Ffermwr wedi gorfod saethu cŵn XL Bully i achub defaid

Dafad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 24 o famogiaid eu lladd gan ddau gi XL Bully ar fferm yn Rhosllannerchrugog y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r eiliadau y saethodd ffermwr ddau gi XL bully yn farw wedi iddyn nhw ladd neu anafu dwsinau o'i ddefaid wedi cael eu dal ar gamerâu corff swyddogion heddlu.

Fe achosodd y cŵn anhrefn yn llociau'r defaid ar fferm Paul Jones yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, y llynedd.

Mae'r lluniau'n dangos swyddogion Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd yn cyrraedd ond gyda swyddogion arfog yn dal 25 milltir i ffwrdd, roedd yn rhaid i Mr Jones weithredu'n syth.

Cafodd 24 o famogiaid beichiog eu lladd a 46 yn rhagor eu hanafu cyn i'r cŵn gael eu saethu.

Dywedodd un o'r swyddogion heddlu mai dyma un o'r ymosodiadau cŵn gwaethaf iddo weld yn ei yrfa.

Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n cynnwys lluniau o ddefaid marw

Yn y lluniau, a gafodd eu darlledu yn rhaglen Y Llinell Las S4C, mae Mr Jones i'w weld, gyda dryll yn ei law, yn dweud wrth yr heddlu bod tua 15 o ddefaid wedi eu lladd eisoes, a bod cyfanswm o 110 yn y lloc gyda'r cŵn.

Mae un swyddog yn dweud wrth gydweithiwr: "Mae hawl ganddo i'w lladd, yn does?".

Mae swyddog arall yna yn dweud wrth Mr Jones bod hi'n "fwy na chyfreithiol" iddo saethu'r ddau gi.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Paul Jones weithredu'n syth gan fod swyddogion heddlu arfog mor bell i ffwrdd

Dywedodd Mr Jones wrth yr heddweision: "Wneith y cŵn 'ma ddod allan a dod amdana'i."

Ar ôl cael gwybod bod swyddogion arfog yn dal rai milltiroedd i ffwrdd, aeth Mr Jones i'r ysgubor gyda'i ddryll.

Ffynhonnell y llun, S4C/Y Llinell Las
Disgrifiad o’r llun,

Roedd swyddogion heddlu'n cael eu ffilmio ar gyfer y gyfres deledu Y Llinell Las pan gawson nhw eu galw i'r fferm

Mae'n bosib clywed y cŵn yn cyfarth cyn i'r gwn gael ei danio.

"Ydy'r ddau wedi marw?" gofynna swyddog.

"Na, maen nhw'n dal yn symud," atebodd Mr Jones.

"Dal yn symud? Mae o'n fan'na, mae'n dod amdanom ni," dywedodd plismon wrth redeg i ffwrdd, cyn ergyd gwn arall.

Ffynhonnell y llun, S4C/Y Llinell Las
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Paul Jones bod y digwyddiad yn "erchyll" a bod y cŵn wedi lladd gwerth £14,000 o'i stoc

Mae Mr Jones wedi dweud wrth BBC Wales yn y gorffennol ei fod yn dal yn cael trafferth dod i delerau gyda'r ymosodiad "erchyll" ac mai'r "unig gysur" yw nad ei fab neu ei fam oedrannus oedd wedi dod ar draws y cŵn.

Mae wedi disgrifio sut wnaeth y cŵn "daflu'r defaid fel tasen nhw'n bapur" a bod y digwyddiad "wedi effeithio ar bawb oedd yna y diwrnod hwnnw".

Fe wnaeth perchennog y cŵn, David Hughes, oedd yn 26 oed ar y pryd, bledio'n euog i gyhuddiadau o fod yn gyfrifol am gi oedd yn beryglus allan o reolaeth, ac yn amharu ar dda byw.

Cafodd ei wahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd a dirwy o £900.

Ffynhonnell y llun, S4C/Y Llinell Las
Disgrifiad o’r llun,

Mae cŵn XL Bully yn eithriadol o gryf ac yn gallu bod yn "beryg bywyd", medd Iwan Owen.

Mae Iwan Owen, sy'n aelod o'r tîm Troseddau Cefn Gwlad, wedi bod efo'r heddlu ers dros 40 mlynedd.

Mae'n dweud bod ymosodiadau ar ddefaid yn digwydd yn wythnosol yng ngogledd Cymru.

"Mae'n siŵr bod y gang traffig yn cael llond bol o bobl sy'n yfed a gyrru... i ni, y poeni defaid sydd yn dod drosodd a throsodd.

"Be' uffern ma' rywun isho XL Bully? Dwim yn dalld pam bo chdi isio ci o'r ffasiwn beth mewn tŷ, mewn cartref. Meddylia pa mor gryf ydyn nhw, faint o niwed fysa nhw'n medru neud - mae'n beryg bywyd."

"Maen nhw [ffermwyr] yn hogia' calad - maen nhw 'di hen arfer efo cŵn a chael gafael ar gi, ond fysa chdi ddim yn cymryd gafael ar XL Bully.

"Does na ddim llawer o chance i chdi gerdded o 'na heb gael dy anafu yn ofnadwy."