Carchar wedi'i ohirio i gyn-gaplan ysgol am greu lluniau anweddus o blant
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai.
Mae cyn-gaplan ysgol wnaeth gyfaddef iddo greu delweddau anweddus o blentyn wedi osgoi cyfnod yn y carchar.
Plediodd Samuel Erlandson, 36 o bentref Llanrhos yn Sir Conwy, yn euog i ddau gyhuddiad o'r fath a chyhuddiad pellach o fod ym meddiant pornograffi eithafol yn ymwneud â chi bocser.
Yn Llys Ynadon Llandudno, cafodd Erlandson ddedfryd o 32 wythnos o garchar wedi'i gohirio am 18 mis.
Cafodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol, bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd a bydd rhaid iddo wneud 160 awr o waith di-dâl.
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024
Cafodd Erlandson ei ddiswyddo fel caplan St David's College – ysgol breswyl yn Llandudno - y llynedd.
Y gred yw nad yw'r cyhuddiadau yn ymwneud â disgyblion yn yr ysgol honno.
Dywedodd yr erlynydd, Alys Haf, wrth ynadon Llandudno fod Erlandson yn "ddyn yr oedd pobl yn y gymdeithas yn ymddiried ynddo".
Ond cafodd ei arestio ym mis Tachwedd 2024 ac fe gafodd dau ddelwedd anweddus a phornograffi eithafol yn cynnwys y ci a menyw eu darganfod ar ei ffôn symudol.
Dywedodd yr erlynydd bod y lluniau anweddus o blant yn "annymunol iawn" ac yn "cynnwys plant rhwng tair ac wyth oed".
Dywedodd y barnwr Gwyn Jones bod y troseddau o'r fath yn "ddifrifol iawn, iawn gan fod plant go iawn yn cael eu portreadu yn y lluniau yma".
"Mae'r mater yn waeth oherwydd eich sefyllfa o fewn y gymuned.
"Roedd pobl yn y gymuned yn ymddiried ynddoch chi - nid yn unig oherwydd eich bod chi wedi eich ordeinio ond o ran eich cyfrifoldebau yn yr ysgol dan sylw.
"Does dim dwywaith y bydd y rhai sydd â chysylltiadau â'r ddau sefydliad yn gorfod ystyried a oedden nhw wedi cymryd y camau priodol i sicrhau fod pawb yn cael eu diogelu."
Yn ôl yr amddiffyniad, mae Erlandson "yn edifar am yr hyn ddigwyddodd".
'Wedi'i brawychu a'u tristáu'
Roedd Samuel Erlandson hefyd wedi gweithio fel rheithor yng nghapeli St Hilary's yn Llan-rhos a St Paul's yn Llandudno.
Mae'r Eglwys yng Nghymru eisoes wedi dweud mewn datganiad: "Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi'i brawychu a'i tristáu bod un o'u clerigwyr wedi cyflawni troseddau mor ddifrifol.
"Mae ein gweddïau gyda'r dioddefwyr yn yr achos hwn, a phob person arall sydd wedi ei gam-drin.
"Mae tîm diogelu'r Eglwys yng Nghymru wedi gweithio'n agos gyda'r heddlu a'r awdurdodau statudol"
Dywedodd llefarydd hefyd "y bydd Tribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru yn ystyried camau priodol pellach" wedi i'r achos ddod i ben.
"Does dim lle i unrhyw fath o gamdriniaeth yn yr Eglwys yng Nghymru."