Y Cymro sy'n hyfforddi pêl-droed Americanaidd

Cynan AnwylFfynhonnell y llun, Cynan Anwyl
Disgrifiad o’r llun,

Cynan Anwyl yn chwarae i Chester Romans

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Super Bowl yn fwy na gêm - mae'n achlysur enfawr yn y calendr chwaraeon rhynwgwladol.

Mae dros 60 miliwn o bobl yn gwylio dau dîm gorau'r NFL yn mynd benben â'u gilydd ar ddiwedd y tymor.

Nos Sul, roedd y Kansas City Chiefs yn ceisio ennill eu trydydd Super Bowl o'r bron. Ond colli oedd eu hanes o 40-22 yn erbyn y Philadelphia Eagles.

Mae'r achlysur yn denu sylw byd-eang gyda Sir Paul McCartney, Taylor Swift a'r Arlywydd Trump i gyd yn New Orleans i wylio'r gêm.

Ond pa mor boblogaidd yw'r gamp y tu allan i America ac yma yng Nghymru?

Mae Cynan Anwyl o Fangor yn hyfforddwr pêl-droed Americanaidd ac wedi chwarae yn y gorffennol cyn troi at hyfforddi. Mae'n credu fod diddordeb mawr yn y gêm yng Nghymru.

Bangor MudDogsFfynhonnell y llun, Cynan Anwyl
Disgrifiad o’r llun,

Criw o fyfyrwyr a chwaraewyr pêl-droed Americanaidd o Fangor yn gwylio'r Super Bowl

"Dwi'n cael sawl person yn dod ata i yn dweud eu bod nhw'n cefnogi timau yn yr NFL ond erioed wedi meddwl rhoi tro ar y gamp", meddai.

"Dwi'n dod o gefndir rygbi a dyna o'n i'n chwarae pan yn fengach, ond ar ôl symud i'r brifysgol yn Lerpwl, roeddwn eisiau gneud rhywbeth gwahanol felly dyma fi'n ymuno efo'r tîm pêl-droed Americanaidd yno."

Yn debyg iawn i Louis Rees-Zammit a drodd ei gefn ar chwarae rygbi dros Gymru er mwyn ceisio sicrhau cytundeb yn yr NFL, roedd Cynan yn teimlo bod y rhinweddau cychwynnol ganddo er mwyn rhoi tro ar bêl-droed Americanaidd.

"Ym Mhrydain mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau ar yr un lefel. Doedd bron neb yn chwarae'r gêm pan oeddent yn blant yma, felly pan mae pobl yn dechrau chwarae yn y brifysgol, does ganddyn nhw ddim profiad, felly mae pawb ar yr un lefel."

Tra'n chwarae i dîm Edge Hill Vikings yn y brifysgol fe wnaeth Cynan hefyd arwyddo i dîm Chester Romans. Roedden nhw'n chwarae ar lefel ychydig mwy cystadleuol a dyna pryd y dechreuodd gymryd y gêm o ddifri'.

"Ro'n i'n chwarae bryd hynny yn erbyn chwaraewyr da iawn ac roedd un o hyfforddwyr tîm Prifysgol Bangor yno hefyd.

"Dyma fo'n gofyn os baswn i'n dod i ambell sesiwn ymarfer ym Mangor i helpu fel Defensive Co-ordinator a dyna nes i.

"Yn y diwedd dyma fi'n mynd ac o fewn dim o amser ro'n i'n brif hyfforddwr y Bangor MudDogs."

Dylanwad Rees-Zammit

Mae Cynan yn credu bod poblogrwydd y gêm yng Nghymru wedi cynyddu ers i Louis Rees-Zammit fentro i America i geisio sicrhau cytundeb yn yr NFL.

"Pan nes i ymuno efo Bangor yn 2023 roedd 'na tua saith chwaraewr yn troi fyny yn rheolaidd i'r sesiynau ymarfer.

"Erbyn hyn mae tua 26-27, felly mae gyno' ni garfan dda. Mae sawl un yn dod o gefndir rygbi ac wedi clywed am Rees-Zammit yn dewis chwarae'r gêm ac eisiau rhoi tro arni eu hunain.

"Maen nhw'n frwdfrydig iawn ac eisiau dysgu ac mae hynny yn beth braf i weld," meddai.

Mae 'na bedwar tîm pêl-droed Americanaidd o brifysgolion Cymru, sef Taranau Aberystwyth, Bangor MudDogs, Swansea Titans a'r Cardiff Cobras.

gêm o bêl-droed AmericanaiddFfynhonnell y llun, Cynan Anwyl
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cynan yn ceisio denu mwy o chwarewyr i gymryd rhan yn gamp

Ers troi'n brif hyfforddwr mae Cynan yn ceisio denu mwy o chwaraewyr i'r gamp a wastad yn awyddus i groesawu chwaraewyr newydd, di-brofiad.

"Nes i ymuno efo'r tîm yn Lerpwl yn gwbl ddi-brofiad a does dim byd o'i le efo hynny.

"Mae poblogrwydd y gêm yn tyfu, roedd y bar neithiwr lle o'n i'n gwylio'r Super Bowl yn llawn ac mae'r NFL yn cynnal mwy o gemau y tu allan i America erbyn hyn hefyd sy'n profi'n boblogaidd.

"Dwi wedi bod i rai o'r gemau yn Wembley ac maen nhw'n achlysuron grêt. Y broblem yng Nghymru yw nad yw'r gamp yn cael llawer o sylw o wythnos i wythnos.

"Mae'r gemau sydd ar y teledu yn cael eu darlledu ar sianel ble mae gorfod talu amdani ac oni bai am Rees-Zammit dyw'r gamp prin yn cael sylw."

Cynan yn hyfforddiFfynhonnell y llun, Cynan Anwyl
Disgrifiad o’r llun,

Cynan yn hyfforddi tîm pêl-droed Americanaidd Prifysgol Bangor, Bangor Muddogs

Yn ogystal â hyfforddi yn y gamp, mae Cynan hefyd wedi denu sylw ar ei dudalen Instagram ac wedi creu gwaith i ambell chwaraewr proffesiynol yn yr NFL.

"Dwi wedi gwneud dyluniadau i rai o'r chwaraewyr. Dwi'n mwynhau gneud y rhain.

"Ges i neges bersonol un diwrnod ar fy nghyfrif Instagram gan Charlie Smyth, Gwyddel sy'n chwarae i'r New Orleans Saints yn hoffi dyluniad ohono fo o'n i wedi ei 'neud.

"Roedd hynny yn deimlad braf gan fy mod hefyd yn gefnogwr mawr o'r Saints."

Neges i Cynan gan Charlie SmythFfynhonnell y llun, Getty Images / Cynan Anwyl
Disgrifiad o’r llun,

Charlie Smyth o'r New Orleans Saints yn anfon neges i Cynan yn canmol ei waith dylunio

O ran y dyfodol, mae Cynan yn edrych ymlaen at barhau i hyfforddi.

Mae eisoes wedi cymhwyso mewn hyfforddi lefel 1 ac mae'n gobeithio cymhwyso gyda'r cam nesaf o ehangu ei wybodaeth am y gêm.

Er yr heriau i gêm o'r fath yng Nghymru, mae'n credu bod dyfodol i'r gamp yma gyda mwy yn chwilio am rywbeth gwahanol i rygbi.

"Mae hi'n gymuned agos iawn. Mae pawb yn dysgu efo'i gilydd ac ar yr un lefel.

"Mae'r gêm wedi newid fy mywyd i a dwi wedi gwneud ffrindiau am oes.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael datblygu'r gêm ym Mangor, dechrau chwarae gemau cystadleuol a gobeithio croesawu rhagor o chwaraewyr newydd."