Antur Ewropeaidd Caernarfon 'wedi bod yn anhygoel'

- Cyhoeddwyd
Mae’r antur Ewropeaidd ar ben i CPD Tref Caernarfon – am y tro o leiaf.
Ond ar ôl ymddangos mewn cystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cyntaf, mae’r Cofis wedi cael blas ac yn awyddus i brofi mwy yn y dyfodol agos.
Daeth ymgyrch Caernarfon yng Nghyngres UEFA i ben nos Iau wrth iddyn nhw golli yn erbyn Legia Warsaw o 11-0 dros ddau gymal.
Roedd hi wedi bod yn ymgyrch cyntaf bythgofiadwy i’r Canaries ar ôl curo Crusaders ar giciau o’r smotyn yn y rownd flaenorol.
Caernarfon yn 'creu hanes'
“Mae’r siwrna wedi bod yn anhygoel,” meddai’r rheolwr Richard Davies.
“'Da ni’n mynd lawr yn hanes y clwb fel y cyntaf i gyrraedd Ewrop, ac wedyn y fraint i ennill y gêm gyntaf adra ac yna mynd away a sgrapio dros y lein.
“Ond oedd hi’n teimlo’n sbesial i wneud o y ffordd yna.
“Ac wedyn y profiad o fynd i dîm fel Legia Warsaw away, mae’n rwbath tydi ddim llawer o bobl yn gallu dweud bod nhw wedi gwneud."

Dywedodd y rheolwr Richard Davies fod yr ymgyrch wedi bod yn "anhygoel"
Ychwanegodd: “Unwaith ti’n cael blas o rwbath fel yna, gemau fel yna ti isio bod yn involved yn.
“Mi fyddan ni’n defnyddio hwnna fatha incentive rŵan i drio gwneud yn dda season nesa'.”
Bydd Caernarfon yn cael €700,000 am gyrraedd yr ail rownd ragbrofol.
Ond mae'r ffigwr yma cyn ystyried costau teithio, a ffactorau fel cost defnyddio Stadiwm Nantporth ym Mangor ar gyfer y gemau cartref.

Dyma'r tro cyntaf i'r tîm ymddangos mewn cystadleuaeth Ewropeaidd
“Bydd rhaid i ni iwsho fo yn gall,” ychwanegodd Richard Davies wrth sôn am yr arian y bydd y clwb yn ei dderbyn.
“Mae’n rhaid ni eistedd i lawr rŵan, cael conversations call a sut ‘da ni am ddefnyddio’r pres.
“Ond fel rheolwr dwi isio datblygu ar y cae.
“Gobeithio gallwn ni wneud hynny a gwella’r cyfleusterau yn Yr Oval, so un diwrnod, os 'da ni yn managio gwneud Ewrop, cael fo yn Yr Oval.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024