Neil Foden 'wedi dweud ei fod yn fy ngharu'

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Foden yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae cynnwys isod all beri gofid.

Dywedodd merch yn ei harddegau, sy'n honni iddi gael ei cham-drin gan brifathro, wrth yr heddlu ei fod wedi dweud ei fod yn ei charu.

Honnir bod Neil Foden - a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - wedi manteisio ar ei sefyllfa i wneud cysylltiadau â phlant.

Mae Mr Foden, 66 o Hen Golwyn, yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.

Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys cyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Ar ail ddiwrnod yr achos yn ei erbyn fe ddangoswyd fideo o gyfweliad y prif achwynydd - Plentyn A - gyda'r heddlu.

Cafodd Mr Foden ei arestio ar ôl i'r plentyn dan sylw ddangos llun ohoni hi gyda Mr Foden yn ei gar i oedolyn arall, a lluniau o drafodaethau o natur rywiol rhwng y ddau.

Yn ei chyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y plentyn fod Mr Foden wedi ei rhybuddio i beidio â dweud wrth unrhyw un am yr hyn roedden nhw'n ei wneud, ac i "gymryd y peth i'r bedd".

Dywedodd bod y ddau wedi dechrau cyfnewid negeseuon ar WhatsApp.

“Byddai’n dweud ei fod yn fy ngharu i. Ar ôl ychydig fe aeth ychydig yn fwy rhywiol," meddai.

“Ar ôl i ni gusanu ychydig ddyddiau’n ddiweddarach fe roddodd ei ddwylo i lawr fy nhrowsus, a byddai’r negeseuon testun yn dweud beth roedd am ei wneud i mi.”

Disgrifiad o’r llun,

Neil Foden yn cyrraedd Llys y Goron Yr Wyddgrug ar ddiwrnod cyntaf yr achos

Yna gofynnodd y swyddog iddi am y tro cyntaf i Mr Foden roi ei fysedd ynddi.

Meddai: “Es i'n nerfus iawn oherwydd doeddwn i erioed wedi cael bachgen yn gwneud hynny o'r blaen.

“Dywedodd fod hynny'n iawn. Cariodd ymlaen beth bynnag... felly fe wnes i adael iddo wneud hynny."

Gofynnodd y swyddog: “Sawl gwaith wnaeth o hynny?”

Atebodd hi: “Ar ôl hynny, trwy’r amser.”

'Ro'n i eisiau mynd adref'

Dywedodd y ferch y byddai Mr Foden yn ei nôl hi yn ei gar ac yn gyrru i fannau distaw ar ffyrdd gwledig, ble byddai Mr Foden yn ei cham-drin.

Dywedodd y byddai'r teithiau yma gyda Mr Foden fel arfer yn para am ddwy neu dair awr.

Roedd y trefniadau wastad yn cael eu gwneud dros negeseuon tecst, meddai, ac weithiau roedd cannoedd o negeseuon y dydd, yr oedd hi'n eu dileu.

Yn ôl Plentyn A, roedd y cyfarfodydd yn digwydd unwaith neu ddwywaith yr wythnos i ddechrau, ac yna’n ddyddiol.

Dywedodd y ferch, ar un achlysur, fod Mr Foden wedi "gafael ynddi a pheidio stopio".

"Roedd o'n gwenu ac yn dweud dim," meddai. "Ro'n i eisiau mynd adref."

Penderfynu dweud wrth oedolyn

Dywedodd y ferch, ar ôl rhyw chwe mis, ei bod hi wedi dechrau meddwl nad oedd hi eisiau gweld Mr Foden eto, a bod ganddi "deimladau cymysg".

"Ro'n i mewn penbleth. Dyna pryd nes i feddwl am ddweud [yr hyn oedd yn digwydd]," meddai.

Dywedodd ei bod wedi dweud wrth ddau ffrind am yr hyn oedd yn digwydd, a bod un "mewn sioc" a'r llall wedi ei hannog i ddweud wrth rywun.

Dyna pryd y dywedodd hi wrth oedolyn am yr hyn oedd wedi bod yn digwydd, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes

Wrth roi tystiolaeth o'r tu ôl i sgrin brynhawn Mawrth, dywedodd Plentyn A wrth y llys nad oedd hi’n siŵr a oedd hi’n caru Neil Foden ar y pryd.

“Dwi ddim yn siŵr sut oeddwn i’n teimlo,” meddai.

“Oedd ganddoch chi crush arno?” gofynnodd yr amddiffyniad

“Na,” atebodd. “Doeddwn i ddim yn ei gasáu o. Doeddwn i ddim yn gwybod sut o’n i’n teimlo. Ro'n i’n ddryslyd.”

Fe wnaeth yr amddiffyniad ei chyhuddo o ddweud celwydd ynglŷn â’r berthynas oedd rhyngddyn nhw.

“Dwi’n derbyn fod Neil Foden wedi eich cofleidio, a gafael yn eich llaw,” meddai Duncan Bould.

“Ond ddigwyddodd dim byd rhywiol.”

Atebodd y ferch: “Do, mi 'naeth o ddigwydd.”

'Ofn' datgelu'r berthynas

O bryd i’w gilydd yn ystod dros awr a 40 munud o gael ei chroesholi, roedd yna ychydig funudau o oedi gan fod Plentyn A yn crio.

Clywodd y llys fod y ferch wedi anfon lluniau o'i hun at Neil Foden.

Dywedodd Plentyn A mai ei syniad hi oedd eu hanfon y tro cyntaf, ond ar ôl hynny “roedd o’n gofyn amdanyn nhw”.

Ychwanegodd ei bod yn teimlo "ofn" datgelu'r hyn oedd wedi digwydd i’r awdurdodau.

Mae'r achos yn parhau.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig