'O gannoedd i filoedd': Dathlu chwarter canrif o lwyddiant Gŵyl Cefni

Mwynhau gwyl CefniFfynhonnell y llun, Gŵyl Cefni
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gŵyl Cefni mor boblogaidd yn dilyn cyfnod Covid fel bod yn rhaid symud y lleoliad o gefn tafarn y Bull, Llangefni

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i filoedd fwynhau Gŵyl Cefni dros y penwythnos i ddathlu chwarter canrif digwyddiad a oedd ar y dechrau ond yn denu cannoedd.

Gyda'r ŵyl bellach yn un o brif ddigwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg, mae'r trefnwyr yn gobeithio cynnal y bwrlwm yn y dyfodol ar ôl twf mawr dros y blynyddoedd diwethaf.

Dechreuodd yr ŵyl yn Llangefni yn 2000 fel rhan o weithgareddau Menter Iaith Môn yn sgil sefydlu Menter Môn yn 1995.

Doedd dim gŵyl debyg ar yr ynys ar y pryd yn ôl un o'r trefnwyr Elen Hughes, cyfarwyddwr prosiectau Menter Môn.

Ond doedd y digwyddiadau cyntaf ddim yn llwyddiant gyda'r lleoliad cyntaf ym maes parcio neuadd y dref yn llawer rhy fawr.

Torf yn gwylio canu ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Gŵyl Cefni
Disgrifiad o’r llun,

Y dyddiau cynnar - a maes parcio neuadd y dref yn bell o fod yn llawn

"Doedd yr ŵyl ddim digon mawr i'r maes parcio," meddai.

"Wnaethon nhw drio Cae Sioe un flwyddyn a wnaeth hwnna ddim gweithio, ac wedyn wnaeth yr ŵyl setlo ym maes parcio tafarn y Bull am flynyddoedd ac roedd o'n ddigon selog a phobl wrth eu bodd efo fo."

Ar ôl saib dros gyfnod Covid, pan ddaeth yr ŵyl yn ei hôl wedi'r pandemig roedd y Bull "dan ei sang" a phenderfynodd y pwyllgor ei bod hi'n bryd symud yn ôl i faes parcio neuadd y dref.

"Roedda ni wedi gwirioni bod ni efo portaloos ac yn meddwl 'da ni'n ŵyl go iawn rŵan', efo bins a'r holl gyfleusterau sydd ei angen ar ŵyl," meddai Ms Hughes.

"Ac roedd pobl mor gefnogol ac roedd yr holl dref yn falch ohono."

Mae'r nifer o wirfoddolwyr wedi dyblu ers ailddechrau ar ôl y pandemig.

Dros y blynyddoedd mae'r ŵyl wedi addasu, gan gynnwys cynnig digwyddiadau i'r teulu a chynnal gigs ar y nos Wener am y tro cyntaf yn ogystal â'r dydd Sadwrn arferol.

Meddai Ms Hughes: "Roedd o'n boen - roedda ni'n gweithio mor galed i roi bob dim i fyny am ddiwrnod ac wedyn ar y dydd Sul roedd bob dim yn dod lawr.

"Felly blwyddyn diwetha' dyma ni'n meddwl pam ddim gwneud y nos Wener hefyd - dydi'r gost ddim gymaint â hynny yn fwy."

Elen Hughes, rheolwr prosiectau Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Ers pum mlynedd mae Elen Hughes, rheolwr prosiectau Menter Môn, wedi bod yn cydweithio gyda phwyllgor lleol i drefnu Gŵyl Cefni

Gyda hyd at 3,000 y dydd yn mynd i'r ŵyl yn ei safle newydd, mae'r costau hefyd wedi codi o rhwng £10-15,000 i £40-50,000.

Llynedd am y tro cyntaf roedd rhaid talu am docyn ac eleni bydd tocyn oedolyn yn £10, £5 i bobl ifanc yn eu harddegau a phlant yn cael mynd am ddim.

"Ar y dydd Sadwrn mae bandiau fel Fleur de Lys, Gwilym, Mared, Cordiau, Anghysur, Morgan Elwy... 10 band i gyd, felly mae o'n costio £1 y band," meddai Ms Hughes.

"Mae 'na sawl trafodaeth wedi bod dros y blynyddoedd am godi tâl am docyn ond gan fod 'na ffasiwn gostau roedd rhaid i ni godi ffi, ond rydan ni'n hapus i dderbyn adborth, ond os fydden ni ddim yn codi ffi byddai rhaid addasu neu chwilio am arian o ffynonellau eraill.

"Rydan ni wedi mynd o ychydig gannoedd yn troi fyny i ychydig o filoedd. 'Dan ni ddim eisiau tyfu mwy a mynd yn rhy fawr.

"Da ni eisiau cynnal y bwrlwm. Gŵyl i bobl y dref a'r ardaloedd o gwmpas ydi hi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.