Cwmnïau dŵr i gydymffurfio â safonau iaith o Awst 2025
- Cyhoeddwyd
O Fis Awst 2025 bydd cwmnïau dŵr yn gorfod cynnig gwasanaethau Cymraeg ym mhob agwedd o’u busnes.
Dyma’r tro cyntaf i’r comisiynydd iaith osod safonau ar gyrff nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhai cyhoeddus.
Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy eisoes yn gweithredu cynllun iaith, ond yn paratoi i gydymffurfio â’r safonau ffurfiol a fydd yn dod i rym haf nesaf.
Dyma “gam cadarnhaol a hynod o adeiladol” meddai cyfarwyddwr rheoleiddio a dirprwy comisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn.
“Mae’r cwmnïau dŵr yn darparu gwasanaethau pwysig i ddefnyddwyr y Gymraeg, boed hynny yn ffurflenni, yn ohebiaeth yn ymwneud â biliau, gwefannau, a gwasanaethau sydd yn dod yn gynyddol bwysig megis apiau a chyfleusterau sgwrsio ar-lein.
“Wrth osod y safonau yma, mi ydan ni yn cynyddu’r cyfleodd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â chwmnïau dŵr,” ychwanegodd Mr Llywelyn.
Pwrpas ffurfiol y safonau iaith yw sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.
Mae’r ddau gwmni dŵr wedi bod yn gweithredu cynllun iaith o dan y ddeddf iaith, sy’n golygu bod nifer o agweddau o’r busnesau eisoes yn cydymffurfio â’r safonau.
Dywedodd Osian Llywelyn bod y cwmnïau “mewn lle da” yn barod.
“Mae 'na ddarpariaeth Cymraeg yno. Mae’r safonau yn gosod heriau newydd fydd yn golygu bydd elfen o ymbaratoi yn y cyfnod sydd i ddod,” meddai.
O’r canolfannau cyswllt yn y de a’r gogledd mae Dŵr Cymru yn ateb ymholiadau Cymraeg gan gwsmeriaid. Daw’r ymholiadau drwy’r ffôn, y cyfryngau cymdeithasol ac ar ffurf negeseuon digidol drwy’r wefan ac ar e-bost.
“Fi’n meddwl bod e mor bwysig, ac mae’r cwsmeriaid yn meddwl hynny hefyd,” meddai Courtney Brady, sy’n gweithio yn y ganolfan yng Nghaerdydd.
“O ran y galwadau maen nhw wastad yn dweud mae’n grêt i allu cael y cysylltiad Cymraeg.”
Mae’r gweithwyr dwyieithog yn derbyn tua 20 i 40 o alwadau ffôn y diwrnod.
“Ers i fi ddechrau, mae’r nifer o alwadau ni’n derbyn yn y Gymraeg wedi codi,” meddai Courtney.
Mae ei chydweithiwr, Katherine Kobeissi, yn dweud bod argaeledd y gwasanaeth dal yn synnu rhai.
“Mae dal yn sypreis i bobl bod gyda ni linell Gymraeg,” meddai.
Dwedodd mai “un neu ddau o alwadau y flwyddyn” oedd yn Gymraeg pan ddechreuodd yn ei swydd, ond bellach mae’n siarad â dwsinau o gwsmeriaid bob dydd.
“Oherwydd mai tîm bach ydyn ni, mae’n bersonol hefyd. Mae cwsmeriaid yn hoffi dod 'nôl atom ni, ac yn falch ein bod ni’n siarad yr un iaith,” meddai Katherine.
Mae’r heriau mwyaf i’r cwmnïau dŵr yn ymwneud â'r gwaith y tu hwnt i’r rhyngweithio gyda chwsmeriaid arferol.
Fe fydd angen gwella’r gwasanaeth Cymraeg wrth ddelio ag elfennau diwydiannol y busnes dŵr - fel y trafodaethau gyda chwmnïau adeiladu a’r rheoleiddwyr.
“Fel un o brif gwmnïau Cymru rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni yn darparu gwasanaethau dwyieithog,” meddai Heulyn Gwyn Davies o Dŵr Cymru.
“Mi fydd rhai safonau efallai yn fwy anodd i gydymffurfio â nhw nag eraill - yn enwedig meysydd mwy technegol, mwy arbenigol, efallai.
“Ond 'dan ni’n ffyddiog, maes o law, y gallwn ni gydymffurfio,” meddai Mr Davies.
Fe fydd Dŵr Cymru yn cynnal gwaith i asesu’r hyn fydd angen gwella cyn gorfod cydymffurfio â'r safonau haf nesaf.
Tra ei bod hi'n ofynnol i gwmnïau dŵr ufuddhau i'r safonau flwyddyn nesaf, mae gwaith ymgynghori wedi cychwyn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i osod y safonau ar y sector asiantaethau tai a gweithredwyr y rheilffyrdd.
Wrth i’r safonau ddod yn berthnasol y tu hwnt i’r sector gyhoeddus, mae arbenigwr ar y Gymraeg ym myd busnes yn dweud bod mwy a mwy o gwmnïau preifat yn hyderus am ddefnyddio’r iaith.
“Dwi’n teimlo fod y byd busnes wedi newid dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf,” meddai Zoe Pritchard, ymgynghorydd arweiniol cwmni Lafan.
Mae Lafan yn cydweithio â chwmnïau Cymreig ac wedi sylweddoli ar newid mewn agweddau tuag at yr iaith.
“Mae 'na lot yn fwy o fusnesau yn agored iddi hi,” meddai.
“Mae busnesau bendant yn gweld y budd, bellach.
“Maen nhw’n cydnabod bod llawer iawn o’u cwsmeriaid nhw yn siarad Cymraeg, mae’n gwneud y perthynas yna [gyda’r iaith] yn bwysig,” meddai Ms Pritchard.
Mae cwmnïau bach sy’n ddi-Gymraeg wedi mynd at Lafan am gymorth i wella’r arlwy Cymraeg, ac mae Ms Pritchard yn dweud bod angen i fusnesau mwya’r wlad arwain y ffordd.
“Os mae cwmnïau mawr yn cael eu gweld yn cydnabod y budd” o ddefnyddio’r Gymraeg bydd busnesau eraill yn sylweddoli “mae 'na bendant werth iddi,” meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023