Stori maethegydd: 'Byddwch yn glên â'ch hunain'

  • Cyhoeddwyd

Mae’r Nadolig a’i draddodiad o wledda a phartïon yn gyfnod o bryder i’r rhai sy’n gorfwyta mewn pyliau (binge eating).

Un sy’n gwybod hyn o brofiad yw Angharad Griffiths, maethegydd cofrestredig yng Nghaernarfon sy’n arbenigo mewn helpu pobl sy’ efo meddylfryd ‘popeth neu ddim’ gyda bwyd.

Meddai Angharad: “Mae lot o bobl yn mynd i fod yn bryderus iawn am Nadolig.

“Y rheswm dwi wedi mynd mewn i astudio maeth ydy o'n i ishe gwella fy hun achos dwi wedi diodde’ o binge eating ers bod fi’n 12 oed a dwi’n 44 nawr. Dwi wedi cael 32 mlynedd o orfwyta a dwi’n gwybod faint o bobl sy’n dioddef.”

Mae Angharad yn cynghori agwedd gymedrol at fwyd a’ch bod chi ddim yn rhoi bwyd mewn categori da neu drwg: “Mae 'na le i bob bwyd yn eich deiet chi. Bwytwch fwyd sy’n llawn maeth yn eich prydau ac mae dal lle i gael bach o siocled neu gaws neu greision.

“Dim dros nos chi’n mynd i stopio colli’r rheolaeth 'ma ond mae dechrau trio siarad â’ch hunain a dweud, ‘dwi’n mynd i allu cael un siocled y dydd’ ac wedyn pan mae’n dod i ddydd Nadolig bod chi ddim yn bwyta bocs cyfan o siocled.”

Ffynhonnell y llun, Angharad Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Angharad

Profiad personol

Mae’r maethegydd yn cydnabod ei bod hi’n arfer gorfwyta ac yna peidio bwyta am gyfnodau: “Dwi wedi gorfod dadwneud rheolau o'n i’n rhoi ar fy hun fel dim carbs am swper.

“Oedd un adeg rhwng 12 a 22 oed pan oen i’n bulimic hefyd – bwyta bwyta bwyta ac wedyn chwydu a mynd nôl i fwyta.

“Ac hefyd o'n i’n dreadio Nadolig achos ti’n colli pwysau erbyn Nadolig i fynd i bartis ond erbyn nos galan o'n i 'di rhoi pwysau arno felly’n teimlo’n dew a ddim yn ffitio yn y ffrog nos galan.

Rheolau

“Mae’n epidemig faint o fenywod sy’n neud hyn, yn enwedig menywod oed fi sy’ â’r rheolau deiet o’r 1980au ar ben rheolau deiet newydd ar ben bwyta’n ‘lân’ (clean eating), sy’ wedi bod yn ffasiynol yn ddiweddar.

“Oedd 'da fi gymaint o orbryder am fwyd ac ofn am bethau fel os dwi’n bwyta rhywbeth offplan mewn bwyty.

“’Nath popeth cwympo mewn i le ond mae 'di cymryd pum mlynedd. Dwi dal yn cael bach o orbryder os dwi ddim mewn rheolaeth o’r bwyd.

“Ond erbyn hyn dwi’n gwybod bod prydau fi yn iach so mae 'na le i gael bach o greision ar benwythnos.”

Ffynhonnell y llun, Angharad Griffiths

Un o’r pethau pwysicaf i Angharad yw dysgu sut mae siarad â dy hun.

Meddai: “Am flynyddoedd ar ôl binge bydden i’n dweud wrth fy hun, ti yw’r diafol, ti’n berson horibl a s'dim werth i ti fyw.

“Felly beth o'n i’n neud i wneud iawn am binge oedd bod yn fwy strict ac mae hynny’n neud y cylch yn waeth achos ti’n restrictio pethau.

“Ar ôl sbel 'nes i benderfynu stopio cael rheolau am fwyd a siarad â fy hun fel ffrind a neud bach mwy o waith ar hunan-barch. Mae wedi cymryd blynyddoedd.”

Felly pa fath o feddylfryd sy’ gan bobl sy’n gorfwyta?

Meddai Angharad: “Mae 'da ti’r meddylfryd popeth neu ddim. Ni’n gwybod faint o orbryder sy’ 'da pobl sy’n gorfwyta rownd Nadolig - maen nhw’n poeni fod gymaint o fwyd yn y tŷ ac yn poeni am golli rheolaeth ond y broblem yw mae Nadolig yn gallu rhoi rheswm dilys i ti bingean.

“Mae pobl sy’n dioddef o yo-yo dieting yn dueddol o fod yn bobl sy’ ishe colli pwysau ac wedyn Nadolig maen nhw’n panicio am y bwyd sy’n mynd i fod o gwmpas ac yn panicio am roi pwysau ymlaen.

“Yn Rhagfyr mae pobl yn dweud bod nhw’n mynd i fod yn strict nes fod parti neu noswyl Nadolig pan maen nhw’n mynd i adael fynd. Dyw hwnna ddim yn helpu neb achos ti’n rhoi’r bwyd ar pedestal ac yna’n mynd yn wyllt drosto fe yn y cyfnod.

Iechyd meddwl

“Mae’r llinell wedi croesi os ti’n bwyta mas o reolaeth a ddim yn enjoio fe dim mwy. Mae’n mynd mewn i broblem iechyd meddwl le ti'n dechrau casáu dy hun, ti'n casáu dy gorff di. Ti’n galw dy hun yn enwau, wedyn ti’n dweud, ‘fory dwi’n mynd i beidio bwyta tan amser te i neud lan am faint nes i fwyta y noson gynt’.

“I bobl gyda’r meddylfryd all or nothing 'ma - enjoio’r Nadolig ydy’r nod a bod yn synhwyrol.”

Ffynhonnell y llun, Angharad Griffiths

Cyngor ar sut i osgoi gorfwyta dros yr ŵyl

“I bobl sy’n mynd mewn i Rhagfyr yn meddwl, dwi’n mynd i fod yn strict am bythefnos a thorri mas grwpiau bwyd neu gadw nifer o galoriau yn isel, stopiwch. Dewch â’r caloriau i fyny – prynwch galendar adfent a chael siocled bach bob dydd er mwyn stopio rhoi siocled ar bedestal. Mae angen stopio’r naratif yn eich pen o feddwl os dwi’n bwyta un siocled, dyna’r diwedd arni a dwi’n mynd i fwyta siop cyfan o siocled.

“Os chi’n ticio bocsys fod prydau chi efo protein, ffeibr, braster da, 'neith y corff ddim chwilio am bethau eraill achos fyddwch chi’n llawn.

“Ar ddiwrnod parti mae’n dda i dicio bocsys gyda brecwast a chinio ond amser swper enjoio’r wledd.

“Edrychwch ar eich calendar dros mis Rhagfyr – pan mae parti neu wledd allwch chi gael brecwast iach gyda digon o brotein sy’n llenwi chi. Anelwch i gael 30g o protein i frecwast, pethau fel iogyrt Groegaidd neu eog wedi mygu. Mae bach o protein mewn uwd felly mae uwd gyda iogyrt Groegaidd yn llenwi chi ac yn rhoi llwyth o faeth. Mae’r corff angen maeth. Os chi’n cael eog chi’n cael protein ac olew da. Os chi’n neud dewisiadau fel 'na gyda phrydau, wedyn mae lle i gael pwdin neu caws a bisgedi.

“Imiwnedd – un o’r pethau gorau yw edrych ar ôl iechyd y perfedd. Mae angen bwydo’r bacteria – y mwya’ o amrywiaeth o facteria y gorau i iechyd dy perfedd. Bwytwch bacteria yn ffurf probiotics fel keffir neu live yoghurt, sourkraut, miso. Wedyn chi ishe bwydo’r bacteria efo diet gyda digon o ffeibr fel planhigion.

“Pan chi'n gadael eich hunain i gael y bwyd 'ma mae angen rili mwynhau y blas yn y ceg – peidiwch bwyta fe mewn rwsh ond bwyta bach mwy meddylgar i drio enjoio’r bwyd ac i beidio teimlo’n euog.

“Os chi'n gorfwyta, i siarad yn glên gyda’ch hunain.

“Mae’n rili bwysig i gynnwys bwydydd chi’n enjoio felly peidiwch gwahardd unrhyw fwyd.

“Mae’n rhaid i chi drio cyflwyno ffordd iach o fwyta sy’n gweithio i chi.”

Pynciau cysylltiedig