Sefyllfa Amgueddfa Cymru yn troi’n 'argyfwng'

Amgueddfa Cenedlaethol CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd angen gwerth £25m o waith

  • Cyhoeddwyd

Mae heriau sylweddol yn wynebu Amgueddfa Cymru yn ei ffurf bresennol, yn ôl cyfarwyddwr casgliadau ac ymchwil y sefydliad ar ôl blwyddyn anodd iawn. 

Heb fwy o fuddsoddiad yn yr adeiladau, mae’n bosib y bydd y sefydliad yn edrych yn un tra gwahanol yr adeg yma y flwyddyn nesa'.

Dywedodd Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru Dr Kath Davies y bydd yn rhaid ail edrych ar gynnwys rhai o’r casgliadau.

"Falle mai’r her fwya’ yw sut ni’n gofalu am y casgliad yn y ffordd briodol o fewn y cyd-destun adeilad hanesyddol sydd angen tipyn o waith arno fe," meddai.

£90m o waith cynnal a chadw

Disgrifiad o’r llun,

Mae to Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gollwng dŵr ac yn achosi pryder am ddiogelwch y casgliadau

Mae dros bum miliwn o eitemau amrywiol yn rhan o gasgliad swyddogol Amgueddfa Cymru.

Mae hynny yn ei hun yn cynnig sawl her, ond eleni yn fwy nag erioed, yr heriau ariannol sydd wedi hawlio’r penawdau.

Mae gwerth dros £90m o waith cynnal a chadw i’w wneud ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru, gyda gwerth dros £25m o waith i’w wneud yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Dywedodd Dr Kath Davies: “Ni wedi bod yn ffodus i gael peth arian gan Lywodraeth Cymru i gywiro’r to, ond mae’r to yn un enfawr, a mae angen lot mwy o waith ar y to, a’r adeilad yn ei gyfanrwydd.

"Ond mae hwn yn dechre mynd yn argyfwng nawr a ni yn pryderu am y casgliadau, a’r posibiliad bydd yna niwed difrifol.”

Ychwanegodd ei bod yn "awyddus iawn bod pobl yn teimlo bod y casgliadau yn cael gofal iawn, a chasgliadau sy’n perthyn i Gymru yn cael y gofal sydd ei angen".

"Ar hyn o bryd does dim byd wedi cael ei ddifrodi.

"Ni wedi bod yn ffodus iawn a diolch i’r staff am hynny.

"Ond os mae’r sefyllfa yn parhau falle bydd hwnna ddim yn rhywbeth alla i ddeud amser hyn blwyddyn nesa’."

Gostyngiad mewn cyllid

Disgrifiad o’r llun,

Efallai na fydd modd derbyn mwy o gasgliadau, yn ôl Dr Kath Davies

Daeth cadarnhad fis Rhagfyr y bydd cyllideb yr amgueddfa’n gostwng 10% ac "mae hwnna’n her fawr i ni fel sefydliad," ychwanegodd.

"Byddwn ni’n gweithio fel tîm yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ni’n barod wedi dechrau paratoi ar gyfer hynny, i weld sut, a beth allwn ni ddarparu yn y ffordd orau o fewn y toriadau yma."

Mae 'na rybudd felly y gallai Amgueddfa Cymru edrych yn wahanol yr adeg yma’r flwyddyn nesa', gyda Dr Davies yn cydnabod y bydd yna benderfyniadau anodd i’w gwneud.

“Bydd rhaid i ni feddwl yn ofalus iawn am y casgliadau, falle byddwn ni ddim yn gallu derbyn mwy o gasgliadau, falle meddwl os mae rhaid i ni ail-leoli peth o’r casgliad."

Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd oherwydd bod y storfeydd ddim yn ddigonol gallwn ni ddim gwahodd y cyhoedd i fewn yn y ffordd y bydden ni’n dymuno, felly mae gwerth y casgliad mewn ffordd yn cael ei effeithio."

Cymryd diogelwch y casgliadau 'o ddifrif'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Amgueddfa Cymru yn derbyn £4.7m tuag at y gwaith cynnal a chadw

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n "cymryd diogelwch y casgliadau cenedlaethol o ddifrif a bod Amgueddfa Cymru yn derbyn dros £4.7m tuag at gynnal a chadw yn ystod y flwyddyn ariannol hon fel bod modd mynd i’r afael â'r prosiectau mwyaf.

"Mae’r llywodraeth wedi cael sicrwydd bod y casgliadau yn ddiogel ar hyn o bryd."