'Un teulu mawr': Sut mae'n teimlo i gynghorwyr sy'n sefyll lawr?
- Cyhoeddwyd
Ar 5 Mai bydd etholwyr Cymru yn dewis eu cynrychiolwyr ar draws y 22 awdurdod am y bum mlynedd nesa'.
Ond tra mae disgwyl sawl wyneb newydd o fewn y siambrau cyngor, bydd hefyd yn ddiwedd pennod ar yrfa sawl un o hoelion wyth llywodraeth leol.
Mae Cymru Fyw wedi siarad â rhai o gynghorwyr mwyaf profiadol Cymru sydd wedi penderfynu ffarwelio â gwleidyddiaeth sirol, o'u gwirfodd.
Mae'r tri wedi bod yn gynghorwyr dros eu pleidiau ers ad-drefniant 1996.
'Un teulu mawr'
Yr unig aelod sydd wedi cwblhau cyfnod llawn ers sefydlu Cyngor Môn yw Bob Parry, er iddo hefyd eistedd ar y cyngor bwrdeistref gynt ers 1981.
Yn adnabyddus am ei gyfnod fel llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod clwy'r traed a'r genau, dywedodd y gwleidydd Plaid Cymru 78 oed y bydd yn "newid byd" peidio trefnu'i fywyd o gwmpas calendr cyfarfodydd y cyngor.
"Er ein bod yn gallu gweiddi ar ein gilydd ar draws y siambr, yn y pendraw mi oedd pawb yn ffrindia' ac yn dueddol i dynnu at ei gilydd os oedd rhywun wedi profi profedigaeth, er enghraifft," dywedodd wrth Cymru Fyw.
"Un teulu mawr ydy o wedi bod dros y blynyddoedd ac yn sicr mi fyddai'n methu'r elfen yna."
Wedi cynrychioli ward Bryngwran am y mwyafrif o'r cyfnod hwnnw, golyga newid ffiniau a sefydlu wardiau aml-aelod ar yr ynys ei fod yn aelod dros ward Canolbarth Môn ers 2013.
"Dros y blynyddoedd 'da ni wedi gweld Cyngor Môn yn magu traed ei hun, ond wedyn yn symud yn ôl, ond gobeithio wedi dod allan o hynny mewn sefyllfa gwell a dwi ddim yn credu wnaeth y comisiynwyr ddrwg yn y pendraw", dywedodd.
"Mi ges i gyfnod fel arweinydd ar gychwyn y 2000au, a dwi'm yn meddwl fod na bwyllgor dwi heb eistedd arno rhywdro dros y degawdau!
"Dwi'n siŵr fyddai'n gweld hi'n chwithig ar 6 Mai pan fyddai ddim yn y cyfri', ond mae o hefyd yn rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesa'.
"Mae o'n ddiwrnod llawn cyffro fel arfer, ond diolch i'r dechnoleg dyddia' yma, yn sicr fyddai'n cadw llygad ar beth sy'n mynd ymlaen!
"Ond un peth dwi licio'i weld ydy mwy o ferched a pobl ifanc yn sefyll i'r cyngor, sy'n beth iach iawn dwi'n meddwl.
"Yn fy amser i does na erioed 'di bod mwy na tair dynes ar y cyngor ar un adeg, y gobaith ydy fydd hynny'n newid tro yma."
Etholiadau Lleol 2022
'Hoffi cymryd problemau lan'
Un arall sydd wedi eistedd fel aelod o'i awdurdod ers ei ffurfio yw Arwyn Woolcock, sydd wedi cynrychioli ward Brynaman Isaf i'r Blaid Lafur ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot ers 1996.
Dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod yn edrych ymlaen at gael mwy o amser i wylio Clwb Pêl-droed Abertawe, er y bydd yn colli bwrlwm y siambr.
"Beth fyddai'n gweld eisiau fwyaf ydy trafod materion etholwyr a materion bob dydd," meddai.
"O'ddwn i'n hoffi cymryd problemau lan ar eu rhan nhw a gobeithio'u datrys.
"Mae'r swydd wedi newid gymaint ers 1995, doedd ddim un cynghorydd â chyfrifiadur yn y tŷ.
"Wna'th hynny newid yn syth bron, o fewn dwy neu dair blynedd oedd eu hangen i gario allan busnes bob dydd.
"Ond gyda'r pandemig yn golygu nad oedd hi'n bosib trafod yn y siambr, mae rhywun yn tybio byddai wedi bod yn amhosib parhau â'r broses ddemocrataidd heb y dechnoleg i gynnal cyfarfodydd dros raglenni fel Teams.
"Ond mae'n hynod ddiddorol gweld sut fydd y broses yn newid yn y tymor hir, bwriad sawl awdurdod lleol yw addasu'r siambr fel bod trefniant hybrid mewn lle, lle bo modd cyfrannu dros y we neu yn y siambr.
"Dyna'r ffordd 'mlân mae'n debyg, ond yn sicr mae'n wahanol i'r drefn pan gychwynnais i.
"Rwy'n gefnogwr Abertawe felly mae'n debyg fydd genna'i mwy o amser i wylio pêl-droed a cario allan gwaith ar y tŷ. Dwi heb roi gormod o feddwl i'r dyfodol, ond wedi dros 25 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus roeddwn yn credu fod yr amser wedi dod i basio'r awenau."
'Nid yw natur y gwaith mor wahanol â hynny'
Un arall fydd yn ffarwelio â'r siambr, sydd hefyd wedi bod yn aelod ers ad-drefnu 1996, yw Dave Roberts.
Wedi cynrychioli ward Llandrillo-yn-Rhos ar Gyngor Conwy fel Ceidwadwr ers 26 mlynedd, cyfaddefodd fod dyfodiad cyfarfodydd rhithiol wedi profi'n her iddo.
"Mae'r swydd wedi newid, yn bennaf o ran cyflwyno mwy o ddefnydd cyfrifiadur a lleihau faint o bapur rydyn ni'n ddefnyddio o ddydd i ddydd," dywedodd wrth Cymru Fyw.
"Mae'n rhaid i mi ddweud, yn fwy diweddar, dwi 'di chael hi'n anodd ac wedi gorfod colli cyfarfodydd gan fod genna'i gyflwr meddygol ac yn ffeindio hi'n eithaf anodd syllu ar sgriniau.
"Doedd hyn ddim yn broblem yn y 1990au!"
'Cyfeillgarwch yn y siambr erioed'
"Mae yna sôn am gam-drin mewn gwleidyddiaeth y dyddiau yma, ond ar y cyfan dydy'r etholwyr heb newid llawer, dwi'n ffeindio nhw'n hollol iawn.
"Mae natur yr ymholiadau wedi newid ychydig, gyda phobl yn brwydro i gael gafael ar adrannau o'r cyngor, yn enwedig yn ystod y pandemig, ond nid yw natur y gwaith mor wahanol â hynny yn y bôn.
"Mae'r biniau wedi bod yn broblem erioed, er bod y cyfnod hwnnw o amser wedi gweld mwy o ailgylchu a llai o gasgliadau biniau, sydd wedi bod yn haws i rai nag eraill.
"Mae yna gyfeillgarwch wedi bod ymhlith cydweithwyr yn y siambr erioed ac mae pawb yn gwneud eu gorau glas mewn gwirionedd.
"Fe fydd hi'n eitha' rhyfedd peidio â bod yn gynghorydd bellach, ond mae gen i ffrindiau da sydd hefyd bellach yn gyn-gynghorwyr, ac rydyn ni'n dod ymlaen yn dda iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022