Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi digwyddiad yng Ngorseinon

Cafodd yr heddlu eu galw i New Lodge Social Club am 01:00 fore Sul
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad mewn clwb cymdeithasol yng Ngorseinon.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i'r New Lodge Social Club yn y dref am 01:00 fore Sul wedi adroddiadau bod person wedi cael ei drywanu.
Cafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad, ac mae'n parhau i gael triniaeth am ei anafiadau.
Mae Kane Evans, 20 oed o Orseinon, wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ac o fod â chyllell yn ei feddiant.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe fore Llun.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.