Heddlu yn ymchwilio wedi marwolaeth seiclwr

- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i seiclwr farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys ddydd Iau.
Bu fan a beic mewn gwrthdrawiad ar yr A4221 ger Coelbren – rhwng Abercraf a Glyn-nedd – am tua 15:15.
Bu farw'r seiclwr yn y fan a'r lle. Mae teulu'r seiclwr wedi cael gwybod, ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion heddlu.
Bu'r ffordd ar gau ar gyfer yr ymchwiliad cyn ailagor am 22:40 nos Iau.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio ar yr A4221 rhwng Coelbren a Chaehopcyn ar y pryd i gysylltu gyda nhw.