Pum peth sy'n rhoi pŵer i'r perfedd

  • Cyhoeddwyd
Angharad GriffithsFfynhonnell y llun, Angharad Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Griffiths

Mae mis Ionawr yn fis lle mae llawer ohonom yn dewis cymryd ein hiechyd, ein ffordd o fyw, a'n deiet yn fwy o ddifrif.

Angharad Griffiths, maethegydd cofrestredig yng Nghaernarfon sy'n trafod pum peth allwn ni ei wneud i ofalu am iechyd ein perfedd ar ddechrau, a thrwy gydol y flwyddyn.

Mae pobl yn aml yn cysylltu bacteria gyda phethau drwg sydd ddim yn dda i ni.

Ond mae tua 100 triliwn o gelloedd bacteria yn byw yn ein cyrff - sydd yn ddeg gwaith yn fwy na faint o gelloedd dynol sydd yn y corff. Mae'r rhan fwyaf o'r bacteria yma yn byw yn ein perfedd (ond mae nhw hefyd yn ein ceg, trwyn, ysgyfaint, croen, organau cenhedlu).

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Pan mae ein perfedd allan o falans mae'n gallu achosi pob math o symptomau gan gynnwys chwyddo, bod yn rhwym, dolur rhydd, symptomau IBS, blinder, gorbryder, cyflyrau croen fel eczema, alergeddau, a llawer mwy. Mae sawl peth yn medru effeithio ar falans y bacteria yn y perfedd gan gynnwys deiet gyda gormod o siwgr neu isel mewn ffeibr, alcohol, geneteg, gormod o feddyginiaeth, glendid y ceg a llawer mwy!

Dyma ambell beth y gallwch chi ei wneud i roi pŵer yn ôl i'ch perfedd, gan leddfu eich symptomau, gobeithio!

Cnoi'r bwyd yn iawn

Pan ydych yn bwyta bwyd mae angen bod mewn stâd ymlaciol neu'r parasympathetic state. Wedyn mae'r corff yn gallu arogli'r bwyd yn iawn, a mae'r systemau sy'n gyfrifiol am amsugno'r maeth o'r bwyd yn barod amdano.

Peidiwch bwyta pan rydych mewn brys, os y'ch chi yn y car, o flaen sgrin neu tra'n gwneud rhywbeth. Mae peryg na fyddwch wedi cnoi'r bwyd yn ddigonol wrth wneud hyn. Cymrwch eich amser ac eisteddwch i lawr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cnowch a mwynhewch!

Tra'n bwyta, cnowch. Rydyn ni eisiau i'r bwyd fod wedi cael ei gnoi yn dda cyn teithio o'r geg i'r coluddyn bach. Mae'r coluddyn bach wedyn yn gallu gwneud ei waith yn iawn ac yn gallu amsugno'r maeth o'r bwyd er mwyn i'r corff ei ddefnyddio.

Gyda bwydydd melys fel siocled, trîts a tec-awes - os chi moyn un grêt- mwynhewch e - cymerwch bob tamaid gan fwynhau'r teimlad o gael siocled yn eich ceg. O'i fwynhau a'i fwyta fel hyn, bydd y corff yn gallu ei dreulio yn well.

Bwytewch o leiaf 30 math gwahanol o blanhigion bob wythnos

Mae 30 yn swnio yn lot ond pan chi'n torri fe i lawr mae'n cynnwys ffrwythau, llysiau, hadau, cnau, perlysiau, sbeisys, codlysiau (legumes), ffa o bob math, reis a cheirch.

Mae'n cynnwys unrhyw beth o deyrnas planhigion achos mae rhain i gyd yn cynnwys ffibr. Mae'r bacteria da sydd yn ein perfedd yn bwyta gwahanol fathau o ffibrau, felly falle bydd tatws melys yn bwydo ar un math o facteria da ac afalau yn bwydo ar fath arall.

Bydd bwyta 30 math gwahanol o blanhigion bob wythnos yn arwain at ficrobiom amrywiol yn y perfedd. Beth ydych eisiau ydy gwahanol fathau o facteria yn ffynnu yn y perfedd a mae hynny yn fwy tebygol y mwyaf o blanhigion rydych chi'n eu bwyta.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sawl planhigyn gwahanol allwch chi ei gyfri yn y pryd yma?

Os ydych chi'n gwneud chilli gyda llysiau a chig neu gyfuniad o'r ddau gallwch gynnwys nionyn, garlleg, seleri, moron, pupur, ffa er enghraifft kidney beans, tin o domatos, coriander, reis a guacamole i weini. Mae hynny yn ddeg math gwahanol o blanhigyn mewn un pryd - felly 'dyw e ddim mor nuts â hynny.

Gwnewch bethau bach fel ychwanegu hadau ar dop salad neu gawl, neu bwyta bara gyda hadau yn lle bara plaen. Mae hyn i gyd yn ychwanegu.

Bwlch deuddeg awr rhwng eich swper a brecwast

Mae cael 12 awr rhwng eich swper a brecwast yn rhoi cyfle i'r perfedd gael saib a gwneud ei waith yn hytrach na meddwl bod mwy o fwyd ar y ffordd.

Mae rhai bacteria yn y perfedd yn clirio bob darn o fwyd allan o'r perfedd yn y nos, felly mae'r saib yna yn bwysig.

Dyw 12 awr ddim yn ormod achos rydych chi'n cysgu am y rhan fwyaf ohono fe. Yn yr amser yma peidiwch snacio. Gallwch yfed dŵr neu de herbal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Os ydych yn bwyta eich swper am saith yr hwyr, peidiwch bwyta eich brecwast tan o leiaf saith y bore

Bwytewch lai o fwyd wedi ei brosesu

Dyw'r bacteria yn y perfedd ddim yn gwybod beth yw bwyd wedi ei brosesu, maen nhw jest yn gwybod 'dydi hwn ddim yn dda i ni'.

Mae cynnyrch wedi ei brosesu yn gallu bod yn flasus iawn - mae'r cwmnïau wedi creu'r cynnyrch fel nad ydyn ni'n gallu stopio ei fwyta a mae'n rhoi dopamine hit i ni. Wedyn, 'da ni isie mwy a mwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall bwyd wedi ei brosesu effeithio ar eich hwyliau hefyd

I geisio lleihau faint o fwyd wedi ei brosesu sydd yn eich deiet - hanerwch faint ydych chi'n ei fwyta neu cyfunwch nhw gyda bwydydd ffres, bwyd cyflawn a phlanhigion. Dyw bwydydd junk a bwydydd wedi eu prosesu ddim yn rhoi dim pŵer i'r perfedd.

Coginiwch 'o scratch' i osgoi bwydydd a sawsiau wedi eu prosesu. Rheswm arall mae coginio 'o scratch' yn dda i chi yw bod eich synhwyrau a'ch corff yn paratoi am y bwyd. Mae'r ensymau treulio yn cael eu cynhyrchu gan y pancreas wrth i chi weld y bwyd yn cael ei baratoi. Byddwch chi'n fwy tebygol o gnoi eich bwyd a chymryd eich amser yn ei fwyta hefyd.

Bwyta bwydydd wedi eu heplesu

Cyflwynwch fwydydd wedi eu heplesu (fermented foods) i'ch deiet. Mae rhain yn fwydydd probiotig sy'n llawn bacteria da a sydd yn gallu helpu adfer balans naturiol y perfedd. Felly yn syml, ry'ch chi'n rhoi bacteria nôl mewn i'r corff.

Mae bwydydd fel iogwrt, sauerkraut, miso a diodydd fel llaeth kefir a kombucha yn gynnyrch probiotig. Erbyn hyn, mae sauerkraut i'w gael mewn gymaint o wahanol flasau - dwi'n licio yr un tumerig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae iogwrt gyda cheirch a ffrwythau yn fwyd da ar gyfer y bore

Arbrofwch drwy gyflwyno gwahanol fathau o gynnyrch probiotig i'ch deiet yn lle bwyta/yfed un. Mae'r amrywiaeth yn llesol er mwyn cael yr amrywiaeth gorau o facteria i roi pŵer i'r perfedd.

Hefyd o ddiddordeb: