Y dreth gyngor: Dyled pobl Cymru i gynghorau yn codi i £263m

taiFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae swm y dreth sy'n parhau i fod yn ddyledus i gynghorau Cymru wedi cynyddu 139%.

Roedd dyledion y dreth gyngor yn £103m am y 12 mis hyd at ddiwedd mis Mawrth - sy'n gyfanswm o £263m gan gynnwys taliadau hwyr o flynyddoedd blaenorol.

Mae nifer y taliadau hwyr, yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, hefyd wedi cynyddu bob blwyddyn ers dechrau'r argyfwng costau byw yn 2022.

Gwynedd yw'r sir sydd â'r lefel uchaf o'r dreth gyngor sy'n ddyledus fesul aelwyd (£373), tra bod Castell-nedd Port Talbot â'r isaf, sef £67.

O dan y rheolau presennol, mae unrhyw un sy'n methu taliad misol o'r dreth gyngor yn atebol i dalu bil y flwyddyn gyfan ar ôl pythefnos yn unig.

'Bwyd ar y bwrdd neu'r dreth gyngor?'

Dydi'r ffigyrau diweddaraf ddim yn synnu'r Dr Marlene Davies sy'n arbenigwr ar gyllid llywodraeth leol.

"Mae costau byw wedi codi shwt gyment, allwch chi ddweud - bwyd ar y bwrdd neu dalu treth y cyngor, does dim dewis gyda chi.

"Mae'r bobl yma sydd ddim yn talu treth y cyngor, dyw nhw ddim yn ei wneud e o ran dewis.

"Maen nhw'n neud e oblegid gorfodion sydd arnyn nhw o ran costau."

Dr Marlene Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn cael mwy o fudd nag eraill o'r dreth, medd Dr Marlene Davies

Yn ôl Dr Davies, yn nwylo'r cynghorau mae'r penderfyniad ynglŷn â pha feysydd maen nhw'n gwario'r arian, er bod rhaid ei wario ar rai sectorau.

"Mae addysg a gofal i'r henoed a gofal plant yn cymeryd rhan fwyaf o gyllid cynghorau sir.

"Mae'n rhaid iddyn nhw [cynghorau sir] roi arian tuag at addysg a rhaid iddyn nhw roi arian at ofal, felly mae'r rhan fwyaf o arian sy'n cael ei gasglu yn mynd at hynny, a dyw pobl ddim yn gweld hynny."

Ond mae rhai yn gweld budd yn fwy nag eraill, yn ôl Dr Davies.

"Os ydych chi'n bâr ifanc a dim plant a dim henoed yn perthyn i chi, dy'ch chi ddim yn gweld rhan fwyaf o hwnna.

"Beth y'ch chi'n weld yw tyllau yn yr hewl, dim goleuadau yn cael eu troi 'mlaen a phethe felly."

Beth yw'r dreth?

Y dreth gyngor yw prif ffynhonnell incwm sy'n cael ei gasglu yn lleol ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae'n cael ei godi ar eiddo domestig gyda'r swm yn ddibynnol ar werth yr eiddo.

Ond mae'n aml yn cael ei feirniadu am roi baich anghymesur ar aelwydydd tlotach.

Mae Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gael i gefnogi pobl dlotach, ac mae wedi cefnogi 258,685 o aelwydydd yn 2023-24.

Mae rhai eiddo wedi'u heithrio o'r dreth, er enghraifft y rhai sy'n cartrefu myfyrwyr yn unig, tra bod eraill - fel ail gartrefi - weithiau'n wynebu talu premiwm.

Mae aelwydydd eraill yn gymwys i gael gostyngiad, fel y gostyngiad person sengl sy'n lleihau'r bil o chwarter os oes rhywun yn byw ar ei ben ei hun.

Marilyn Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

"Fuodd o 'rioed yn deg naddo? Mae o'n lwmp mawr o gyflog rywun bob mis," meddai Marilyn Humphreys am y dreth

Mae Marilyn Humphreys o Wynedd o'r farn bod y dreth yn rhy uchel ar hyn o bryd.

"Ar y funud, dwi reit lwcus, 'da ni'n iawn - ddim yn berffaith efo pres, ond dwi'n medru ei fforddio fo," meddai.

"Dwi yn meddwl fod o rhy uchel am be 'da ni'n gael ynde.

"Mae'r lonydd 'ma efo tyllau, chwyn yn bob man a does 'na neb yn brwsio'r lle na dim byd.

"Mae 'na betha' mae'n rhaid iddyn nhw 'neud, ond dwi yn meddwl y dylia fo fod yn means tested, rheiny sydd efo lot o bres, alla nhw dalu ychydig bach mwy."

"Mae o yn struggle," meddai Linda. "Mae o'n ofnadwy o ddrud tydi, yn enwedig pan 'da chi ar eich pensiwn.

"Dwi'n byw fy hun, felly dwi'n cael dipyn off, ond mae'n anodd ofnadwy.

"Mae gen i grandson sydd wedi prynu tŷ, [ac] mae dros £1,000 [y flwyddyn] yn lot o bres o gyflog hogyn ifanc sydd isio talu treth ar ben ei forgais."

Linda
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Linda ei bod yn poeni am bobl ifanc a'r henoed yn benodol

Dywedodd un dyn arall ar y stryd ym Mangor ei fod yn poeni am y genhedlaeth nesaf.

"Plant fi a grandchildren - dwi'n poeni amdanyn nhw 'chydig bach ond problem nhw ydi hynny dim problem fi.

"Dwi'n teimlo fod prisiau yn mynd fyny a 'da ni ddim yn cael lot yn ôl... mae lôn ni lle 'da ni'n byw wedi malu yn racs, llawn potholes yn bob man.

"Bins - mae un bin yn dod bob pythefnos, un bin yn mynd bob tair wythnos neu rywbeth fel 'na, felly mae'r gwasanaeth yn mynd lawr a phrisiau yn mynd fyny."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod "camau'n cael eu rhoi ar waith i gryfhau ein trefniadau adfer".

"Mae cael yr ôl-ddyledion treth gyngor cyfartalog uchaf fesul annedd drethadwy yn effaith uniongyrchol o'r gyfradd gasglu gymharol isel," meddai.

Person ar y stryd ym Mangor
Disgrifiad o’r llun,

"Mae lôn ni lle 'da ni'n byw wedi malu yn racs," medd y dyn yma ar y stryd ym Mangor

Mae disgwyl newidiadau yng Nghymru yn 2028 wrth i ailbrisio eiddo ddod i rym ac fe allai hynny arwain at filiau pobl yn newid.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion i leddfu'r rheolau pan mae'n dod i fethu â thalu.

Mae'n cynnwys ymestyn y cyfnod i dalu bil y flwyddyn llawn os ydy rhywun yn methu taliad.

Gallai'r cyfnod newid o bythefnos i ddeufis ac mae'n bosib y bydd hi'n ofynnol i gynghorau gyfathrebu'n well â phobl ynghylch atgoffa am daliadau.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, fod y rheolau presennol yn "rhy ymosodol".

"Rydym am newid y rheolau i roi mwy o gyfle i gynghorau drafod â phobl sy'n gweld eu hunain mewn trafferthion ac i atal hynny rhag gwaethygu," meddai.