Ci adre’n ddiogel wedi 60 diwrnod ar goll yn y Carneddau
- Cyhoeddwyd
Mae ci wedi cael ei haduno gyda'i pherchnogion ar ôl bron i 60 diwrnod ar goll yn y mynyddoedd yng ngogledd Cymru.
Diflannodd Bea, sy’n ast saith oed, uwchben Dyffryn Conwy ddechrau Rhagfyr, ac er bod rhai pobl yn dweud iddyn nhw ei gweld, ni chafwyd hyd iddi tan ddydd Sul diwethaf, 4 Chwefror.
Mae Bea y sbaniel bellach yn ôl gyda'i theulu yn Llanfairpwll, ac mae milfeddygon yn dweud ei bod yn iach er ei chyfnod ar fynyddoedd y Carneddau yn nyfnderoedd y gaeaf.
Dywed ei pherchnogion, Adam a Rachel Sergeant, na fyddai wedi cael ei chanfod o gwbl heb waith gwirfoddolwyr o dudalen Facebook o'r enw 'Lost Dogs North Wales Area', a oedd yn defnyddio dronau a chamerâu sy’n gweld gwres i chwilio amdani.
Cafodd Bea ei darganfod yn y pen draw pan welodd ffermwr hi wedi’i dal mewn ffens weiren bigog uwchben Llanfairfechan, dros 10 milltir o'r fan lle diflannodd hi.
Ond dydyn nhw dal ddim yn gwybod yn union ble aeth hi, na sut y llwyddodd i oroesi.
'Wedi colli’i ffordd'
Diflannodd Bea ar 8 Rhagfyr tra am dro gyda'i pherchnogion ger Llyn Crafnant uwchben Dyffryn Conwy.
"Roedden ni mewn coedwig fechan ac fe gyrhaeddon ni ardal agored lle'r oedd defaid", meddai Rachel, “felly, fe wnaethon ni alw'r cŵn i'w rhoi ar dennyn, ond doedd Bea ddim yn dod - roedd hi newydd ddiflannu."
"Roedd y tywydd mor wael y diwrnod hwnnw - roedd hi'n bwrw glaw mor galed doeddech chi methu dweud y gwahaniaeth rhwng llwybr troed a nant mewn mannau.
"Dyw hi erioed wedi rhedeg i ffwrdd, felly gallwn ni ond dyfalu ei bod hi wedi colli ei ffordd, wedi drysu neu fynd yn sownd rhywle am gyfnod byr."
Ond nid dyma'r tro olaf iddyn nhw ei gweld hi.
Dywedodd Adam: "Cawsom gip ohoni yng Nghapel Curig, felly fe ruthrais i draw yno i weld a oedd hi'n dal o gwmpas.
"Roedd Bea ym mhen draw gardd rhywun, dim ond metrau i ffwrdd. Fe wnes i alw arni ond fe drodd a rhedeg i ffwrdd.
"Roedden ni'n gwybod ei bod hi'n dal yn fyw, ond roedd hi'n canolbwyntio ar oroesi ac roedd hynny'n golygu anghofio pwy oedden ni."
58 diwrnod o chwilio
Fe dreuliodd Rachel, Adam a'u teulu y 58 diwrnod nesaf yn chwilio, ond doedden nhw ddim ar eu pennau eu hunain wrth chwilio am Bea.
Fe gawson nhw gymorth gan grŵp Facebook ‘Lost Dogs North Wales Area’, a brintiodd bosteri, rhannu gwybodaeth a hyd yn oed mynd allan gyda dronau a chamerâu synhwyro gwres i chwilio amdani.
Erbyn dechrau mis Chwefror, roedd Bea wedi bod ar goll am bron i ddeufis.
Ond clywodd Huw Jones, sy'n rhedeg safle Glampio Tair Afon yn Llanfairfechan, sŵn udo rhyfedd yn dod o ran o'i dir.
"Fe wnes i ddod o hyd i Bea wedi'i dal mewn cymysgedd o weiren bigog a gwifren plaen... roedd yn edrych fel ei bod hi wedi bod yno bedwar neu bum niwrnod.
"Fe gymerodd tua hanner awr i'w thorri hi allan yn y tywyllwch gyda golau fy ffôn."
Fe gafodd Bea ei harchwilio gan filfeddygon, ac er ei bod wedi colli llawer o bwysau ac wedi’i lliwio’n oren mewn mannau gan y mawn yn y mynyddoedd, roedd yn rhyfeddol o iach.
Dywedodd Adam a Rachel eu bod yn amau a oedd Bea wedi goroesi trwy hela cwningod neu fwyta bwyd defaid.
"Ein pryder mwyaf oedd y byddai'n ei chael hi'n anodd ffitio 'nôl i fywyd teuluol, ac y gallai fod yn ymosodol tuag at y plant, neu ein ci arall, Hatty", meddai Adam.
"Ond y munud y cerddodd i mewn, roedd hi 'nôl i’w hunan - yn dawel a thyner, hyd yn oed gyda'n mab ieuengaf, sydd bron yn ddwy.
"Dydyn ni ddim yn meddwl y bydd hi'n diflannu eto... Ond da ni eisoes wedi archebu traciwr GPS iddi - rhag ofn!"