Dirwy i gwmni o Gymru a wnaeth filiynau o alwadau anghyfreithlon

Llun o ddyn ar alwad mewn call centreFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni yn Sir Benfro wedi cael dirwy o £300,000 am wneud galwadau marchnata awtomataidd anghyfreithlon.

Dywedodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) bod Home Improvement Marketing Ltd (HIM), sydd wedi'i gofrestru yn Llanddewi Felffre, wedi gwneud 2.4 miliwn o alwadau gan ddefynddio meddalwedd robotig mewn cyfnod o dri mis.

Fe wnaeth y galwadau sbarduno 274 o gwynion.

Mae'r ICO hefyd wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi i Home Improvement Marketing Ltd er mwyn eu gorchymyn i ddod â'u harferion anghyfreithlon i ben.

Llun o logo Swyddfa'r Comisiynydd GwybodaethFfynhonnell y llun, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ICO wedi rhoi dirwyon gwerth £550,000 i ddau gwmni ynni am wneud galwadau marchnata awtomataidd

Fel rhan o'r ymchwiliad, mae'r ICO hefyd wedi wedi rhoi dirwy £250,000 i gwmni Green Spark Energy Ltd (GSE), o Durham, am wneud 9.5 miliwn o alwadau marchnata awtomataidd.

Mae'r ddau gwmni wedi cael yr un cyfarwyddwr am gyfnodau, sef Mathew Terry, sydd ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr HIM ac oedd yn gyfarwyddwr GSE tan fis Mawrth 2024.

Fe ddefnyddiodd y ddau gwmni feddalwedd avatar, a oedd yn rhoi'r argraff bod pobl naill ai'n siarad â Jo, Helen neu Ian o'r DU.

Ond mewn gwirionedd llinellau oedd wedi cael eu recordio ymlaen llaw oedden nhw gan actorion llais, a'u chwarae gan asiantaethau galwadau mewn gwledydd tramor.

Roedden nhw'n cyflwyno'u hunain fel unigolion oedd yn ffonio ar ran 'Energy Hub' ac 'Energy Saving Team', a oedd yn cynnig paneli solar.

Fe wnaeth yr ICO archwilio ffôn symudol Mr Terry a chanfod dogfen yn gosod amcanion i asiantau geisio creu apwyntiadau gyda phobl drwy eu ffonio heb wahoddiad.

Y bwriad yn y pendraw oedd gwerthu cynnyrch inswleiddio i'r cartref.

Hefyd ar ei ffôn symudol roedd negeseuon WhatsApp yn trafod sut i osgoi cael eich dal gan yr ICO.

'Anoddach eu hadnabod'

Dechreuodd ymchwiliadau i'r cwmnïau fel rhan o ymgyrch ehangach cafodd eu sefydlu gan yr ICO i asesu a dadansoddi tueddiadau cwynion mewn perthynas â'r sector ynni a gwelliannau cartref.

Dywedodd Pennaeth Ymchwiliadau yn yr ICO, Andy Curry, fod y dechnoleg galwadau awtomataidd yn ei gwneud hi'n anoddach i'r cyhoedd eu hadnabod a'u hadrodd.

"Rydyn ni wedi clywed adroddiadau pryderus am sut mae cwmnïau diegwyddor yn defnyddio technoleg robo i dwyllo pobl oedrannus a bregus", meddai.

Ychwanegodd eu bod yn "deall mor ofidus y gall y galwadau hyn fod a byddwn ni'n gweithio ar ran y cyhoedd i ddal y rhai sy'n gyfrifol".

Mae'r rheoleiddiwr yn galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus o alwadau o'r fath gan bwysleisio eu bod yn anghyfreithlon.

Dywedodd: "Rydyn ni'n annog y cyhoedd i gymryd sylw o'n cynghorion i nabod y galwadau robo yma er mwyn dweud wrthon ni pryd maen nhw wedi cael galwad.

"Bydd hyn yn ein helpu i ymchwilio a chymryd camau gorfodi", ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.