Neil Foden: Allai'r pedoffeil fod wedi cael ei stopio?
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn cynnwys manylion a delweddau a allai beri gofid i rai darllenwyr
Roedd Neil Foden yn wyneb cyfarwydd ym myd addysg Cymru ac ar y cyfryngau.
Cymaint oedd ei ddylanwad, cafodd ei ddewis i ofalu am ysgolion eraill.
Ond y tu ôl i’w bersona cyhoeddus, roedd yn cuddio cyfrinach dywyll.
Cafodd pryderon am ei ymddygiad gyda rhai merched ifanc eu codi yn 2019.
A allai fod wedi cael ei atal?
Mae Neil Foden, 66 o Hen Golwyn, wedi cael dedfryd o 17 mlynedd dan glo - am feithrin perthynas amhriodol a cham-drin pedair merch yn eu harddegau yn rhywiol.
Cafwyd cyn-bennaeth Ysgol Friars ym Mangor a phennaeth strategol dros dro Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, yn euog ym mis Mai o 19 o gyhuddiadau.
Roedd y troseddau wedi digwydd dros gyfnod o bedair blynedd.
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd17 Mai
Cafwyd yn euog o:
12 cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn;
dau gyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth;
un cyhuddiad o achosi neu annog gweithgaredd rhywiol â phlentyn;
un achos o geisio trefnu i gyflawni trosedd rhyw â phlentyn;
un cyhuddiad o gyfathrebu rhywiol gyda phlentyn;
un achos o feddu ar luniau anweddus o blentyn;
un cyhuddiad o ymosodiad rhywiol ar blentyn.
Cafwyd o’n ddieuog o un cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phumed merch.
Roedd Foden yn brifathro yn Ysgol Friars ym Mangor am 26 mlynedd.
Cyn hynny roedd yn athro yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.
Cafodd ei wneud yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle rhwng Mehefin 2021 ac Awst 2022.
Bu hefyd yn rhoi cefnogaeth dros dro yn Ysgol y Gader, Dolgellau rhwng 2014 a 2015.
Yn ôl Cyngor Gwynedd ei ddyddiad ymddeol oedd 30 Ebrill 2024.
Galw’r heddlu
Medi 2023, a hithau’n ddiwrnod cyntaf y tymor roedd dros 1,400 o ddisgyblion Ysgol Friars yn setlo yn ôl o’u gwyliau haf.
Naw milltir i ffwrdd yng Nghaernarfon roedd y ditectif Jemma Jones mewn cyfarfod, ac mae hi’n cofio’r diwrnod pan ddaeth yr honiadau cyntaf am Foden i’r amlwg.
“Ges i wybod bod oedolyn wedi cysylltu ag ystafell reoli’r heddlu i dd'eud bod plentyn wedi datgelu ei bod hi, yn eu geiriau nhw, wedi bod mewn perthynas ramantus efo Neil Foden, a bod ganddyn nhw sgrinluniau o negeseuon," meddai.
“Roedd ganddi lawer o dystiolaeth, nid yn unig o ran ei hanes ei hun, ond hefyd o ran tystiolaeth ffotograffig.
“Roedd yna dystiolaeth fforensig yr oedd hi wedi gallu ei roi… negeseuon testun, lluniau, hynny i gyd.
“Roedd ei dewrder hi’n ganolog i’r ymchwiliad.
“Bu bron iddi, dwi’n meddwl, roi’r hyder i eraill i allu siarad allan.”
Aeth ditectifs dillad plaen i Ysgol Friars ac arestio Neil Foden.
'Mynd ag o i'r bedd'
Fe welodd yr heddlu ddelweddau o’r ferch - y cyfeirir ati fel Plentyn A – yn eistedd gyda Foden yn ei gar, a sgrinluniau o sgyrsiau yn sôn am weithredoedd rhywiol.
Mae’r ferch yn dweud fod pethau wedi dechrau wrth i Foden ei chofleidio, yna cusanu a chyffwrdd â hi yn agos.
Dechreuon nhw gyfnewid negeseuon WhatsApp - roedd Foden wedi ei storio yn ei ffôn o dan yr enw ‘Nick Jones’.
Byddai Foden yn mynd â Phlentyn A yn ei gar i leoliadau gwledig anghysbell ac yna yn ei cham-drin.
Roedd yn ei hannog i yfed llawer o ddŵr ac yna pwyso ar ei phledren, gan geisio gwneud iddi basio dŵr.
Cafodd yr heddlu hyd i dystiolaeth fod Foden wedi chwilio am wybodaeth ar-lein am fetish pasio dŵr.
Rhybuddiodd Foden y ferch na ddylai hi fyth ddweud wrth unrhyw un am yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud, gan ddweud wrthi fod yn rhaid iddi "fynd ag o i'r bedd".
Roedd Foden yn gwadu’r holl gyhuddiadau.
Yn ystod cyfres o gyfweliadau gyda’r heddlu yng Nghaernarfon gwrthododd Foden wneud unrhyw sylw.
Patrwm o gam-drin
Yn y dyddiau ar ôl i Blentyn A ddatgelu popeth i’r heddlu, daeth mwy o ferched yn eu harddegau ymlaen.
Dechreuodd patrwm o gam-drin gan Neil Foden ddod i'r amlwg.
Ar ôl ennill eu hymddiriedaeth, roedd y merched yn dweud bod ymddygiad Foden tuag atynt wedi dod yn fwy beiddgar.
Cofleidio, dal eu dwylo a thrafod gweithgareddau rhywiol a chael rhyw am y tro cyntaf.
Roedd un o'r merched yn dweud y byddai'n dal ei llaw, yn ei chofleidio ac yn pwyso'n agos yn ei herbyn.
Cydiodd yn ei gwddf hefyd - gan ddal ati, er iddi ddweud nad oedd yn hoffi hynny.
Dywedodd merch arall iddo binsio tu mewn i’w chlun, ei chofleidio a chyffwrdd â hi o dan ei dillad.
Yn ôl y merched roedd ymddygiad Foden yn gwneud iddyn nhw deimlo'n ansicr ac yn anghyfforddus.
Fis Hydref 2023 aeth merch arall at yr heddlu - Plentyn E.
Dechreuodd Foden feithrin perthynas amhriodol â’i cham-drin yn rhywiol yn 2019.
Pan oedd Foden yn teithio i ddigwyddiadau roedd yn mynd â hi i aros mewn gwestai.
Roedd o’n cael rhyw gyda hi ac weithiau’n ei rhwystro rhag symud drwy ddefnyddio belt neu gyffion les, cyn ei cham-drin yn rhywiol.
Byddai Foden yn cyfeirio at y ferch fel ei "sex toy".
Dywedodd wrthi ei fod yn hoffi pan oedd ganddi bledren lawn, ac roedd o’n ei hannog weithiau i beidio defnyddio'r toiled cyn iddi ei gyfarfod.
Pryderon wedi'u codi ynghynt
Daeth i’r amlwg yn ystod yr achos fod uwch athro wedi codi pryderon ynglŷn ag agosatrwydd Foden â Phlentyn E yn 2019, er fod eu pryderon ynglŷn ag enw da Foden ei hun.
Cafodd y rhain eu codi gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson.
Dywedodd o wrth y llys ei fod wedi cysylltu gydag uwch swyddog lles, ond cafodd wybod nad oedd angen cynnal ymchwiliad ffurfiol gan nad oedd unrhyw gyhuddiad penodol wedi cael ei wneud.
Er hynny, fe gafodd Mr Jackson gyngor i gael "sgwrs ddifrifol" gyda Mr Foden, gan ei atgoffa “o'r angen i gadw pellter addas” gyda phobl ifanc.
Esboniodd fod Foden wedi dweud wrtho fod y pryderon yn "or-ddramatig" ac fe fynnodd nad oedd unrhywbeth amhriodol wedi digwydd.
Dywedodd Mr Jackson wrth y llys nad oedd cofnod ysgrifenedig o’r trafodaethau hyn.
Yn ystod yr achos llys fe wnaeth y barnwr feirniadu methiant y cyngor i ymchwilio, gan ddweud fod hynny'n “peri pryder mawr".
Yn ddiweddarach gofynnwyd i Foden fod yn bennaeth strategol ysgol arall, Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes – swydd y bu ynddi am oddeutu blwyddyn o fis Mehefin 2021 tan Awst 2022.
'Byddai pethau wedi gallu digwydd'
Wrth i’r wybodaeth am droseddau Foden ddod i’r wyneb, fe darodd y newyddion un rhiant o Ysgol Friars fel gordd.
Pan oedd ei ferch yn cael trafferth yn yr ysgol, fe ofynnodd y gŵr - sydd ddim am i ni ei enwi - am help gan Foden.
Roedd o’n ei weld fel ffrind ar y pryd.
Am ychydig fisoedd fe gafodd y plentyn gysylltiad un-i-un â Foden.
"Wnes i erioed feddwl am eiliad bod yna unrhyw risg o gwbl, o gwbl, erioed… pam fyddai yna?" meddai'r tad wrth BBC Cymru.
Mae'r rhiant wedi rhannu negeseuon testun rhyngddo fo a Foden - negeseuon sy'n dangos pa mor ddiolchgar yr oedd o fel tad i gael cymorth.
Ond maen nhw hefyd yn dangos rhywbeth arall - roedd Foden yn ymddangos yn awyddus iawn i atal y tad a'i ferch rhag trafod y sesiynau un-i-un gydag unrhyw un arall.
Doedd y ferch ddim yn un o’r rhai wnaeth ddioddef dan law Foden, ond wrth edrych yn ôl, mae'r tad bellach yn teimlo y gallai hi fod wedi bod yn rhan o gynllun tywyllach.
"Mae'r syniad ohono yn annifyr iawn. Mae'n lot haws i fi feddwl 'Na, fyddai o byth wedi digwydd'.
"Y gwir amdani, pe bai o wedi cael unrhyw awydd, mi fyddai pethau wedi gallu digwydd.
"Fyddwn ni byth yn gwybod go iawn - dyna'r peth gwaetha. Wnawn ni fyth wybod be' oedd tu mewn i'w ben o."
'Fel llwynog mewn cwt cyw ieir'
Mae’n dweud ei bod yn sefyllfa "anfaddeuol" na chafodd y cam-drin ei atal yn gynharach.
"Fel rhiant, mae'n gwbl warthus ac anfaddeuol na wnaeth Cyngor Gwynedd drin hynny efo mwy o ffurfioldeb ar y pryd," meddai.
Wrth gyfeirio at y pryder a godwyd am Neil Foden yn 2019 dywedodd y tad: "Mi allai hynny fod wedi ei stopio fo.
"Dyna sy’n allweddol - 'naeth dim byd newid yn ei ymddygiad. 'Naeth o gario 'mlaen i weld y ferch.
"I fi, y cuddio 'ma sy’n bwysig - ond oedd o yn amlwg hefyd i bawb doedd? I bob pwrpas o'dd o fel llwynog mewn cwt cyw ieir.
"Dwi 'di treulio llawer gormod o amser yn meddwl amdano fo, yn poeni pa mor bell fydda' fo wedi mynd tasa Plentyn A ddim wedi dod ymlaen.
"Faint mwy o bobl fyddai wedi cael eu brifo?"
Yn gyn-uwch swyddog undeb, roedd Foden yn gymeriad di-flewyn-ar-dafod a’i ddulliau o arwain weithiau’n ddadleuol.
Yn 2018 fe wnaeth tribiwnlys cyflogaeth ei ddisgrifio fel arweinydd "unbenaethol" a pherson nad oedd yn gallu syrthio ar ei fai am ei fethiannau ei hun.
Yn 2020 fe wnaeth Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ei gael yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn dilyn honiadau o fwlio staff.
Ar ôl hynny cafodd ei ddiarddel fel uwch swyddog undeb NEU Cymru.
Yn Nhachwedd 2021 fe gododd helynt ar ôl anfon llythyr at rieni yn bygwth "dim cinio" i blant oedd â dyledion o fwy na cheiniog.
Yn Chwefror 2022 cafodd fideo dadleuol ohono’n gafael mewn disgybl ei rannu ar wefannau cymdeithasol.
'Angen y sylw'
Un oedd yn ei adnabod am gyfnod oedd Dr Mair Edwards, seicolegydd a chyn-lywodraethwr yn Ysgol Friars rhwng 2013 a 2016.
"O’n i wastad yn ymwybodol os o’n i’n mynd i’w swyddfa fo 'mod i’n teimlo fatha disgybl yn yr ysgol eto ac yn teimlo rhywfaint ar bigau’r drain," meddai.
"Yn fuan iawn nes i ddysgu bod o’n hynod sensitif i unrhyw fath o feirniadaeth.
"Oedd rhywun yn ymwybodol iawn, os oedd rhywun yn d'eud rhywbeth oedd o ddim yn licio, oedd ei lygaid o’n c'ledu ac oedd o’n rhyw fath o frochi braidd.
"Oedd ei gefn o’n mynd yn ôl ag oedd rhywun yn meddwl, 'oce, falle 'na i ddim mynd ar y trywydd yna ar hyn o bryd'.
"Oedd o angen y sylw, oedd o’n licio ei fod o efo’r undebau athrawon a bod o hefyd yn gallu bod yn eitha' pwysig o ran addysg yng Nghymru gyfan - nid dim ond yng Ngwynedd.
"A dwi’n meddwl bo ganddo fo angen hynny er mwyn teimlo ei fod o’n gneud swydd dda a bod pobl yn ei barchu fo.
"Dwi’n meddwl fod o’n hynod o bwysig iddo fo deimlo fod o’n cael ei barchu.
"Dwi’n meddwl, o’r llywodraethwyr oedd yn herio a falle rhai o’r athrawon hefyd oedd wedi trio herio, bod y teimlad nad oedd 'na bwrpas neud achos bod y peth yn amhosibl.
"O'n i wastad yn synnu falle bod yr awdurdod lleol, o wybod bod 'na drafferthion hefo’i ddull o arwain, wedyn yn ei benodi fo i fod yn bennaeth ar ysgolion eraill hefyd."
Er iddi adael corff llywodraethu’r ysgol yn 2016 cyn i droseddau Neil Foden ddod i sylw’r heddlu, mae Dr Edwards yn teimlo ei bod weithiau yn cwestiynu ei hun.
"Oedd o’n sioc," meddai.
"O’r holl gyhuddiadau fyswn i falle 'di meddwl bysa’n bosibl o ran bwlio neu o ran hyd yn oed bod o wedi colli ei dymer yn lân a 'di taro plentyn – nes i 'rioed feddwl mai cyhuddiadau o gam-drin rhywiol fasa wedi bod yn ei erbyn o.
"Oedd o’n sioc, a wedyn, dros y misoedd fel oedd yr achos yn dod nôl i’r llys o bryd i’w gilydd, o'n i'n ffeindio’n hun yn poeni 'mod i fel y llywodraethwr oedd efo cyfrifoldeb dros amddiffyn plant heb 'neud fy ngwaith yn iawn - 'mod i heb ofalu bod yr ysgol yn le diogel.
"Mae 'na gymaint o’r achosion yma wedi bod a 'da ni’n cael ymchwiliadau, mae 'na wastad wersi i’w dysgu, weithiau dwi’n poeni nad ydy’r gwersi hynny yn cael eu dysgu.
"Dwi’n meddwl bod 'na le yn sicr ar gyfer hyfforddi a cario 'mlaen i hyfforddi llywodraethwyr ynghylch cyfrifoldebau, ac yn amlwg yr athrawon hefyd."
Bwlio
Mae llawer o'r rhai mae BBC Cymru wedi siarad â nhw yn credu bod cyfleoedd wedi'u colli i atal Neil Foden.
Yn eu plith, y teulu Wilson o Lanberis.
Mae eu stori yn mynd nôl i 2014 pan oedd Simon Wilson yn athro gwyddoniaeth yn Ysgol Friars.
Roedd o’n poeni am farciau arholiadau yn cael eu cam-gofnodi ac felly fe aeth i ddweud wrth yr uwch reolwyr.
Mae teulu Simon yn dweud fod Neil Foden wedi cymryd yn ei erbyn ar ôl hyn, gan wneud ei fywyd yn anodd dros y misoedd a'r blynyddoedd wedyn.
"'Naeth ei iechyd meddwl o newid lot," meddai Beca Wilson, merch Simon.
"Oedd o’n ddyn rili hapus a hwyl i fod o gwmpas a 'naeth o newid, 'naeth o newid pan oedd o’n stressed.
"O'n i jyst mor ddiolchgar bod mam a fi a chwaer fi yn gallu supportio fo."
Yn 2017 penderfynodd tribiwnlys cyflogaeth nad oedd cyfiawnhad dros atal Simon Wilson o’i waith yn Ysgol Friars, gan ddisgrifio Foden o fod ag agwedd “bitw a dialgar”.
Cafodd Simon £8,000 mewn iawndal, ac mae bellach yn gweithio mewn ysgol arall.
Yn ôl y teulu, chafodd Foden ddim ei ddisgyblu gan y corff llywodraethol yn dilyn yr achos.
"Oedd o jyst wedi cael get away efo petha' am flynyddoedd a ma' hwnna’n 'neud rhywbeth i mental head space rhywun," meddai Beca.
"O'dd o’n meddwl 'mae gen i’r pŵer a dwi’n gallu gwneud beth bynnag dwi isio', ac yn anffodus 'naeth hwnna feddwl bod o wedi 'neud petha' terrible i’r genod 'ma, a dwi jyst mor sori bod hwnna wedi digwydd iddyn nhw.
"Wrth gwrs mae o ar fai, ond mae 'na lwyth o bobl arall sydd efo’r pŵer i stopio hwnna a 'naethon nhw ddim.
"Mae’n rhaid bod investigation ar Gyngor Gwynedd a’r governors yn Ysgol Friars achos maen nhw’r un governors 'naeth roi vote of confidence i Neil Foden ar ôl iddo fo gael ei ffeindio’n guilty o fod yn bwlio dad fi, a dydi hwnna jyst ddim yn 'neud sense o gwbl - so mae'n rhaid bod 'na investigation o’r cylch bach 'na oedd o gwmpas Neil Foden.
"Mae pobl yn gorfod clywed y gwir a maen nhw’n gorfod clywed beth sydd wedi digwydd a chael justice."
Cyngor wedi 'brawychu' gan y troseddau
Mae Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol wedi cael ei gyhoeddi i weld pa wersi sydd i’w dysgu.
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud mewn datganiad eu bod wedi “brawychu” gan droseddau Foden, gan roi clod i ddewrder a gwydnwch y merched.
Yn sgil yr achos llys mae cadeirydd ac is-gadeirydd bwrdd llywodraethwyr Ysgol Friars wedi ymddiswyddo.
Mewn llythyr dywedon nhw fod canlyniad yr achos wedi bod yn “garreg filltir arwyddocaol” iddyn nhw.
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd23 Mai
- Cyhoeddwyd15 Mai
Dywedodd Garem Jackson mewn datganiad bod amddiffyn plant yn "flaenoriaeth allweddol" iddo fel pennaeth addysg ar y pryd.
Ychwanegodd: "Mewn amgylchiadau prin lle codwyd pryderon yn uniongyrchol gyda mi, mi wnes i eu hadrodd i'r swyddog priodol, gan ddilyn y cyngor hwnnw, fel y gwnes i yn yr achos hwn."
Dywedodd Mr Jackson y bydd yn cydweithredu’n llawn â’r adolygiad annibynnol, gan ychwanegu bod "fy meddyliau gyda dioddefwyr Foden a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ei weithredoedd".
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Bydd rhaglen The Abuser Headteacher ar BBC One Wales am 22:50 nos Lun, neu mae ar iPlayer nawr.