Dathlu 20 mlynedd ers agor Canolfan Mileniwm Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yr wythnos hon.
Fe agorodd drysau'r ganolfan yn swyddogol am y tro cyntaf ar 28 Tachwedd 2004.
Yn ogystal â chynnal cyngherddau mawr, mae’r adeilad eiconig yn gartref i nifer o sefydliadau celfyddydol.
Ond mae’r ganolfan yn wynebu heriau ariannol, ac yn gweithredu ar golled bellach.
'Cwmpasu holl elfennau celfyddydol Cymru'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast yr wythnos hon, fe rannodd y cerddor Huw Tregelles Williams o Abertawe ei atgofion cynharaf o’r ganolfan.
Yn gyn-bennaeth cerdd BBC Cymru, roedd yn un o aelodau cyntaf bwrdd y ganolfan rhwng 2004 a 2009.
Er bod hanes dadleuol wedi bod i’r safle, gyda chynllun am dŷ opera wedi ei wrthod yn y 90au, dywedodd fod “Comisiwn y Mileniwm yn awyddus iawn i gael gweledigaeth fwy eang i’r celfyddydau yng Nghymru”.
“Mae 'na gyfleusterau gwych i Opera Cenedlaethol Cymru ond hefyd mae’n gartref i’r Urdd, Tŷ Cerdd, cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac yn y blynyddoedd diweddar, Cerddorfa Genedlaethol Cymru."
Ychwanegodd ei bod yn "ganolfan genedlaethol go iawn sy’n cwmpasu holl elfennau celfyddydol Cymru".
Wrth gofio yn ôl i’r dyddiau cynnar, dywedodd ei fod yn “gyfnod cyffrous tu hwnt”.
"Mae’r ganolfan wedi mynd ymlaen o lwyddiant i lwyddiant," meddai.
"Mae miloedd o bobl ifanc wedi troedio llwyfan enfawr y ganolfan - yr ail lwyfan mwyaf yn Ewrop - o ganlyniad i Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol."
Dywedodd fod “gweld wynebau’r plant yn goleuo” wrth berfformio ar y llwyfan yn brofiad arbennig, gan ychwanegu bod cael canolfan sy'n “cynnig cyfleusterau fel hyn, yn lledu gorwelion, yn codi disgwyliadau”.
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn awyddus i weld rhywle tebyg yn cael ei adeiladu yng ngogledd Cymru.
'Mae'n eitha' swreal'
Yn ogystal â bod yn gartref i saith o denantiaid o'r byd celfyddydol yng Nghymru, mae’r ganolfan hefyd yn cael ei hadnabod fel y man lle mae rhai o sioeau cerdd mwya’r byd yn cael eu perfformio.
Wrth i’r ganolfan ddathlu 20 mlynedd, sioe gerdd Hamilton sydd newydd agor yno'n ddiweddar, ac ymhlith y cast mae’r Cymro o Lanrhymni, Levi Tyrell Johnson.
Dywedodd iddo dreulio ei blentyndod, fel nifer o blant Cymru, yn gwylio sioeau cerdd yn y ganolfan.
"I fod yn rhan o’r sioe fwyaf yn y byd, mae’n eitha' swreal!" meddai.
"Pan oedd e’n dod mas ar Disney+ o'n i 'di gwylio fe pedair gwaith yn yr wythnos gyntaf!"
Dywedodd nad yw’n gallu credu ei fod yn “'neud fy hoff sioe yn fy ninas i”.
Ychwanegodd, pan fyddai’n dod i wylio ffilm pan oedd yn iau, ei fod “wastad yn eistedd yn y cefn achos fi’n dod o rywle heb lot o arian".
“Mae’n neis i actually fod ar y llwyfan nawr, a bydda i’n directo lot o beth dwi’n 'neud i’r cefn achos dwi’n gallu cofio bod yno fy hun."
Cyfnod anodd yn ariannol
Ond wrth i'r ganolfan ddathlu carreg filltir arbennig, daw hyn yng nghanol cyfnod anodd yn ariannol i'r celfyddydau.
Yn ôl ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2023/2024, maen Canolfan y Mileniwm yn gweithredu ar golled.
Roedd cyfanswm gwariant y ganolfan yn £24.5m ar gyfer 2023/24 tra bod ei hincwm am y flwyddyn honno yn £23.1m.
Mae'r sector gelfyddydol wedi profi nifer o heriau ariannol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda phrif weithredwr Cyngor y Celfyddydau, Dafydd Rhys, eisoes wedi dweud ei fod yn ofni y bydd sector proffesiynol y celfyddydau yn "diflannu" o fewn degawd os na chaiff ei ariannu'n iawn.
Er hyn, wrth edrych ymlaen at ddyfodol y ganolfan, maen nhw wedi cyhoeddi bwriad i adeiladu canolfan newydd "arloesol" a fydd yn canolbwyntio ar berfformio digidol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd