 'Our Dream Farm' yn rhaglen ar Channel 4, lle mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am denantiaid newydd ar gyfer fferm fynyddig 600 acer yn Eryri.

Mae saith o ymgeiswyr yn cystadlu gyda'i gilydd mewn gwahanol dasgau am y denantiaeth 15 mlynedd ar y fferm yn Nant Gwynant.

Y llynedd lleisiodd rhai eu pryder na fyddai cyfle i bobl leol ymgeisio am y denantiaeth yn gyntaf, gydag eraill yn dweud y gallai'r cydweithio rhwng y rhaglen deledu a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol arwain at rai yn peidio ymgeisio.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y pryd y gallai "unrhyw un wneud cais ar gyfer ein heiddo ar osod yng Nghymru a thu hwnt" ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn ôl "oed, hil, rhywedd, cenedligrwydd nag iaith rhywun".

Fferm Llyndy Isaf yn EryriFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Daw tenantiaeth fferm Llyndy Isaf yn Nant Gwynant ger Beddgelert gyda mynediad at lannau Llyn Dinas a thŷ pedair ystafell wely

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ennill y cyfle i wireddu breuddwyd o ffermio ar fferm Llyndy Isaf yn y Parc Cenedlaethol.

Daeth Llyndy Isaf o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2012, pan gafodd ei phrynu gan yr elusen - yn dilyn llwyddiant apêl gyhoeddus.

Daw'r denantiaeth gyda mynediad at Lyn Dinas, tŷ pedair ystafell wely, llety gwyliau i osod, coetir, tir isel a thir mynydd.

Dyma'r fferm sydd â'r sgôr uchaf yng Nghymru gan yr Ymddiriedolaeth o ran safon gadwriaethol, a daw'r les hefyd â dau braidd o ddefaid.

Llyndy Isaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae tŷ fferm ar gael fel rhan o denantiaeth Llyndy Isaf

Mae pytiau o'r Gymraeg i'w chlywed ar y rhaglen hefyd wrth i rai o'r ymgeiswyr gyfathrebu gyda'i gilydd yn eu mamiaith ar adegau.

Un o'r cyplau Cymraeg ydy Ryan a Lowri Williams - gŵr a gwraig o Bandy Tudur ger Llanrwst - sy'n byw o fewn 20 milltir i'r fferm y maen nhw'n cystadlu am ei thenantiaeth.

Gobaith y ddau ydy cyfuno gweledigaeth Lowri i groesawu twristiaid, gydag angerdd Ryan am ffermio mynydd.

Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd Ryan fod cymryd rhan yn y rhaglen yn gyfle "unwaith mewn oes".

"O'dd o'n brofiad da iawn, dwi 'di mwynhau cyfarfod pobl o bob cefndir.

"Nes i fwynhau dysgu pethau gwahanol gan yr ymgeiswyr eraill, a gobeithio bo' nhw 'di dysgu un neu ddau o bethe genna i!"

Ychwanegodd Ryan, sy'n ffarmwr cenhedlaeth gyntaf, bod ffeindio tir rhent yn anodd iawn, a'i fod yn beth da bod y rhaglen yn "dangos pa mor anodd ydy o".

Matt BakerFfynhonnell y llun, Channel 4
Disgrifiad o’r llun,

Matt Baker sy'n cyflwyno rhaglen 'Our Dream Farm'

Dywedodd Lowri fod cymryd rhan yn y rhaglen yn rhyfedd ar adegau am eu bod yn gwneud swydd dydd i ddydd, ond dan lygaid y camerâu.

"O'dd o'n reit rhyfedd, achos weithie oeddan ni'n neud joben arferol, ond bod 'na pressure – pump a mwy o gameras, a job awren fel arfer yn cymryd trwy'r dydd!

"Oedden ni di mwynhau o, ac yn falch iawn o'r dair wythnos 'naethon ni [yn ffilmio], a'r ddau ohono' ni 'fo plant - felly profiad really neis."

Bu Lowri'n jocian eu bod wedi arfer gyda'r camerâu bellach, ers i'r ddau briodi ar raglen Priodas Pum Mil ar S4C.

"Comedi fydd nesa'! Watch this space!"

'Eithriadol o ddiddorol'

Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr ar y rhaglen wneud y gorau o'u cyfleoedd er mwyn dod yn fuddugol yn y gyfres.

Mae rhai yn cystadlu fel cyplau ac eraill fel unigolion, felly mae cyfanswm o 11 o bobl ar saith tîm gwahanol.

Canolbwyntio ar asesu gwahanol sgiliau mae'r tasgau, gan gynnwys gweithio ar y tir, ymdrin ag anifeiliaid, gofalu am natur a rhedeg busnes llwyddiannus.

Caiff y rhai sy'n perfformio orau ym mhob tasg eu gwobrwyo gyda'r fraint o fod yn rheolwr dros dro ar y fferm - felly mae siawns i hyn newid ym mhob pennod.

Trystan Edwards (Rheolwr Cyffredinol Eryri i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), a Giles Hunt (Cyfarwyddwr Ystadau Tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).Ffynhonnell y llun, Channel 4
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Edwards (chwith) a Giles Hunt (dde) ydy'r beirniaid ar y rhaglen

Yn beirniadu'r broses mae dau swyddog o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - a nhw sy'n dewis pwy sy'n ennill ar derfyn y broses.

Trystan Edwards - rheolwr cyffredinol ar Eryri - a Giles Hunt - y cyfarwyddwr ystadau tir - ydy'r rhain.

Dywedodd Mr Edwards wrth Cymru Fyw bod cymryd rhan yn y rhaglen wedi bod yn "eithriadol o ddiddorol".

"'Da ni ddim fel arfer yn cael cyfle i fynd i'r fath ddyfnder wrth ddewis tenantiaid ar gyfer safleoedd, ond mi gafon ni ddod i 'nabod yr ymgeiswyr yn andros o dda yn yr achos yma.

"O'dd hyn yn ein galluogi ni i ddeall eu cryfderau a'u gwendidau nhw, ac yn rhoi mwy o hyder i ni yn ein penderfyniad yn y pendraw."

Nant GwynantFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm fynyddig Llyndy Isaf wedi'i lleoli yn Nant Gwynant yn Eryri

Esboniodd Mr Edwards bod Llyndy Isaf yn safle "eithriadol o bwysig" oherwydd ei safon gadwriaethol uchel, a bod dewis y tenantiaid cywir yn allweddol oherwydd hynny.

"Gafon ni 'neud y penderfyniad ar sail gweithio hefo nhw, mewn ffordd - oedd yn beth andros o dda."

Ychwanegodd Mr Edwards ei fod wedi bod yn rhan o wneud penderfyniadau'r broses, ar y cyd â Mr Hunt, o'r dechrau i'r diwedd.

"'Da ni 'di bod yn rhan o'r peth ers cyn i'r rhaglen gychwyn mewn ffordd, a nifer fawr wedi dangos diddordeb yn y diwrnod agored gafodd ei gynnal reit ar y dechre.

"O'dd hynny cyn i ni fedru creu rhestr fer."

Dyma ail gyfres rhaglen 'Our Dream Farm', ac mae'n cael ei dangos pob nos Sadwrn ar Channel 4.

Mae rhai penodau eisoes wedi'u darlledu ers 15 Mawrth.