Cynlluniau parcio newydd Caerdydd yn 'cosbi myfyrwyr'

Ellie Tudor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellie Tudor yn dweud bod y gallu i yrru car yn hanfodol ar gyfer ei hastudiaethau

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio y bydd cynllun parcio newydd yn gwella ansawdd aer yn y brifddinas ac yn lleihau anghyfleustra i drigolion lleol.

Fel rhan o'r cynllun fe fydd y brifddinas yn cael ei rhannu'n dair ardal - canol y ddinas, yr ardal fewnol a'r ardal allanol.

Fydd ddim modd i bobl sy'n byw yng nghanol y ddinas i gael trwydded parcio, ac er mai dyma oedd y bwriad gwreiddiol ar gyfer tai myfyrwyr hefyd, yn dilyn gwrthwynebiad mae'r cyngor nawr yn dweud y bydd modd i un person ymhob tŷ gael trwydded parcio.

Ond mae cynrychiolwyr myfyrwyr wedi cyhuddo'r cyngor o gosbi myfyrwyr.

Mae cynllun diweddaraf y cyngor yn rhannu Caerdydd yn dair ardal:

  • Canol y ddinas - sy'n cynnwys hanner ardal Cathays

  • Yr Ardal fewnol - sy'n cynnwys gweddill Cathays, rhannau o Grangetown, Tre-biwt, Glan-yr-Afon, Plasnewydd ac Adamsdown.

  • Yr Ardal allanol - sy'n cynnwys gweddill Grangetown, Tre-biwt, Plasnewydd, Adamsdown, Treganna, Sblot, Gabalfa a rhan o Benylan.

Yn ogystal â chyfyngu ar nifer y trwyddedau y bydd modd eu hawlio ymhob tŷ - bydd rheolau llym ynglŷn â faint o drwyddedau ymwelwyr sydd ar gael i dai myfyrwyr hefyd.

'Dydi cael car ddim yn luxury'

Mae Ellie Tudor yn dilyn cwrs addysg ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Mae hynny'n golygu ei bod hi'n treulio wythnosau ar y tro mewn ysgolion cynradd.

"Heb fy nghar i fyddwn i methu â chyrraedd placements," meddai.

"Dwi'n byw hefo saith o ferched ac allan o'r saith ohonom ni, mae pump ohonom ni'n gwneud yr un cwrs.

"Mae 'na siawns bo' ni gyd ar leoliad gwahanol yn ne Cymru ac angen teithio mewn car gwahanol. D'i o ddim yn luxury cael o, mae'n rhaid cael o ar gyfer y cwrs."

Ceir wedi eu parcio yn ardal Cathays
Disgrifiad o’r llun,

"Dydy'r system drafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ddigon da i fedru ymddiried ynddo," meddai Is-Lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Mae Undeb Myfyrwyr y brifysgol yn poeni hefyd.

Dywedodd Cynwal ap Myrddin, Is-Lywydd y Gymraeg: "Cosbi myfyrwyr maen nhw'n neud hefo'r drefn newydd 'ma.

"Mae gennym ni lwyth o fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau meddygol o ddoctoriaid i nyrsys i fydwragedd - ac mae rhain i gyd yn gorfod mynd ar leoliad mewn ysbytai ledled Cymru.

"Dydy'r system drafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ddigon da i fedru ymddiried ynddo, yn enwedig i'r rheiny sy'n gorfod gweithio shifftiau yn hwyr yn y nos.

"Yn sgil costau byw mae'n rhaid i fwy o fyfyrwyr nag erioed weithio, boed hynny'n mynd adref i orllewin Cymru neu dros y ffin i Loegr mae pobl angen eu ceir o ddydd i ddydd er mwyn fforddio byw yng Nghaerdydd."

Beth yn union yw'r cynlluniau?

Os daw'r newidiadau i rym, bydd yn rhaid i feiciau modur gael trwyddedau hefyd ond fe fydd yna drwyddedau arbennig ar gael i weithwyr iechyd a gofalwyr.

Fe fydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno'n raddol dros y deng mlynedd nesaf.

Yng nghanol y ddinas fe fydd gyrwyr anabl, tacsis, bysiau a cherbydau sy'n dosbarthu nwyddau yn cael blaenoriaeth.

Fe fydd yna reolau parcio mewn grym drwy'r dydd bob dydd a fydd yna ddim trwyddedau parcio i drigolion.

Yn yr ardal fewnol fe fydd yna amrywiaeth o barcio ar gael ond bydd yn rhaid talu rhwng 08:00 a 22:00 bob dydd.

Fydd yna ddim trwyddedau parcio i fusnesau ac fel rheol fydd ddim modd llwytho rhwng 08:00 a 22:00.

Yn yr ardal allanol fe fydd yna amrywiaeth o barcio ar gael ond bydd cyfyngiadau yn cael eu cyflwyno ar ôl ymgynghori gyda phobl leol.

Fe fydd yr oriau mae'n rhaid talu am barcio yn amrywio ond bydd yn rhaid gwneud hynny hyd at 18:30.

Mae 'na gynllun i gyflwyno tal ychwanegol am gerbydau mawr fel 'SUVs' a cherbydau sy'n llygru'n waeth na cheir eraill mewn ymgais i berswadio pobl i ddefnyddio ceir llai.

Nia Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Cooper yn gweld y newidiadau yn annog rhagor o bobl i weithio o adref

Roedd 6,381 o bobl wedi ymateb i ymgynghoriad y cyngor.

Y cynigion mwyaf dadleuol oedd cael gwared â thrwyddedau parcio yng nghanol y ddinas, ymestyn oriau talu am barcio yn yr ardal fewnol a dim ond cynnig trwyddedau i fusnesau yn yr ardal allanol.

Mae Nia Cooper yn gyrru i'w gwaith yng nghanol y ddinas.

"Fi'n credu bydd hwnna'n annog pobl i weithio o gartref ar adeg pan mae busnesau'n trio cael gweithwyr i ddychwelyd i swyddfeydd," meddai.

"Ar y foment dyw trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ddigon da, mae bysys yn gorffen yn gynnar yn y nos. Mae tacsis ar gael ond does dim digon o arian gyda phawb i fynd mewn tacsi drwy'r amser."

Rhys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Davies yn dweud ei fod yn ffodus fod maes parcio yn y swyddfa ble mae'n gweithio

Dyw'r newidiadau ddim yn debyg o gael llawer o effaith ar Rhys Davies sy'n gweithio yn y Bae.

"Fi'n lwcus achos does dim rhaid i fi dalu am barcio achos mae maes parcio yn y swyddfa. Dydy hynna ddim yn broblem i fi."

Yn ôl Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, hyn a hyn o barcio sydd ar gael a dyw'r polisi blaenorol gafodd ei gyflwyno yn 2016 ddim yn addas ar gyfer dinas ranbarth sy'n tyfu'n gyflym.

"Trwy wrando ar drigolion a busnesau ry' ni'n sicrhau bod ein strydoedd yn gweithio i bawb," meddai'r Cynghorydd Dan De'ath sy'n gyfrifol am gynllunio a thrafnidiaeth.

"Ry' ni'n cefnogi cymunedau lleol, yn taclo traffig ac mae hyn yn ein helpu i gyrraedd targedau hinsawdd."

Os gaiff y cynllun sêl bendith fe fydd yn rhaid diweddaru rheolau traffig presennol yr awdurdod lleol. Bydd angen ymgynghoriad arall er mwyn gwneud hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig