Dyn yn 'lled-ymwybodol' ar ôl cael ei arestio ym Mhorthmadog

Richard Williams yn cyrraedd Llys y Goron Caernarfon ar ddechrau'r achos yn ei erbyn
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor wedi clywed bod dyn yn "lled-ymwybodol" yng nghefn fan heddlu, ar ôl cael ei arestio gan swyddog sydd wedi'i gyhuddo o ymosod arno ym Mhorthmadog.
Mae Richard Williams, 43, wedi'i gyhuddo o dagu yn fwriadol ac o ymosod gan achosi niwed corfforol.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â'r defnydd o rym tra'n arestio Steven Clark ar 10 Mai 2023.
Mae Mr Williams yn gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn yn Llys y Goron Caernarfon.
Steven Clark yn 'lled-ymwybodol'
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen i'r llys, dywedodd PC Iwan Williams ei fod ef a chydweithiwr wedi cael eu galw i gynorthwyo yn y digwyddiad, cyn cael gwybod nad oedd eu hangen mwyach.
Dywedodd eu bod yna wedi mynd i orsaf heddlu Porthmadog a gweld Richard Williams ger y maes parcio.
Dywedodd PC Iwan Williams fod y diffynnydd wedi dweud wrtho ei fod wedi gorfod defnyddio grym, gan daro Mr Clark gan ei fod yn gwrthsefyll cael ei arestio.
Dywedodd PC Iwan Williams yn ei ddatganiad ei fod wedi mynd i'r fan i wirio lles Mr Clark, a'i fod wedi gweld bod Mr Clark wedi'i anafu, a bod un o'i lygaid wedi chwyddo.
Dywedodd wrth y llys ei fod wedi siarad gyda Mr Clark ond na chafodd ateb a'i fod "yn ymddangos fel pe bai mewn poen" ac yn "lled-ymwybodol".
Ychwanegodd PC Williams bod Mr Clark yn ddiweddarach yn "pwyso yn erbyn drws y gell" ac wedi "disgyn allan" wrth iddo ei agor.
Dywedodd ei fod wedi galw am gymorth meddygol i Mr Clark.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2024
Clywodd y llys hefyd ddatganiadau gan lygad-dystion i'r digwyddiad, gan gynnwys Tammy Humphreys sy'n byw ar draws y ffordd o'r tŷ ble cafodd Steven Clark ei arestio.
Dywedodd Ms Humphreys ei bod wedi gweld dau heddwas yn cyrraedd a'i bod wedi dechrau ffilmio'r digwyddiad ar ei ffôn o ffenestr ar ôl sylweddoli bod Mr Clark yn cael ei arestio.
Disgrifiodd sut roedd y swyddogion - un dyn ac un fenyw - yn dal Mr Clark wrth ei freichiau ac yn siarad gydag ef, cyn i Mr Clark ddechrau gwneud "synau gwirion... yn bod yn ddramatig a cheisio cael sylw pobl".
Dywedodd bod yr heddwas benywaidd yna wedi "camu'n ôl, neu gael ei gwthio" a'i bod wedi syrthio, gan fynd â Steven Clark i'r llawr gyda hi.
'Maen nhw am ei ladd o'
Roedd y tri yn "rholio o gwmpas" meddai, gyda'r swyddog benywaidd wedyn yn dal gafael ar goesau Mr Clark a'r swyddog gwrywaidd yn ei "dynnu" wrth ei wddf, cyn dechrau "dyrnu ei ben".
Dywedodd Ms Humphreys ei bod wedi gweiddi: "Dwi'n siŵr bo' chi ddim i fod i punchio fo".
Roedd ei chwaer-yng-nghyfraith, Sarah Humphreys, a oedd gyda hi yn y tŷ ar y pryd, hefyd yn gwylio'r digwyddiad o'r ffenestr.
Dywedodd bod gan yr heddwas gwrywaidd ei fraich o amgylch pen Steven Clark, a'i bod wedi dweud: "Maen nhw am ei ladd o."
Dywedodd fod y swyddog wedi taro Mr Clark sawl gwaith.
Ychwanegodd ei bod wedi clywed y swyddog yn gweiddi "paid gwrthsefyll" a bod Steven Clark yn ymateb: "Dydw i ddim. Dydw i ddim."
Pan gafodd Mr Clark ei roi yn y fan, ar ôl i swyddogion eraill gyrraedd i gynorthwyo, dywedodd Ms Humphreys ei bod yn gallu gweld bod ei wyneb "wedi chwyddo".
Mae'r achos yn parhau.