'Dim digon o le i nwyddau ar longau rhwng Iwerddon a'r DU'
- Cyhoeddwyd
Does dim digon o le ar longau rhwng Cymru ac Iwerddon i gludiant masnachol ar hyn o bryd, yn ôl ffigwr blaenllaw o fewn y diwydiant cludo nwyddau.
Mae porthladd Caergybi wedi bod ar gau ers dydd Sadwrn 7 Rhagfyr ar ôl i ddifrod sylweddol gael ei achosi i angorfeydd Terfynfeydd 3 a 5 yn ystod Storm Darragh.
Yn ôl Ger Hyland, llywydd Cymdeithas Cludwyr Ffordd Iwerddon, mae cau'r porthladd wedi cael "effaith enfawr" ar eu haelodau a'u gallu i wneud eu gwaith.
Awgrymodd bod angen "opsiwn arall" ar wahân i Gaergybi yn y dyfodol.
Mae Stena, y cwmni sy'n rhedeg y porthladd, wedi ymddiheuro am y sefyllfa, gan ychwanegu eu bod yn dal i geisio asesu maint y difrod.
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Roedd disgwyl y byddai'r safle yn ailagor ddydd Gwener, ond yn dilyn archwiliadau tanddwr, daeth cyhoeddiad y bydd y porthladd yn aros ar gau tan o leiaf ddydd Mercher 15 Ionawr.
Dywedodd Stena fod rhan o strwythur angorfa Terfynfa 3, sy'n cael ei defnyddio gan Irish Ferries, "wedi cwympo a'i wneud yn amhosib i'w ddefnyddio".
Awgrymodd Mr Hyland ar BBC Radio Wales bod angen "opsiwn arall" ar wahân i Gaergybi yn y dyfodol.
"Mae Caergybi yn llwybr pwysig iawn, a fwy na thebyg bydd rhaid iddo barhau fel yr un pwysicaf rhwng Iwerddon a'r DU, ond mae'n rhaid i ni ganfod opsiwn arall.
"Ar y funud, pan ddigwyddodd hyn, doedd ganddon ni ddim opsiwn arall."
'Gwaethygu fydd y broblem'
Ychwanegodd Mr Hyland: "'Da ni'n teithio cannoedd o filltiroedd i fyny a lawr y DU i borthladdoedd eraill, felly mae'r nwyddau 'da ni'n eu cludo yn y mannau anghywir.
"Mae hyn am gael effaith ariannol enfawr, yn ogystal â phob dim arall.
"Dyw pobl ddim yn deall faint o nwyddau sy'n symud rhwng y DU ac Iwerddon tan i hynny ddod i stop.
"Dydy'r capasiti ddim yno ar hyn o bryd i gludo'r nwyddau o Iwerddon i'r DU, ac mae hynny'n golygu y bydd cludo rhai nwyddau yn anymarferol.
"'Da ni'n defnyddio pob porthladd sy'n agored i ni yn y DU, ac unrhyw longau sy'n teithio i Iwerddon o'r gogledd neu'r de - os oes modd i ni archebu lle ar fferi, yna dyna wnawn ni.
"Ond does dim digon o le ar y llongau ar hyn o bryd ar gyfer cludiant masnachol, a gwaethygu fydd y broblem yma dros y Nadolig."
Wrth ymateb i'r sefyllfa ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, ac aelod Ynys Môn yn y Senedd, Rhun ap Iorwerth fod "angen sicrwydd" am ddyfodol hirdymor y porthladd.
"Mae angen i lywodraethau weithio gyda'i gilydd rŵan er mwyn symud tuag at agor y porthladd mor fuan â phosib, ond hefyd i sicrhau gwytnwch ar gyfer yr hirdymor er mwyn ymateb yn well i stormydd, dwi'n ofni, y byddwn ni'n eu profi yn fwy a mwy aml," meddai.
"Mae'n fy mhoeni i'n fawr, a ma' 'na atebion 'da ni angen ar sawl haen ar hyn o bryd.
"Ma' 'na atebion hirdymor ond ma' 'na atebion byrdymor hefyd, a ma' cael y sicrwydd yna ynglŷn â be' yn union fydd yr amserlen wrth i ni symud i mewn i'r wythnosau nesaf yn bwysig iawn.
"Ma' 'na gwestiynau hefyd ynglŷn â be' sy'n cael ei wneud yn y byrdymor er mwyn cefnogi tref Caergybi a busnesau sydd â chysylltiad hefo'r porthladd...
"Dwi'n sicr wedi clywed sïon yn lleol sy'n ofni y gallai fod yn fisoedd [cyn i'r safle ailagor]."
'Dangos pa mor ddibynnol ydyn ni'
Yn eu datganiad ddydd Mawrth dywedodd Stena y bydd y porthladd ar gau tan "o leiaf ganol Ionawr", ond mae pryderon wedi'u codi eisoes am a yw hynny'n realistig yn sgil y difrod.
Yn siarad ar BBC Radio 4 fore Mercher dywedodd David McRedmond -prif weithredwr An Post, gwasanaeth post Iwerddon - bod "fawr o hyder" y gall y gwaith gael ei gwblhau o fewn mis, hyd yn oed.
Dywedodd fod y sefyllfa yn "dangos pa mor ddibynnol ydyn ni ar un pwynt yn unig - pwynt sydd ddim ar gael ar y funud".
"Felly 'dan ni wir yn gobeithio bod Caergybi yn cael ei atgyweirio cyn gynted â phosib," meddai Mr Murphy.
"Y dyddiad diweddaraf sydd gennym ni ydy canol Ionawr, ond dydw i ddim yn meddwl bod fawr o hyder y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn hynny."
Dywedodd Maer Caergybi, y cynghorydd Vaughan Williams, y byddai cau'r porthladd yn cael effaith negyddol ar y dref.
"Dwi'm yn cofio unrhyw adeg lle fuodd y porthladd ar gau am mor hir," meddai.
"Yr hyn sy'n bwysig ydy ein bod ni fel cymuned yn dod at ein gilydd, a bod y cyngor tref yn gweithio efo'r cwmni er mwyn ceisio datrys y mater cyn gynted â phosib."
Ychwanegodd ei fod yn poeni y gallai'r trafferthion gael effaith ar nifer y teithwyr sy'n dod i'r dref o Iwerddon.
'Y cyfnod prysuraf i'r sector'
Yn ôl Josh Fenton, rheolwr polisi cwmni Logistics UK yng Nghymru, ni fyddai'r trafferthion wedi gallu digwydd ar amser gwaeth.
"Dyma'r cyfnod prysuraf yn ein sector ni, ac o leiaf ry'n ni'n gwybod nawr y bydd y porthladd ar gau tan 15 Ionawr," meddai.
"Hoffem weld unrhyw waith adfer yn cael ei wneud cyn gynted â phosib, oherwydd mae'n rhaid i ni ddechrau symud nwyddau rhwng y ddau borthladd eto."
Ychwanegodd fod capasiti ychwanegol mewn porthladdoedd eraill gan gynnwys Penbedw ac Abergwaun, ond bod dal angen mwy.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd llywodraethau Cymru ac Iwerddon ddydd Mawrth eu bod yn gweithio ar gynlluniau i leddfu'r trafferthion, gan gynnwys defnyddio capasiti ychwanegol mewn porthladdoedd eraill.
Ychwanegodd y datganiad bod cwmnïau fferi wedi symud llongau i borthladdoedd eraill ac yn helpu cwsmeriaid.
Dywedodd y llefarydd y byddai'r llywodraethau'n parhau i gydweithio yn y tymor byr i sicrhau bod teithwyr a nwyddau'n gallu teithio, ac yn y tymor hirach i sicrhau llwyddiant y porthladd.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod "mewn cyswllt agos â Llywodraeth Cymru a Stena Line ynglŷn â chau Porthladd Caergybi dros dro ac yn barod i'w cefnogi i sicrhau ei fod yn ailagor yn gyflym".
"Yn y cyfamser, rydym yn gweithio gyda nhw i gadw pobl a nwyddau i symud," meddai llefarydd.