Pam nad oes mwy o'n pobl ifanc ni'n gynghorwyr?

Cynghorwyr ifanc
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp wedi’i sefydlu er mwyn denu mwy o gynghorwyr ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae angen gwneud mwy i ddenu pobl i sefyll fel cynghorwyr tref a chymuned, yn ôl rhai o bobl ifanc Cymru.

Yn etholiadau lleol mis Mai, dim ond 22% o’r 7,883 o seddi oedd â chystadleuaeth.

Roedd 62% o’r seddi’n rhai heb gystadleuaeth – sy’n golygu na chynhaliwyd etholiad – ac ni lwyddwyd i lenwi 16% o seddi.

Mewn ymateb, mae grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd wedi ei sefydlu i edrych ar y sefylla a cheisio'i gwella, ond yn ôl un cynghorydd ifanc, "‘dan ni’n bell o gyrraedd y lle delfrydol".

Ymgeisio 'heb groesi fy meddwl'

Wrth ymarfer côr ym Mhantycelyn, doedd nifer o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth erioed wedi ystyried ymgeisio i fod ar eu cynghorau tref a chymuned.

“Sai’n credu bod e erioed wedi croesi fy meddwl i i ymgeisio i fod yn gynghorydd,” meddai Dafydd James, 21 oed.

“Ma’ cyngor cymuned neu tref yn rywbeth chi’n ystyried mae pobl hŷn yn ei wneud. Rhieni, Dat-cus a Mam-gus, falle.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwenno Roberts ei bod ofn y byddai cynghorwyr eraill yn ei beirniadu

“Pobl hŷn sydd ar bwyllgorau a fi’n credu bod yr ofn yna bo nhw’n mynd i feirniadu beth sydd gyda fi i gynnig a’r hyn sydd gen i i’w ddweud,” ategodd Gwenno Roberts, 18.

“A’r ofn hefyd bo fi ddim yn deall gymaint â nhw.”

Pobl ifanc mentrus am wneud gwahaniaeth

Mae ‘na rai pobl ifanc wedi mentro, serch hynny.

Cafodd Rhodri Phillips, 25, ei ethol fel un o gynghorwyr tref Castellnewydd Emlyn ym mis Awst eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Phillips yn gynghorydd 25 oed yng Nghastellnewydd Emlyn

“Fi yw’r ifanca’,” meddai. “Fi’n credu bod yr agosa' at fy oedran i yn eu 40au, 50au...

“Amser es i mas i siarad â thrigolion y dre’, o’dd sawl un ddim yn gwybod beth i feddwl.

"Fi’n credu o’dd e’n bwysig ar fy rhan i, i roi syniadau ymlaen a dangos bo fi o ddifri' am y swydd a bo fi’n mynd i drial gwneud gwahaniaeth yn y dre’.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon Thomas yn teimlo ei bod hi wedi gallu helpu i gyflwyno ambell syniad

Mae Manon Thomas, 27, wedi bod yn glerc ar Gyngor Cymuned Cenarth ers tair blynedd, ac yn gweld gwerth i’w syniadau ffres ar bwyllgor sydd dipyn yn hŷn.

“Fi’n credu fi ‘di gallu helpu i gyflwyno ambell i syniad neu dweud ‘wel, chi’n gallu gwneud pethau dros e-bost',” meddai.

“Tan yn ddiweddar, roedd pob minutes a unrhyw correspondence oedd yn dod o’r cyngor yn mynd drwy lythyr â stamp yn lle dros e-bost lle ma’ pethau gymaint yn gynt.

"Fi’n credu bo nhw’n gweld nawr falle bod budd mewn cael cenhedlaeth ifanc mewn i ddangos pethau fel ‘ny.”

78% o seddi cynghorau cymuned heb eu llenwi

Yn etholiadau lleol Mai 2022, dim ond 38% o bobl bleidleisiodd.

Roedd 78% o seddi cynghorau cymuned a thref yn rhai heb gystadleuaeth neu'n rai heb eu llenwi.

Mewn ymateb, mae grŵp wedi’i sefydlu gan un o weinidogion Llywodraeth Cymru, er mwyn ymchwilio i’r hyn sydd wedi achosi i gymunedau ymgysylltu’n llai â rhai cynghorau cymuned a thref.

Eu bwriad yw:

  • Codi ymwybyddiaeth a gwella ymgysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau cymuned;

  • Cynyddu nifer, ac amrywiaeth, yr ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref.

Newid ar droed?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mirain Llwyd Roberts, sy'n aelod o gyngor tref Caernarfon, yn teimlo fod yr oes yn newid yn araf

Ond yn ôl un o gynghorwyr tref Caernarfon, mae newid ar droed.

“Nôl ym Mis Medi pan gaethon ni ein cyfethol, dyna’r tro cynta’ erioed i gyngor tre’ Caernarfon gael y mwyafrif o ferched,” meddai Mirain Llwyd Roberts sy’n 28 oed.

“Mae hynny’n dangos falle fod yr oes yn newid yn ara’ iawn, mwy o bobl ifanc yn cymryd y rolau 'ma, mwy o ferched yn barod i wneud o, ond yn sicr, ‘dan ni’n bell o gyrraedd y lle delfrydol fel petai.”

Diffyg gwybodaeth yn dal pobl ifanc 'nôl

Yn ôl rhai o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, addysg yw’r ateb i newid y darlun "nodweddiadol" o gynghorau tref a chymuned.

“I fi’n bersonol, dwi ddim yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen,” meddai William Bebb, 18 oed.

“‘Swn i ddim yn gwybod sut i fynd o gwmpas ymuno a ‘swn i ddim yn gwybod beth i wneud chwaith," ychwanegodd.

"Ella ‘sa rhoi fwy o wybodaeth i bobl ifanc yn 'neud iddyn nhw eisiau bod ac eisiau cymryd rhan mewn cynghorau lleol a mewn democratiaeth leol.”

Disgrifiad o’r llun,

“‘Swn i ddim yn gwybod sut i fynd o gwmpas ymuno," meddai William Bebb

Dywedodd Fflur Wyn Davies, 20 oed: “Ma’ nhw’n siarad am planning, o ran codi tai ac ati, s’dim syniad gyda fi o gwbl am bethe fel 'ny.

"Falle dylai’r cyngor neu’r senedd wneud fwy o bethau i ddenu fwy o bobl i ymuno â’r cyngor.”

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cyhoeddi arolwg i ddeall sut y mae pobl ifanc yn teimlo am ddemocratiaeth leol ac am gynghorau cymuned a thref.

Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 27 Tachwedd.