Carchar am oes i ddyn o Gaerdydd am lofruddio ei bartner

Alcwyn ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alcwyn Thomas yn treulio o leiaf 19 mlynedd a 121 diwrnod yn y carchar

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i isafswm o 19 mlynedd o garchar am lofruddio ei bartner.

Fe wnaeth Alcwyn Thomas, 44, lofruddio Victoria Thomas, 45, yn eu stafell sbâr yng Nghaerdydd, gan honni mai "damwain tra'n cael rhyw" oedd y digwyddiad.

Roedd wedi cyfaddef dynladdiad ond wedi gwadu llofruddiaeth, ond cafwyd yn euog gan reithgor fis diwethaf.

Dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei fod "wedi achosi galar anghredadwy i deulu Ms Thomas".

Cocên a 16 peint o gwrw

Dywedodd yr erlyniad fod Victoria Thomas wedi ceisio dianc rhag ei phartner, ond roedd yn honni ei bod wedi gofyn iddo ei chrogi tra'n cael rhyw.

Fe glywodd y llys fod y cwpl wedi ymweld â sawl tafarn cyn iddyn nhw fynd i neuadd bingo fis Awst y llynedd.

Roedd Thomas wedi yfed tua 16 peint o gwrw ac wedi cymryd cocên.

Dywedodd tyst fod Thomas yn "flin" a "dim fel ei hun", y diwrnod hwnnw.

Victoria ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Victoria Thomas yn 45 oed pan fu farw ym mis Awst y llynedd

Yn y llys fe wnaeth Thomas gyfaddef ei fod wedi bod yn "cecru" gyda'i gariad, gan ddweud nad oedd hynny yn rhywbeth anghyffredin.

Fe glywodd y rheithgor fod Ms Thomas wedi gyrru negeseuon i aelodau'r teulu yn cwyno am ymddygiad ei phartner y noson honno.

Dywedodd gyrrwr tacsi fod Thomas yn "anghwrtais" ac "wedi meddwi".

Ar ôl dychwelyd adref, fe wnaeth Thomas yrru neges i'w chwaer yn dweud: "Dwi'n sori, dwi wedi gwneud rhywbeth gwael iawn."

Disgrifiad,

Fe welodd y llys fideo CCTV yn dangos y cwpl yn ffraeo ar y noson dan sylw

Dywedodd cymydog wrth y rheithgor ei fod wedi clywed sgrechian a barodd tua 45 eiliad a drws yn cau'n glep.

Fe wnaeth Thomas honni fod ei bartner wedi gofyn iddo ei chrogi tra'n cael rhyw, gan ddweud eu bod wedi gwneud hyn ar sawl achlysur.

Dywedodd wrth y rheithgor ei fod wedi agor ei lygaid a sylweddoli ei bod wedi marw ar ôl gweld ei bod wedi troi'n las.

Dywedodd iddo orchuddio rhan o'i chorff ond nad oedd wedi ceisio ei hadfywio.

Er iddo honni mai "camgymeriad" oedd ei lladd, cafodd ei ganfod yn euog gan reithgor o lofruddiaeth.

'Mam oedd fy ffrind gorau'

Fe glywodd y llys gan Cole, mab Victoria Thomas yn ystod y gwrandawiad dedfrydu.

Dywedodd: "Rydym yn teimlo ein bod wedi colli ein mam yn sydyn iawn i Alcwyn.

"Fy mam oedd fy ffrind gorau ac roedd ein cysylltiad yn fwy na geiriau."

Ychwanegodd tad Ms Thomas, Robert Thomas: "Fe wnaeth ein bywydau dorri yn deilchion yn y foment honno."

Cafodd Thomas ei ddedfrydu i oes o garchar, gydag isafswm o 19 blynedd a 121 diwrnod dan glo.

Pynciau cysylltiedig