Dyn wnaeth dagu ei bartner ar ôl noson allan yn euog o lofruddiaeth

Alcwyn Thomas.Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alcwyn Thomas wedi gwadu llofruddio Victoria Thomas yn ystod yr achos

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 44 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio ei bartner trwy ei thagu yn eu cartref yng Nghaerdydd yn dilyn dadl.

Gwadodd Alcwyn Thomas ei fod wedi llofruddio Victoria Thomas, 45, mewn tŷ ar Ffordd Caerffili, gan honni ei bod wedi gofyn i gael ei thagu wrth iddyn nhw gael rhyw mewn ystafell sbâr.

Ar sail hynny, roedd Thomas wedi cyfaddef dynladdiad wedi'r digwyddiad ar 20 Awst y llynedd.

Ond dadl yr erlyniad oedd mai celwydd oedd hyn, a bod Thomas wedi ymosod ar Ms Thomas mewn ystafell yr oedd hi wedi mynd iddo er mwyn dianc ohono.

Dywedodd y barnwr bod Thomas yn wynebu dedfryd oes pan fydd yn cael ei ddedfrydu.

Victoria ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Victoria Thomas yn 45 oed pan fu farw ym mis Awst y llynedd

Fe gymerodd hi bedair awr a hanner i'r rheithgor ddyfarnu bod Thomas yn euog yn Llys y Goron Caerdydd - ar ôl achos llys barodd bron i bythefnos.

Roedd y cwpl wedi bod allan mewn tafarndai a chlwb bingo yng Nghaerdydd ar 19 Awst, a chlywodd yr achos bod Alcwyn Thomas wedi tagu ei bartner yn eu cartref ar ôl dod adref.

Roedd y ddau mewn perthynas ers pedair blynedd adeg ei marwolaeth, ond heb briodi.

Fideo CCTV o Alcwyn Thomas a Victoria ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd y llys fideo CCTV yn dangos y cwpl yn ffraeo ar y noson dan sylw

Ar y noson, roedd Alcwyn Thomas wedi yfed tua 16 peint o lager ac wedi cymryd cocên, ac fe gafodd ei ddisgrifio gan dystion fel "dadleugar a blin".

Ar ôl dychwelyd adref, clywodd yr achos bod Ms Thomas wedi mynd i gysgu yn yr ystafell wely sbâr, yn hytrach na'r ystafell wely yr oedd y ddau yn ei rannu.

Dywedodd yr erlynydd Michael Jones KC wrth Thomas fod y ffaith bod Ms Thomas yn gwisgo gwn nos hefo'i cherdyn banc a'i thrwydded gyrru yn ei phoced, a'i bod wedi mynd i'r ystafell sbâr, yn awgrymu ei bod hi wedi mynd yno "i ddianc oddi wrthych".

Cafodd Ms Thomas ei chanfod yn farw gan yr heddlu y diwrnod canlynol.

Dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke mai'r unig ddedfryd posib oedd dedfryd oes, ac y byddai'n pennu'r isafswm i'w dreulio dan glo mewn gwrandawiad ddiwedd Ebrill.

Diolchodd y barnwr i'r rheithgor am eu gofal mewn achos "trallodus dros ben."