Cyfarfod i drafod pryderon am ffermydd solar ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 70 o bobl mewn cyfarfod yn Llannerch-y-medd, Ynys Môn, nos Iau i drafod eu pryderon am gynlluniau i adeiladu dwy fferm solar newydd.
Bwriad Enso Energy a Lightsource bp yw codi paneli solar ar draws pedwar safle maint tua 2,000 o gaeau pêl-droed.
Gyda chapasiti o 160MW a 350MW, byddai prosiect Alaw Môn Enso Energy a phrosiect Maen Hir Lightsource bp yn cynhyrchu digon o ynni gwyrdd i gynnal dros 130,000 o gartrefi.
Mae hynny’n cyfateb i bron i bob tŷ ym Môn, Gwynedd a Chonwy.
Mae Lightsource bp yn dweud eu bod nhw’n cydnabod pryderon pobl leol.
Dyw Enso Energy heb ymateb i gais y BBC am sylw.
Mae yna bedwar safle dan sylw, gyda dau i'r gogledd o bentref Llannerch-y-medd a dau arall i'r de.
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Ysgol Gymunedol Llannerch-y-medd nos Iau i drafod y datblygiadau.
Mari Williams oedd un o’r rheini i rannu ei barn.
Dywedodd: “’Da ni 'di cael cynnig gan y cwmni ein hunain ond 'da ni 'di gwrthod.
"Dwi’n poeni am sut maen nhw’n mynd i effeithio ar y tir amaethyddol da.
"Dwi’n poeni achos does dim llawer o sôn am be sy’n digwydd.
"Faint o lais sydd ganddon ni fel pobl leol yn erbyn cwmnïau mawr?"
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
Roedd Aled Williams hefyd yn y cyfarfod.
“Mae’r amser yn mynd i ddod pan mae angen y tir yna i gynhyrchu bwyd eto ond be fydd effaith y paneli solar yma?
"Mae ‘na le i baneli solar ond mae ‘na ddigon o adeiladau neu dir sâl sydd angen eu defnyddio cyn tir amaethyddol.”
“Angen buddsoddi yn yr ardal”
Mae Gareth Hughes yn byw ar Ynys Môn.
Os fydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, mae e am weld y safleoedd yn rhoi hwb i'r ardal.
“Os ydi rhywbeth fel hyn yn mynd i ddod, mae'n rhaid i’r cwmnïau roi nôl i’r cymunedau, arian i’r cyngor tre' ella, fel bod nhw’n gallu buddsoddi yn yr ardal.
"Ma' angen egni adnewyddadwy ac mae’r angen yn mynd i gynyddu ond ma' angen sicrhau bod yr ardal yn gweld buddion.”
Mae BBC Cymru wedi siarad gyda sawl ffermwr sy’n bwriadu bod yn rhan o’r prosiectau yma.
Dydyn nhw ddim am siarad yn gyhoeddus ond maen nhw’n dweud bod y cynlluniau’n rhoi cyfle iddyn nhw gwneud elw ychwangeol ar adeg anodd iawn i ffermwyr.
Ac mae’r datblygiad yn eu galluogi nhw i barhau i ddefnyddio’r safleoedd datblygu i bori defaid.
Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli Ynys Môn yn Senedd Cymru, drefnodd y cyfarfod cyhoeddus.
"Mae gen i bryderon gwirioneddol am raddfa'r datblygiadau solar yma ar Ynys Môn.
“Mae'r rhain yn brosiectau all arwain at golli rhannau helaeth o dir amaethyddol cynhyrchiol a'r gweithgareddau economaidd a swyddi ffermio cysylltiedig, yn ogystal â chael effaith fawr ar amwynder gweledol, gan ddod ag ychydig o fanteision lleol ar yr un pryd.
"Byddaf yn parhau i wneud yr achos i lywodraethau Cymru a'r DU am yr angen i gydnabod yr effeithiau niweidiol.”
Mae graddfa'r prosiectau yn golygu y bydd y penderfyniad terfynol ar brosiect 'Alaw Môn' Enso Energy yn nwylo Llywodraeth Cymru, tra bydd prosiect 'Maen Hir' Lightsource bp yn fater i Lywodraeth y DU benderfynu arno.
Does dim disgwyl penderfyniad terfynol am flynyddoedd o bosib, gyda gweinidogion Llywodraeth y DU i wneud y penderfyniad yn seiliedig ar argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na allan nhw wneud sylw am achos penodol.
Mewn datganiad, mae Lightsource bp yn dweud eu bod nhw wedi dewis y tir ar gyfer y datblygiad yn ofalus, i sicrhau bod amaethyddiaeth yn gallu parhau drwy gydol oes y prosiect.
Maen nhw’n pwysleisio eu bod nhw’n buddsoddi’n uniongyrchol i’r economi wledig leol trwy brydlesu’r tir.
Dyw Enso Energy heb ymateb i gais y BBC am sylw.