'Cyfuniad o ffactorau' wedi arwain at farwolaeth tu allan i ysbyty - cwest

Bu farw Mary Owen-Jones ar ôl gwrthdrawiad y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd ar ôl ymweld â'i merch yn yr uned famolaeth ar Ddydd Calan 2023
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod cyfuniad o ffactorau wedi arwain at farwolaeth dynes fu mewn gwrthdrawiad â char y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.
Roedd Mary Owen-Jones, 51, wedi bod yn ymweld â'i merch yn yr uned famolaeth pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ddydd Calan 2023.
Cafodd ei chludo i adran frys yr ysbyty lle dangosodd archwiliadau ei bod wedi torri ei choes, ond pan ddirywiodd ei chyflwr cafodd ei chludo i'r uned drawma yn Ysbyty Stoke.
Bu farw 36 awr yn ddiweddarach o waedu ar yr ymennydd, a hynny wedi gwaethygu oherwydd y cyffur teneuo gwaed Warfarin yr oedd yn ei gymryd ar brescripsiwn yn dilyn llawdriniaeth flaenorol ar y galon.
'Wnes i ddim ei gweld hi'
Clywodd y cwest yn Rhuthun bod Mrs Owen-Jones o Landrillo-yn-Rhos wedi cael ei tharo gan gar Audi llwyd oedd yn cael ei yrru gan Chloe Thelwell, nyrs yn yr ysbyty oedd yn mynd adref ar ôl gorffen ei shifft.
Dywedodd Ms Thelwell wrth yr heddlu ei bod ar ôl gadael y prif faes parcio yn yr ysbyty wedi troi tuag at y ffordd fawr, ac fe wnaeth gyfaddef iddi dorri'r gornel tra'n troi i'r dde ar y gyffordd.
Dywedodd mai dim ond 10-15mya oedd ei chyflymder, gyda'r terfyn cyflymder oedd yn cael ei gynghori ar dir yr ysbyty yn 10mya.
Disgrifiodd tystion sut y gwnaeth y nyrs, oedd mewn gwewyr mawr, ddweud dro ar ôl tro wrth bobl oedd yn ceisio helpu Mrs Owen-Jones: "Wnes i jest ddim ei gweld hi."
Ond dywedodd un tyst, Dewi Wyn Williams, bod ffenestr flaen y car wedi niwlio'n llwyr, ac iddo feddwl nad oedd yn syndod iddi beidio gweld Mrs Owen-Jones gan na allai weld unrhywbeth drwy'r ffenestr.
Pan ofynnwyd iddi mewn cyfweliad gyda'r heddlu a oedd y ffenestr wedi niwlio, atebodd Ms Thelwell: "Dwi ddim yn meddwl hynny."
Os y byddai hynny'n wir meddai, fyddai hi ddim wedi gallu gyrru allan o'r maes parcio.

Cafodd Mary Owen-Jones ei chludo i adran frys Ysbyty Glan Clwyd, a'i throsglwyddo i Ysbyty Stoke ar ôl i'w chyflwr ddirywio
Dywedodd yr ymchwilydd fforensig i wrthdrawiadau, Ian Thompson, na allai wneud sylw am gyflwr y ffenestr gan bod y car wedi cael ei symud erbyn iddo gyrraedd y safle.
Dywedodd bod Mrs Owen-Jones, oedd yn gwisgo dillad tywyll, yn croesi'r ffordd ddim ond ychydig fetrau oddi wrth safle croesi i gerddwyr oedd wedi ei oleuo, ac y dylai fod wedi gweld y cerbyd yn dod, gyda'i brif oleuadau a'i olau arwyddo ymlaen.
Roedd y ffactorau rheiny, yn ogystal â'r ffaith bod Ms Thelwell wedi torri'r gornel, i gyd wedi cyfrannu tuag at y gwrthdrawiad.
Dyweodd uwch-grwner dwyrain a chanol gogledd Cymru, John Gittins, bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ystyried dwyn cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ond wedi penderfynu, ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth nad oedd unrhyw bosibilrwydd y byddai rheithgor yn dyfarnu Ms Thelwell yn euog.
Wrth gofnodi bod Mrs Owen-Jones wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd, dywedodd y crwner ei fod yn "gyfuniad o'r holl elfennau."
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.