Beth nesa' i Louis Rees-Zammit?

rees-zammitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Louis Rees-Zammit yn gwisgo lliwiau'r Kansas City Chiefs mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Detroit Lions yn Kansas City, Missouri ar 17 Awst, 2024

  • Cyhoeddwyd

Ar 16 Ionawr y llynedd cyhoeddodd Louis Rees-Zammit nad oedd am fod yn rhan o garfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad.

Dywedodd ei fod yn bwriadu mynd i'r Unol Daleithiau i roi cynnig ar bêl-droed Americanaidd (yr NFL).

Mae'r NFL ar hyn o bryd yng nghanol y gemau ail gyfle, gemau sy'n arwain at binacl y gamp ar ddechrau Chwefror, y Super Bowl.

Jacksonville Jaguars yw tîm y Cymro ar hyn o bryd, a daeth y cyhoeddiad yn ddiweddar bod prif reolwr y Jaguars, Doug Pederson, wedi'i ddiswyddo wedi tri thymor gyda'r tîm o Florida.

Gyda hyfforddwr newydd ar y ffordd, mae dyfodol Rees-Zammit yn parhau i fod yn ansicr.

Dyw'r Jaguars heb arwyddo'r chwaraewr i gytundeb arbennig sydd yn ei atal rhag trafod ei ddyfodol gyda thimau eraill yn yr NFL.

O ganlyniad i hynny, mae Rees-Zammit yn rhydd i drafod cytundeb newydd gyda un o'r 32 tîm sydd yn rhan o'r NFL, ond fe all ddiweddu'n chwarae i'r Jaguars beth bynnag.

Felly, beth mae'r holl newid yma yn ei olygu i gyn-seren rygbi Cymru?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr rhyngwladol yn cael eu harddangos gan yr NFL yn Detroit, Michigan - 27 Ebrill, 2024

Pan gyrhaeddodd Rees-Zammit yr NFL fe arwyddodd dros dîm ymarfer pencampwyr y Super Bowl - y Kansas City Chiefs, tîm sy'n cael ei hyfforddi gan Andy Reid ac sy'n cynnwys chwaraewr enwocaf y gamp heddiw, Patrick Mahomes.

Yn ôl Phoebe Shecter, cyn-hyfforddwr y Buffalo Bills a chyn-gapten tîm pêl-droed Americanaidd Y Deyrnas Unedig, mae sawl her yn wynebu Rees-Zammit ar y funud.

"Pryd bynnag mae prif hyfforddwr newydd yn ymuno â thîm mae rhaid iddyn nhw asesu'r holl chwaraewyr," dywedodd Schecter. "Bydd yr hyfforddwr newydd eisiau gweld pwy sydd yn ffitio i mewn i'w cynlluniau ar gyfer y tîm."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Phoebe Shecter, sylwebydd ar bêl-droed Americanaidd a chyn-hyfforwddwr gyda'r Buffalo Bills

"Mae chwaraewyr rhyngwladol (aelodau o garfan sy'n dod o du allan i'r UDA), fel Louis, yn aml yn cael eu hystyried fel risg isel oherwydd dydyn nhw ddim yn cyfri tuag at y cap ar nifer o chwaraewyr. Felly maen nhw'n opsiwn deniadol i dimau sydd eisiau datblygu chwaraewyr ifanc."

Cychwynnodd Rees-Zammit ar ei siwrne NFL gan arwyddo fel rhan o'r International Player Pathway (IPP) - rhaglen dechreuodd yr NFL gyda'r pwrpas o ledaenu'r gêm rownd y byd.

Pa mor debygol yw Louis Rees-Zammit o lwyddo yn yr NFL?

Hyd yn oed efo'i gyflymder ac ystwythder ar y cae rygbi, dydi addasu ei sgiliau i gamp wahanol heb fod yn hawdd i'r Cymro. Mae Rees-Zammit wedi cael ei defnyddio mewn amryw o safleoedd gan gynnwys running back ac ar special teams, ond fel wide receiver mae Schecter yn meddwl y bydd Rees-Zammit yn serennu.

"Ar ddiwedd y dydd mae'n dibynnu'n llwyr ar ddatblygu ei ddeallusrwydd o'r gêm," eglurodd Schecter. "Mae rhaid iddo ddysgu gymaint â phosib am y gêm. Mae wedi bod yn flwyddyn galed iddo, ond mae o'n athletaidd iawn, ac mae hwnna yn sicr am ei helpu."

Gyda phrif hyfforddwr newydd yn Jacksonville mae dyfodol Rees-Zammit yn yr NFL yn ansicr, ond mae ei dyfalbarhad i weithio i wella fel pêl-droediwr Americanaidd yn golygu fod ganddo siawns dda o lwyddo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Louis Rees-Zammit yn ymarfer gyda'r Jacksonville Jaguars

Cymhariaeth â Christian Wade

Nid Rees-Zammit yw'r chwaraewr rygbi cyntaf i wneud y naid o gae rygbi ym Mhrydain i'r gam yma yn yr Unol Daleithiau. Yn 2018 fe adawodd Christian Wade London Wasps i geisio creu gyrfa i'w hun yn yr NFL.

Yn debyg i Louis Rees-Zamit, fe wnaeth Wade gymryd rhan yn rhaglen IPP, ag ymunodd â thîm ymarfer y Buffalo Bills, ble yr oedd Phoebe Schecter yn hyfforddi.

"Christian Wade oedd y chwaraewr cyntaf i gyrraedd ar gyfer sesiwn ymarfer, a'r olaf i adael - dyna yn beth chi angen er mwyn llwyddo. Dydy o ddim yn unig i'w wneud efo dysgu'r symudiadau o'r playbook; mae angen addasu i ddiwylliant newydd, amsugno gwybodaeth, a newid i ffordd hollol wahanol o chwarae."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeoedd Rees-Zammit 32 gwaith dros Gymru rhwng 2020 a 2023, gan sgorio 14 cais

Pwysleisiodd Schecter y pwysigrwydd o fod ym mhresenoldeb y tîm yn gyson.

"Y mwyaf o amser rydych chi'n gallu gwario gyda'r chwaraewyr arall, y mwy o sgyrsiau rydych chi'n gallu cael. Dyna sut chi'n dysgu ac yn gwella mewn amgylchedd newydd."

Roedd yr ymdrech a ddangosodd Christian Wade i addasu i gamp newydd yn hollbwysig yn yr NFL, er mai ond am amser byr oedd efo'r Bills. Gall Rees-Zammit ddysgu o brofiadau Wade, a bydd angen iddo ddangos yr un fath o ddyfalbarhad a'r gallu i addasu er mwyn cael unrhyw siawns o lwyddo.

Gall Rees-Zammit ddychwelyd i rygbi yn chwaraewr gwell?

Mae Phoebe Schecter yn tybio bydd cyfnod Louis Rees-Zamit gyda phêl-droed Americanaidd yn dod a manteision sylweddol i'w ddatblygiad personol.

Yn siarad am feddylfryd Rees-Zammit, eglurodd Schecter "Mae rhaid edrych ar eich meddylfryd pob dydd, y ffordd o baratoi at gêm, a sut chi'n edrych ar ôl y corff gyda maeth ac ymarferion pwrpasol- bydd cyfuno hyn gyda chwarae mewn awyrgylch cystadleuol yn hanfodol i Rees-Zammit."

"Rydyn ni'n gweld mwy o symudiadau a thactegau pêl-droed Americanaidd yn rygbi nawr, fel Jukes Steps (newid cyfeiriad rhedeg yn gyflym cyn neu ar ôl cael y bêl). Ac ar y llaw arall mae pêl-droed Americanaidd yn benthyg gan rygbi hefyd, efo symudiadau tebyg i sgarmes symudol yn cael ei ddefnyddio'n amlach."

Golygai hyn y bydd Louis Rees-Zammit yn gallu defnyddio elfennau o'r ddwy gamp a all brofi'n hynod o effeithiol i'w dîm, ac fe all rygbi Cymru elwa o hyn yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig