Porthladd Caergybi ar gau tan o leiaf ganol Ionawr

Porthladd Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae porthladd Caergybi ar gau dros un o gyfnodau mwyaf prysur y flwyddyn i'r sector

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd porthladd Caergybi yn aros ar gau tan o leiaf ganol Ionawr, mae rheolwyr wedi cadarnhau.

Mae ar gau ers dydd Sadwrn 7 Rhagfyr wedi i amodau garw Storm Darragh achosi difrod sylweddol i angorfeydd Terfynfeydd 3 a 5.

Fe gadarnhaodd Stena, y cwmni sy'n rhedeg y porthladd, ddydd Llun bod rhan o strwythr angorfa Terfynfa 3, sy'n cael ei defnyddio gan Irish Ferries, "wedi cwympo a'i wneud yn amhosib i'w ddefnyddio".

Wedi i archwiliadau tanddwr, maen nhw nawr yn dweud bod angen, "yn anffodus", i'r ddwy derfynfa, sydd nesaf i'w gilydd, aros ar gau tan o leiaf ddydd Mercher 15 Ionawr.

Ffynhonnell y llun, Chris Willz Photography
Disgrifiad o’r llun,

Llun drôn sy'n rhoi syniad o'r difrod i'r angorfeydd yng Nghaergybi wedi Storm Darragh

"Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweld pa bryd bydd modd ailagor Terfynfa 5 yn ddiogel, i ailddechrau gwasanethau fferi," medd y cwmni.

"Tra ein bod yn dal yn asesu maint llawn y difrod, rydym yn cymryd y penderfyniad nawr i gadw'r angorfeydd fferi ar gau tan 15 Ionawr yn y fan gyntaf i roi sicrwydd i deithwyr, cwsmeriaid cludiant a chwmnïau fferi a chaniatáu iddyn nhw wneud trefniadau eraill ar un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn.

"Rydym yn deall bod cau'r terfynfeydd fferi wedi cael effaith sylweddol ar fasnach, teithwyr a chwsmeriaid y porthladd.

"Mae'n ddrwg gyda ni am y tarfu mae hyn wedi achosi. Diogelwch ein cydweithwyr a chwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth a fyddwn ni ond yn caniatáu i wasanaethau fferi ailddechrau unwaith rydym yn sicr ei bod yn ddiogel i wneud hynny."

'Pryder mawr adeg y Nadolig'

Fe rybuddiodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi, ddydd Llun bod rhai swyddi wedi eu colli yn barod yn sgil cau'r porthladd, ac roedd Llywodraeth Iwerddon wedi awgrymu bod y safle'n "annhebygol" o ailagor cyn y Nadolig.

Mewn ymateb i'r cadarnhad y bydd y porthladd ar gau am o leiaf bedair wythnos arall, mae Aelod o'r Senedd yr ynys yn dweud bod yn rhaid gwneud pob ymdrech i ailagor y porthladd cyn gynted â phosib.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Bydd yr adroddiadau diweddar hyn yn peri pryder mawr i'r rhai sy'n gobeithio teithio adref dros gyfnod y Nadolig, yn ogystal â mewnforwyr ac allforwyr fel ei gilydd.

"Mae'n bwysig, yn yr adeg brysur hon o'r flwyddyn, bod ein cysylltiadau masnach hanfodol yn weithredol a bod teithwyr yn cael eu hysbysu gan y llywodraeth am unrhyw ddiweddariadau pellach."

Mae'n galw ar Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, am ddiweddariad brys pa gamau sy'n cael eu cymryd, gyda rhanddeiliaid eraill, i atygweirio'r difrod ac ailagor y porthladd yn llawn gynted â phosib.

Mae hefyd yn gofyn pa gymorth gall Llywodraeth Cymru gynnig i fusnesau sydd wedi eu heffeithio.

'Hunllef lwyr yn yr wythnos nesaf'

Mae'n ymddangos bod "neb i weld â datrysiad" i'r sefyllfa, medd cwmni cludiant ym Monaghan, Iwerddon sydd hefyd â chanolfan ym Mona, ger Caergybi.

Mae Darren Murphy, rheolwr gyfaryddwr cwmni BM Transport, yn rhagweld "hunllef lwyr" dros wyliau'r Nadolig a "gwaeth" o bosib yn y flwyddyn newydd.

Mae'r cwmni, meddai, yn cludo rhwnt 75 a 120 llond lorri trwy Gaergybi bob dydd ac mae 15 o yrwyr a gweithwyr swyddfa yn gweithio o'u swyddfa ym Môn.

"Does gan ein gyrwyr ddim byd i'w cludo.... rydym yn cludo tua 50% o'r hyn bydden ni'n cludo fel arfer... wrth i ni ddod i fis Ionawr, mae'n mynd i fod yn broblem fawr," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n creu cur pen i gwmnïau cludiant

"Mae'n effeithio ar ein gwaith yng Nghaergybi yn syth - mae'n mynd i effeithio ar economïau Cymru ac Iwerddon, achos fydd nwyddau ddim yn symud.

"Does neb i weld â datrysiad a dydy Llywodraeth Iwerddon na Llywodraeth Cymru heb gynnig unrhyw gynnydd mewn capasiti na dim byd.

"Pan ychwanegwch tua 100,000 o bobl eisiau dod adref am y Nadolig yn eu ceir, mae'n mynd i fod yn hunllef lwyr am yr wythnos nesaf ac o edrych tua mis Ionawr fe fydd yr un fath, os nad gwaeth."

Doedd cyhoeddiad ddydd Mawrth "ddim yn syndod" i Ger Hyland, Llywydd Cymdeithas Cludwyr Ffordd Iwerddon.

Mae'r sefyllfa, meddai, yn "niweidiol i ein haelodau ac i economïau Iwerddon a Chymru.

"Rydym nawr yn teithio gannoedd o filltiroedd yn ychwanegol, yn talu costau fferi uwch oherwydd diffyg llwybrau posib... cost masnachol anferthol i'r diwydiant na ddaw i'r amlwg tan ar ôl Nadolig.

"Y DU o hyd yw partner masnachol mwyaf Iwerddon... cyn y broblem yng Nghaergybi roedd 1,000 o lorïau y dydd rhwng Iwerddon a'r DU. Rhaid ceisio cael llwybrau amgen i gyrraedd y ffigwr yna eto."

Ymddiheuro

Mae Stena Line wedi ymddiheuro am yr anghyfleustod sydd wedi ei achosi, gan ddwued eu bod yn gweud popeth posib i leihau problemau i deithwyr a chludwyr.

Maen nhw'n cynnig teithiau rhwng Dulyn ac Abergwaun neu Birkenhead ac yn cynnig llwybr newydd rhwng Dulyn a Heysham ar gyfer cludo nwyddau.

Maen nhw hefyd wedi trefnu mwy o deithiau rhwng Belffast a Cairnryan penwythnos yma.

Nifer fach o deithiau sydd bellach ar gael rhwng Abergwaun a Rosslare, a rhwng Belffast a Lerpwl.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth y DU, Jo Stevens, ei bod yn "rhannu rhwystredigaeth a phryderon" y rhai sydd wedi eu heffeithio, ond bod diogelwch yn "gwbl hanfodol".

Ychwanegodd ei bod wedi trafod gyda'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth a Llywodraeth Cymru, a'i bod yn "gwybod bod popeth yn cael ei wneud gan y ddwy lywodraeth i sicrhau bod y sefyllfa'n cael ei datrys cyn gynted â phosib".

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd llywodraethau Cymru ac Iwerddon eu bod yn gweithio ar gynlluniau i leddfu'r trafferthion, gan gynnwys defnyddio capasiti ychwanegol mewn porthladdoedd eraill.

Ychwanegodd y datganiad bod cwmnïau fferi wedi symud llongau i borthladdoedd eraill ac yn helpu cwsmeriaid.

Dywedodd y llefarydd y byddai'r llywodraethau'n parhau i gydweithio yn y tymor byr i sicrhau bod teithwyr a nwyddau'n gallu teithio, ac yn y tymor hirach i sicrhau llwyddiant y porthladd.