Cyfle i longyfarch athletwyr Gemau Paris yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o'r Cymry fu'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ym Mharis fis diwethaf wedi cael eu croesawu adre'n swyddogol mewn digwyddiad yn y Senedd.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i wleidyddion longyfarch yr athletwyr ar eu campau - gan gynnwys y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Llywydd Elin Jones.
Mae'n arfer bellach i groesawu athletwyr adref a nodi eu llwyddiannau wedi digwyddiadau chwaraeon mawr.
Cymerwch Geraint Thomas wedi ei lwyddiant yn y Tour de France yn 2018, y tîm rygbi cenedlaethol ar ôl ennill y Gamp Lawn yn 2019, a'n hathletwyr wedi Gemau'r Gymanwlad.
Wrth annerch yr athletwyr dywedodd y Farwnes Tanni Grey Thompson - cadeirydd corff Chwaraeon Cymru - pa mor falch oedd hi o’u llwyddiant a’r modd y llwyddon nhw i ysbrydoli’r genedl.
Y tu allan ar risiau'r Senedd bu plant a phobl ifanc o Academi Berfformio Caerdydd a'r grŵp eclectig Wonderbrass yn diddanu'r cyhoedd, cyn i'r cyflwynydd Jason Mohammad gynnal sesiwn holi ac ateb gyda rhai o'r athletwyr.
Bu 33 o Gymry'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd a 22 yn y Gemau Paralympaidd.
Doedden nhw i gyd ddim yn bresennol, ond roedd yna gynrychiolaeth gref gan gynnwys y rhwyfwr Becky Wilde enillodd fedal efydd.
Yno hefyd oedd Ruby Evans, 17, ddaeth o fewn trwch blewyn at ennill efydd gyda thîm gymnasteg menywod Prydain.
O ran y para-athletwyr - ydych chi'n cofio'r penwythnos euraidd hwnnw pan enillodd athletwyr o Gymru bum medal aur mewn 24 awr?
Roedd nifer yn bresennol gan gynnwys Matt Bush (taekwondo), Ben Pritchard (rhwyfo), James Ball a Steffan Lloyd (seiclo) a Sabrina Fortune (taflu pwysau).
Matt Bush o Sanclêr gafodd y fraint o gario baner Prydain yn y seremoni i gloi'r Gemau Paralympaidd.
Yn ogystal â'r athletwyr roedd hyfforddwyr, perthnasau a ffrindiau'n bresennol, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd ddaeth i gefnogi ac ymuno yn y dathliadau.