Menyw gafodd ei lladd yn ei chartref yn 'ddioddefwr diniwed'

Lisa FraserFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd merch Lisa Fraser ei bod hi'n "enaid hardd a gofalgar"

  • Cyhoeddwyd

Roedd menyw 52 oed o Ddoc Penfro yn "ddioddefwr diniwed" pan gafodd ei lladd gan ddieithryn yn ei chartref, mae crwner wedi cofnodi.

Roedd gan Matthew Harris, 41, "ddibyniaeth ar gyffuriau" ac roedd wedi honni bod ganddo broblemau iechyd meddwl.

Daeth Crwner Cynorthwyol Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Paul Bennett i'r casgliad bod Lisa Fraser wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon gan Harris ar 13 Mai 2022.

Fe wnaeth Harris ladd ei hun yn ddiweddarach ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Mewn datganiad dywedodd merch Lisa Fraser, Phoebe, ei bod hi'n "wraig, yn fam, yn ffrind gorau" ac "roedd hi'n enaid hardd a gofalgar".

Clywodd y gwrandawiad bod Lisa Fraser wedi marw o nifer o "glwyfau trywanu i'w gwddf".

Dywedodd Mr Bennett fod y cwest yn un "anarferol" gan fod Mrs Fraser wedi cael ei lladd gan "rywun nad oedd yn ei hadnabod" ond a aeth i mewn i'w heiddo a'i lladd.

Ychwanegodd Mr Bennett ei fod yn "fodlon nad oedd gan Lisa Fraser unrhyw gysylltiad â Matthew Harris".

Dywedodd hefyd bod Harris yn gallu "ymddwyn yn afreolaidd a gwneud cyhuddiadau anwir".

Ar fore 13 Mai 2022, fe ddifrododd Harris nifer o botiau planhigion mewn gerddi, cyn difrodi ffenestr car yn ardal Neyland, a beicio i Military Road yn Noc Penfro.

Aeth ymlaen i fygwth gyrrwr trwy ffenestr ei gar gyda chyllell mawr ar gyffordd Military Road ag Owen Street gan ddweud ei fod yn "mynd i farw".

Plismon a cherbyd heddlu tu allan i gartref Lisa Fraser ar Military Road, Doc Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Military Road yn dilyn adroddiadau bod dyn yn bygwth pobl yn yr ardal gyda chyllell fawr

Llwyddodd y gyrrwr i ddianc, ac fe gafodd dau swyddog arfog eu hanfon i'r ardal fel rhan o'r ymateb.

Dywedodd y Cwnstabl Simon Hayward ei fod e, a thri swyddog heddlu arall, wedi gweld Harris yn cerdded o dŷ Lisa Fraser gyda'i ddwylo yn yr awyr, ac yn dweud "bod angen iddo fynd i'r carchar".

Mewn adroddiad, dywedodd y Cwnstabl James Lang-Ford bod y dyn, tra'n eistedd ar garreg y drws, wedi dweud wrthyn nhw: "Rwy' newydd ladd Natsi i mewn yn fan'na."

Fe gadarnhaodd mai Matthew Harris oedd ei enw ac wedi i'r heddlu ddarganfod corff yn y tŷ fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mewn ymateb i hynny fe atebodd: "Euog o'r cyhuddiad."

Dod o hyd iddo wedi crogi

Dywedodd Mr Bennett nad oedd gan deulu Lisa Fraser, fel llawer o deuluoedd yn Noc Penfro, "unrhyw bryderon ynghylch gadael drysau ei heiddo heb eu cloi".

Cafodd Harris ei gyhuddo o lofruddiaeth a'i gadw yn y ddalfa yng Ngharchar Abertawe, cyn cael ei drosglwyddo i garchar Long Lartin.

Daeth swyddogion o hyd iddo wedi'i grogi yn ei gell ar 27 Mai 2022 a bu farw yn fuan wedyn yn yr ysbyty.

Ni chafodd Harris ddiagnosis iechyd meddwl swyddogol erioed, er bod ei rieni wedi dweud wrth y cwest eu bod yn teimlo bod ganddo broblemau iechyd meddwl ers yr oedd tua 16 neu 17 oed.

Ar 12 Mai fe anfonodd ei fam neges destun at Shane Pearce, ffrind i Harris, a dweud wrtho fod ei mab yn ymddwyn mewn modd "paranoiaidd" ac yn ffugio straeon bod ei rieni wedi ceisio ei wenwyno.

Dywedodd Charmaine Fox wrth y cwest y byddai'n "ffugio cyflyrau meddyliol i osgoi cael ei gadw yn y ddalfa".

Clywodd y gwrandawiad hefyd ei fod yn gaeth i boenladdwyr.

Dywedodd Mr Bennett ei fod yn credu bod Matthew Harris "yn ei iawn bwyll" pan aeth i mewn i'r eiddo a'i fod wedi bwriadu ei lladd.

'Enaid hardd a gofalgar'

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y gwrandawiad, dywedodd Phoebe Fraser bod ei mam yn "wraig, yn fam, yn ffrind gorau".

"Roedd Lisa Fraser yn fwy na menyw gafodd ei llofruddio. Roedd hi'n enaid hardd a gofalgar", ychwanegodd.

"Hi oedd bwrlwm a chalon unrhyw barti neu ddigwyddiad cymdeithasol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.