Ci XL Bully wedi ymosod ar fachgen wrth iddo warchod ei deulu

Theo Scarpato HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Theo Scarpato Hughes ei frathu ar ei goes gan gi XL Bully tu allan i dŷ yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae bachgen 11 oed wedi disgrifio’r foment “frawychus” pan wnaeth ci peryglus ymosod arno wrth iddo geisio gwarchod ei frawd a’i chwaer fach.

Bu’n rhaid i Theo gael ei gludo i’r ysbyty am driniaeth ar ôl i gi XL Bully ei frathu y tu allan i dŷ yng Nghasnewydd.

Roedd yn cerdded gyda’i deulu pan ymddangosodd y ci, a bu’n rhaid iddo ddangos dewrder a meddwl chwim i wneud yn siŵr nad oedd unrhyw un arall yn cael niwed.

“Ro’n i’n gwybod bod fy mrawd a fy chwaer wir yn ofn cŵn, felly nes i geisio tynnu sylw’r ci i ffwrdd,” meddai.

“Ro’n i’n meddwl gallen i redeg yn gynt na fe, ond wedyn nes i gwympo, ac fe wnaeth e frathu cefn fy nghoes.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

“Unwaith nes i edrych lawr a gweld gwaed ar y llawr nes i deimlo’r boen,” meddai Theo

Digwyddodd yr ymosodiad tu allan i Eglwys Sant Michael yn Pilgwenlli toc cyn hanner dydd ar 30 Mehefin, wrth i’r teulu gerdded yn ôl i’r car ar ôl gwasanaeth.

Fe welon nhw XL Bully y tu allan i dŷ, ac felly aros iddo fynd i mewn cyn iddyn nhw gerdded heibio.

Ond fe redodd y ci yn ôl allan tuag atynt, a bu’n rhaid i Theo feddwl yn gyflym i warchod ei frawd Frankie, naw, a’i chwaer Susie, saith.

“Roedden nhw tu ôl i fi, felly nes i redeg allan i’r chwith, a mynd rownd car, ond wedyn nes i gwympo,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i Theo gael pwythau yn ei goes ar ôl yr ymosodiad

Cafodd y ci ei dynnu ymaith gan ei berchennog, ond roedd eisoes wedi brathu Theo ar ei goes gan achosi sawl cwt dwfn.

“Unwaith nes i edrych lawr a gweld gwaed ar y llawr nes i deimlo’r boen,” meddai Theo.

“Pan mae ci mawr fel ‘na yn rhedeg ar ôl chi dyw e ddim yn neis.”

Doedd ei dad Michael Hughes, 43, ddim yno pan ddigwyddodd yr ymosodiad, ond fe gyrhaeddodd yno’n sydyn.

“Petai’r perchennog ddim yna, neu os oedd e’n blentyn llai, gallai pethau fod wedi bod yn ddrwg iawn,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Theo a'i deulu

Cafodd Theo ei gludo i’r ysbyty, lle mae’n canmol y gofal a gafodd gan staff er nad oedd yn gallu eistedd oherwydd ei anafiadau.

Ychwanegodd Michael ei fod ef a mam Theo, Tina yn “flin ac yn ofnus” am y sefyllfa.

“Roedden ni jyst eisiau mynd i’r ysbyty a chael newyddion da mwy na dim,” meddai.

“Mae ‘na wythiennau yng nghefn y goes. Roedd e’n foment bryderus.”

Bellach mae Theo yn gwella, a bydd yn cael tynnu ei bwythau ddydd Iau – gan obeithio hefyd am ganiatâd i ddychwelyd i chwarae pêl-droed a rygbi’n fuan.

“Dwi’n teimlo’n llawer gwell, fi mwy neu lai yn gallu rhedeg nawr,” meddai.

Ond mae’r digwyddiad eisoes wedi bod yn rybudd i rai o’i gyd-ddisgyblion, gan gynnwys un ffrind oedd wedi bwriadu cael ci bocser newydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

“Mae pawb yn yr ysgol wedi bod mor neis i fi," meddai

“Y diwrnod o’n i yn ôl yn yr ysgol a ‘naeth e ffeindio mas beth oedd wedi digwydd, ‘naeth e ddweud ‘fi ddim yn cael un’,” meddai Theo.

“Mae pawb yn yr ysgol wedi bod mor neis i fi.”

Er nad yw ofn cŵn yn gyffredinol, hyd yn oed ar ôl yr ymosodiad, nid yw’n hoff nawr o’r rhai “gyda cheg fawr o glust i glust”.

Dydy hi ddim yn anghyfreithlon i fod yn berchen ar gi XL Bully yng Nghymru, ond mae’n rhaid eu cofrestru.

“Dylen nhw gael eu gwahardd yn gyfan gwbl,” meddai Michael.

“Mae arwyddo darn o bapur yn rhy hawdd. Maen nhw allan yna heb benffrwynau yn ymosod ar bobl.

“Mae angen gwneud mwy, achos mae cŵn fel yna yn arf. Dwi’n gwybod mae’n drist i feddwl, ond alla i ddim gweld ffordd arall. Mae fel petaen nhw’n ymosod am ddim rheswm.”

Mae Theo’n cytuno: “Ie, cael eu gwared nhw.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theo'n gobeithio am ganiatâd i ddychwelyd i chwarae pêl-droed a rygbi’n fuan

Fe gadarnhaodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi cael gwybod am y digwyddiad.

“Cafodd bachgen 11 oed ei gludo i’r ysbyty am driniaeth, a dyw ei anafiadau ddim yn rhai sy’n peryglu bywyd.”

Ychwanegodd y llu bod “ci XL Bully cofrestredig wedi cael ei ildio i swyddogion gan y perchennog”, er mwyn ei ddifa.

Pynciau cysylltiedig