Arwerthwr: 'Mwy o bobl ifanc yn prynu gwaith Kyffin'

Olew Kyffin
Disgrifiad o’r llun,

Gwerthwyd 'Rhoscolyn, Ynys Môn' am £62,000, y pris uchaf erioed i'w dalu am olew gan Syr Kyffin Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae'r genhedlaeth iau bellach â diddordeb yng ngwaith yr arlunydd Kyffin Williams, medd un arwerthwr sy’n trefnu arwerthiannau arbenigol o gelf Cymreig.

Dywed Ben Rogers Jones bod printiau o waith yr artist o Fôn wedi dod yn ffasiynol a'u bod yn gwerthu'n dda.

“Maen nhw'n apelio at y to iau sydd efallai heb yr arian i brynu paentiad olew neu ddyfrlliw," meddai.

“Mae gweithwyr proffesiynol ifanc yn dod i mewn i'r farchnad gydag awydd am brynu print gwreiddiol ryw ddydd ac yn y pen draw, gobeithio, un olew."

Ond pam ‘Kyffin’?

Kyffin Watercolour
Disgrifiad o’r llun,

Gwerthwyd y dyfrlliw ‘Ceffylau yn yr eira’ am £18,000, gan dorri record am y pris uchaf am ddyfrlliw gan Kyffin

“Mae'n frand llwyddiannus gyda’r llofnod ‘KW’ a’r fframiau trwchus.

“Mae’r brand wedi galluogi gwaith Kyffin i aros yn ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae hi dal yn uchelgais i lawer fod yn berchen ar lun Kyffin Williams,” meddai Mr Rogers Jones.

Mae Robert Meyrick, cyn-bennaeth adran Gelf Prifysgol Aberystwyth, yn cytuno.

“Roedd Kyffin yn sicr yn frand. Rydych chi'n gwybod beth chi'n gael. Fel arlunydd, fe lywiodd yn llwyddiannus rhwng y Gymru Gymraeg a'r Gymru Saesneg.”

“Roedd Kyffin yn arloeswr yn hyn o beth,” ychwanegodd Mr Rogers Jones.

“Fo oedd yr arlunydd Cymreig cyntaf i gael brand a delwedd, sydd mor bwysig i'r farchnad y dyddiau hyn. Mae angen i bob artist fedru cyfleu ei stori yn dda, ei gwneud yn ddiddorol, sicrhau delwedd a brand clir fel ei bod yn hawdd i'w hadnabod a'u bod yn sefyll allan mewn marchnad sy’n orlawn. Roedd Kyffin yn rhagori ar hyn.”

Ben Rogers Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi dal yn uchelgais i lawer fod yn berchen ar lun Kyffin Williams, yn ôl yr arwerthwr, Ben Rogers Jones

Steil unigryw Kyffin

Mae cwmni arwerthwyr Rogers Jones yn dweud mai paentiadau olew Syr Kyffin Williams sy’n gyson yn cyrraedd y prisiau uchaf yn eu harwerthiannau arbenigol.

Ond beth yn union yw'r apêl barhaus a pham bod prisiau wedi codi eto?

Mae Phil Evans yn gasglwr celf ac yn hoffi’r ffordd mae Kyffin yn dogfennu’r tirlun a’i phobl mewn modd mor arbennig.

“Mae Kyffin yn portreadu tirwedd Cymru a bywyd gwledig sydd efallai’n dirywio nawr.

"Mae 'na elfen gref o hiraeth yn narluniau’r ffermwyr, y cŵn defaid, y cymeriadau yn y portreadau, ac yna, wel, ry’n ni’n gwybod pa mor boblogaidd yw Eryri erbyn hyn.

"Mae tirwedd Eryri, Ynys Môn, yr arfordir… Rwy’n meddwl ei fod yn dod â Chymru’n fyw,” meddai.

Olew gan Kyffin
Disgrifiad o’r llun,

"Mae na deimlad hiraethus yn ei baentiadau o fyd sydd ddim yn newid" yn ôl Robert Meyrick

Er nad ydi mynyddoedd Eryri at ddant pob un, mae modd gwerthfawrogi ei luniau, yn ôl Robert Meyrick.

“Datblygodd Kyffin lais unigol, ac mae'r farchnad yn hoffi hynny. Roedd ganddo arddull trawiadol a bu'n gweithio mewn amgylchedd cyfarwydd iddo.

“Y broblem i mi yw bod Cymru yn wlad fach sy'n cynnwys llawer o diroedd. Nid Cymru Kyffin o fynyddoedd creigiog yw fy Nghymru i.

"Dwi'n edmygu rhai ohonyn nhw fel paentiadau ond nid ydynt yn siarad â mi fel y mae portread George Chapman o gymoedd diwydiannol y De lle cefais fy magu, neu ddolydd John Elwyn a bryniau tonnog meddal Ceredigion lle rwyf bellach yn byw.

"Mae na deimlad hiraethus yn ei baentiadau o fyd sydd ddim yn newid. Does byth ceir, gorchuddion plastig, cotiau glaw, cerbydau fferm neu beilonau yn ymddangos yn ei waith.

"Ond roedd yn adnabod y tir a'r bobl fel cefn ei law, felly mae 'na wirionedd a gonestrwydd amdanyn nhw.”

'Lliwedd yn yr eira' Olew gan Kyffin
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Peter Lord mae "parhad oesol mynyddoedd Eryri wedi cael ei ecsbloetio erioed fel metaffor o wydnwch craidd y Cymry"

Y tirwedd a’r hyn mae’n ei gynrychioli sy'n bwysig i ddeall ffenomenon Kyffin Williams, yn ôl yr awdur celf, Peter Lord.

“Mae’r lluniau’n cyflwyno darlun o hunaniaeth genedlaethol sy’n glir a digyfaddawd. Mae parhad oesol mynyddoedd Eryri wedi cael ei ecsbloetio erioed fel metaffor o wydnwch craidd y Cymry.”

Ychwanegodd bod yr atyniad o brynu llun gan Kyffin yn "deyrngarwch at syniad, at yr hyn mae'r dirwedd yn ei gynrychioli i ymwybyddiaeth ddiwylliannol Gymreig.

Prisiau'n torri record

Print Kyffin
Disgrifiad o’r llun,

Gwerthwyd print gwreiddiol, ‘Gwastadnant’ am £3000, record arall i Kyffin

Dechreuodd Kyffin werthu ei baentiadau yn y 1940au pan roedd yn dysgu yn Ysgol Highgate, Llundain. Ond nid tan yr 1980au y dechreuodd darluniau Kyffin ymddangos yn rheolaidd mewn arwerthiannau.

Tarw du cymreig gan Kyffin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Tarw du Cymreig, sy'n cael ei ystyried yn brint eiconig gan Kyffin erbyn hyn

Mae cofnodion yn dangos bod y prisiau rhwng tua £1000-2000 nes i baentiad olew o’r enw ‘Welsh Blacks’ werthu am £5,200 yn Bonhams ym 1992.

Mae'r prisiau wedi codi ers hynny, ac yn arbennig yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, lle gwelwyd y prisiau uchaf erioed am baentiad olew, llun dyfrlliw a phrint.

Gwerthwyd yr olew am £62,000, y dyfrlliw am £18,000 a’r print am £3000.

Straeon perthnasol