Y Gŵyliadur: Ryff geid i wyliau cerddorol Cymru 2025

Merch ifanc gyda'i breichiau yn yr awyr mewn cymeradwyaethFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn/Yr Eisteddfod Genedlaethol
  • Cyhoeddwyd

Mae'r dyddiau'n ymestyn a'r haul yn tywynnu (wel, weithiau…), sy'n golygu un peth - mae'n gyfnod gwyliau cerddorol Cymru.

Roedd cyfnod pan doedd ond llond llaw o wyliau yn bodoli, ond bellach mae 'na ddegau rhwng Mai a Medi a rhai newydd yn codi bob blwyddyn.

Ond ble i fynd? Yn ffodus, mae gwefan Awni, dolen allanol, sy'n rhestru gigs a gwyliau Cymraeg drwy'r flwyddyn, wedi creu rhestr o'u detholiad nhw i Cymru Fyw.

Map y wyliau'r gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Map o ddewis Awni o rai o wyliau'r gogledd. Sgroliwch lawr am fap o'r de

Gŵyl Fwyd Caernarfon (10/05)

Mae 'na reol bob mis Mai yng Nghaernarfon - sef bod y tywydd BOB TRO'N braf i'r Ŵyl Fwyd, ac mae'n edrych yn addawol y bydd y rheol yn parhau unwaith eto eleni.

Gŵyl fwyd ydi hon ond mae'n teimlo fatha rhyw fath o steddfod flynyddol i'r Cofis gyda miloedd yn heidio i'r dre efo sawl llwyfan gerddorol, sawl band yn chwarae (pobl fel Phil Gas a'r Band, Geth Tomos a'r Band Gobaith, a Gai Toms a'r Atoms) ac wrth gwrs, digon o fwyd!

Gŵyl Fach y Fro (17/05)

Gwyl Fach y FroFfynhonnell y llun, Gŵyl Fach y Fro

Pan mae'r haul yn tywynnu, does 'na'm llawer o ddigwyddiadau mwy hafaidd na Gŵyl Fach y Fro. Pawb yn torheulo ar y gwair ar Ynys y Barri a'r môr yn gefndir anhygoel i'r llwyfan.

Mae'r rhestr o fandiau yn edrych yn wych unwaith eto eleni gydag enwau fel Tara Bandito, Bwncath a Taran.

Tregaroc (17/05)

TregarocFfynhonnell y llun, Elen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Tregaroc - oedd yn dathlu'r 10 llynedd

Mae Tregaroc yn teimlo fel defnyddio peiriant amser i fynd nôl i Steddfod Tregaron yn 2022 (y Steddfod ora 'rioed).

Ma' hi'n ŵyl fywiog a chymunedol gyda'r dorf gyfan yn ymlwybro o lwyfan i lwyfan gan ddechrau ar sgwâr Tregaron, cyn mynd i'r clwb bowls ac yna gorffen yn y Clwb Rygbi.

Gŵyl Triban Eisteddfod yr Urdd (30-31/05)

Torf yn gwylio gig yng Ngwyl Triban yr UrddFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn mwynhau Gŵyl Triban, sy'n cael ei chynnal ar ddiwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd

Ym Mharc Margam ym Mhort Talbot fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal eleni.

Bydd Gŵyl Triban yn cloi'r wythnos gyda rhestr hirfaith o fandiau yn perfformio. Bydd noson Nwy yn y Nen yn cael ei chynnal ar y nos Wener er cof am Dewi Pws a bydd artistiaid fel Mared, Huw Chiswell ac Aleighcia Scott yn chwarae ar y nos Sadwrn.

Gŵyl Cefni (04-07/06)

Mae Môn Mam Cymru yn gartref i sawl digwyddiad dros yr haf, ond ella nad oes un mor fywiog â Gŵyl Cefni yn Llangefni?

Gyda thocynnau newydd gael eu rhyddhau, bydd sawl un o Wlad y Medra yn siŵr o fod wedi bachu rhai yn barod. Mi oedd yr ŵyl wedi rhannu neges ar 1 Ebrill yn datgan y bydd Oasis yn perfformio yno y flwyddyn yma… ond yn anffodus ma' nhw 'chydig bach yn brysur.

Gŵyl Tawe (07/06)

AdwaithFfynhonnell y llun, Adwaith
Disgrifiad o’r llun,

Adwaith

Mi fydd Gŵyl Tawe yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ardal marina Abertawe eto yn 2025. Gyda dwy lwyfan, mae 'na ddigon o ddewis o fandiau.

Ymysg yr enwau ar y rhestr o'r rhai sy'n perfformio mae Gruff Rhys, Adwaith ac Eädyth.

Tafwyl (14-15/06)

TafwylFfynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tafwyl wedi cael ei chynnal mewn sawl lleoliad yn y brifddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd. Fe fydd ym Mharc Biwt unwaith eto eleni

Heb os, un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr cerddorol Cymraeg a'r cyfan yn cael ei chynnal ym Mharc Biwt yn y brifddinas.

Mae'n rhyfedd meddwl bod Tafwyl wedi dechrau fel bandiau yn chwarae ar gefn lori mewn maes parcio ym Mhontcanna. Mae'n teimlo fel ei bod hi'n tyfu bob blwyddyn. Mae'r lineup yn 'star studded' gyda bandiau fel Diffiniad, Pys Melyn a Fleur De Lys.

Roc y Ddol (21/06)

Ma' 'na hen edrych ymlaen ym Methesda ar gyfer hon. Ar gae'r clwb rygbi mi fydd rhai o gewri'r sin cerddorol yn diddanu Pobl Pesda.

Gyda'r rhestr o'r rhai sy'n perfformio yn cynnwys Bwncath gyda Bryn Fôn, Elin Fflur a Dafydd Iwan, mae'n siŵr o fod yn noson i'w chofio. Ma' 'na hyd yn oed tocynnau VIP ar gael i'w prynu!

Gŵyl Bro (4-5/07)

'Da ni'n edrych ymlaen 'mynd nôl i Flaenau Ffestiniog eleni. A fatha Gŵyl Fwyd Caernarfon, 'wir i chi ma hi'n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog'. Dyma ddigwyddiad lle mae pobl Blaenau i gyd yn gwisgo sombreros am y penwythnos a mae hi wastad yn dipyn o fiesta.

Gynt yn gartref i Ŵyl Car Gwyllt, mi fydd clwb rygbi Bro Ffestiniog yn cynnal Gŵyl Bro eleni. (Dim lineup eto.)

Gŵyl Rhuthun (05/07)

Heblaw am yr Eisteddfod eleni, dyma siŵr o fod ydi gŵyl Gymraeg mwya'r Gogledd Ddwyrain.

Mae Sgwâr San Pedr yn Rhuthun wastad yn orlawn. Mi fydd y dorf yn siŵr o fwynhau'r arlwy o fandiau sy'n chwarae yn 'top dre.'

Bydd bandiau fel TewTewTennau, Yws Gwynedd, Gwilym a Welsh Whisperer i gyd yn chwarae.

Mao o rai o wyliau cerddorol De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o wyliau cerddorol De Cymru

Gŵyl Canol Dre (12/07)

Un o uchafbwyntiau'r haf yng Nghaerfyrddin ydi Gŵyl Canol Dre.

Fel mae'r enw yn awgrymu, mae'r cyfan yn cael ei chynnal ym Mharc Myrddin yng nghanol y dref. Bydd dwy lwyfan yn cynnal perfformiadau gan fandiau fel Yws Gwynedd a Huw Chiswell.

Sesiwn Fawr Dolgellau (18-21/07)

cefn Gwesty'r Ship yn fan sy'n creu awyrgylch unigryw yn y Sesiwn FawrFfynhonnell y llun, Sesiwn Fawr Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefn Gwesty'r Ship yn fan sy'n creu awyrgylch unigryw yn y Sesiwn Fawr

Bob blwyddyn mae 'na gylch mawr coch yn ein calendr ni - a hynny ar gyfer 'SFD'. 'Da ni 'di clywed sawl un yn disgrifio hon fel "sut oedd yr Eisteddfod yn arfer bod cyn bod 'na far ar y maes" - sef pob tafarn mewn tref yn llawn dop. Bydd sawl llwyfan unwaith eto eleni.

Tri diwrnod llawn hwyl gyda bandiau fel Buddug, NoGoodBoyo a Mynediad am Ddim i gyd yn perfformio.

Eisteddfod Wrecsam (2-9/08)

Eden ar Lwyfan y MaesFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn/Yr Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Eden ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 2024

Heb os, digwyddiad Cymraeg mwya'r flwyddyn.

Wedi i'r clwb pêl-droed sicrhau dyrchafiad, mi fydd Wrecsam yn gobeithio gweld y parti yn parhau ym mis Awst.

Dwn i'm lle i ddechrau o ran y lineup, mae 'na GYMAINT i'w weld. Ond yn bersonol, 'da ni'n edrych ymlaen ar gyfer aduniad Anweledig yn ogystal â'r ardal newydd Hwyrnos (i bobl fel ni sydd yn rhy hen i Maes B bellach).

Gŵyl y Gogs (29/08 + 30/08)

Dyma ŵyl weddol newydd i'r calendr cerddorol, a hynny yn Y Bala.

Mae gwefan Facebook Gŵyl y Gogs yn hysbysebu ei hun fel 'cerddoriaeth, bwyd a chwrw da' - be' fwy 'da chi angen? Wrth gofio dyddiau Wa Bala, mae'n braf gweld bod Gŵyl y Gogs yn ailgynnau'r fflam o gerddoriaeth byw ar lannau Llyn Tegid.

Yn hwyr ym Mis Awst, pa ffordd well i ffarwelio gyda'r haf na mwynhau'r bandiau a chwrw da mewn noson llawn hwyl?

  • Am fwy o fanylion ac am wybodaeth am wyliau eraill ewch i wefan Awni, dolen allanol neu cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol am ddigwyddiadau yn eich ardal chi

Pynciau cysylltiedig