Pryder ym Mhort Talbot cyn i'r undebau a Tata gwrdd

Strydoedd ym Mhort Talbot dan gysgod gwaith dur TataFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

"Ni’n siarad am 3,000 o swyddi ond rydyn ni’n sôn am 3,000 o bobl o’r dre' a’r cyffiniau.

"Ma’n nhw’n dweud am bob swydd yn y gwaith dur mae swydd arall yn y dre yma - busnesau lleol, siopau lleol ac ati.

"Mi fyddai’n drychineb - dwi methu dychmygu beth sy’n mynd i ddigwydd yma."

Mae Margaret Jones, 80, sydd wedi byw a’i magu yng nghysgod gwaith dur Port Talbot, yn bryderus am y dyfodol.

Mae gan gwmni Tata, sy’n berchen ar y ffatri, gynlluniau i ddatgarboneiddio’r safle ac fe allai hyn arwain at golli tua 3,000 o swyddi.

Mae disgwyl y bydd swyddogion undeb yn cwrdd â phenaethiaid Tata i drafod y sefyllfa wrth i’r ansicrwydd barhau.

"Ni wedi bod yn dioddef dros y blynyddoedd gyda’r llygredd o’r gwaith," meddai Margaret, "ond rydyn ni wedi bod yn barod i wneud hynny oherwydd y swyddi sydd yno.

“Wrth gwrs ein bod ni mo'yn i’n gwlad fod yn wyrddach ond rydyn ni braidd yn sinigaidd ynglŷn â beth sydd yn mynd mlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Margaret Jones yn ofni bod yna awydd i gau'r safle ym Mhort Talbot yn gyfan gwbl

"Mae rhai ohonyn ni yn meddwl mai esgus yw hyn i gau’r gwaith yn gyfan gwbl, byddai hwnna’n drychineb fawr achos does dim swyddi eraill."

Ychwanegodd bod ei theulu wedi gweithio yno erioed a’i fod yn anodd dychmygu’r dref heb y gwaith dur.

Mae'r banc bwyd yn brysur ar hyn o bryd, meddai Margaret, ond mae'n rhagweld y gallai fod yn fwy prysur byth.

"Ry'n ni’n pryderu’n fawr iawn am y dyfodol," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot yw safle mwyaf Tata ym Mhrydain

Er mwyn cael gwared ar garbon o’r broses creu dur, mae Tata eisiau cau dwy ffwrnais sy’n defnyddio glo a gosod ffwrnes bwa trydan yn eu lle.

Yn ôl y cwmni, os yw Tata'n derbyn y gymeradwyaeth angenrheidiol gallai'r ffwrnais newydd sy'n cael ei phweru gan drydan fod yn weithredol o fewn tair blynedd.

Ar hyn o byd mae tua 4,000 o weithwyr dur yn cael eu cyflogi yn y ffatri ond gyda’r newidiadau posib byddai’r gweithlu’n cael ei chwtogi.

'Dur o'r ansawdd gorau'

Yn wreiddiol o Bontrhydyfen mae Brian Jones bellach yn byw ym Maglan ac mae ei fab wedi gweithio ar y safle am 15 mlynedd.

Gobaith Brian a’i fab yw y bydd y cwmni'n cau un ffwrnes yn unig gan barhau i ddefnyddio'r llall.

"Os maen nhw'n cau'r ail ffwrnes mewn rhyw 10 mlynedd, er enghraifft, bydd llawer o'r gweithwyr wedi ymddeol erbyn hynny," meddai Brian.

"Y rheswm mae'r gwaith dur ym Mhort Talbot wedi bod mor llwyddiannus yw achos mae’r ffwrnes yn creu digon o wres i allu creu dur o'r ansawdd gorau - y math o dur maen nhw'n defnyddio yn y diwydiant ceir a'r dur mae'r fyddin yn defnyddio i adeiladu tanciau.”

Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r ardal ar ei cholled yn ddirfawr petai yna newyddion drwg am y safle, medd Brian Jones

Dywedodd Brian bod pawb ym Mhort Talbot yn perthyn i rywun sy’n gweithio yn y gwaith dur neu’n adnabod rhywun sy’n gweithio yna, felly byddai’r sefyllfa yn effeithio’r gymuned gyfan.

"Does dim lot arall ym Mhort Talbot, os mae pobl yn colli eu swyddi," meddai.

"Mae prisiau tai yn mynd lawr, mae busnesau yn mynd i ddioddef hefyd, mae am effeithio ar bawb yn y dre."

'Chwarae'n galed' i godi calonnau gweithwyr

Mewn ymgais i arbed swyddi mae undebau gweithwyr dur wedi defnyddio cwmni ymgynghorol annibynnol i lunio cynllun amgen ar gyfer y safle ac mi fydd swyddogion yn cyfarfod â phenaethiaid Tata yn Llundain.

Eisoes mae Llywodraeth y DU wedi addo talu £500m i Tata i gadw safle Port Talbot ar agor ac i ddatgarboneiddio’r gwaith yno.

Mae Efan Ellis yn gapten tîm rygbi Tata Steel, un o nifer o glybiau chwaraeon yn enw’r cwmni, sydd hefyd yn cynnwys tîm pêl-droed a chriced.

Dywedodd yr athro cynradd bod y cefnogwyr a’r chwaraewyr un ai’n gweithio yn Tata neu’n gyn-weithwyr, gan eu disgrifio nhw fel "teulu agos".

Disgrifiad o’r llun,

Mae pawb yn croesi bysedd am newyddion calonogol, medd Efan Ellis, capten tîm rygbi Tata Steel

"Dros yr wythnosau diwethaf ry'n ni wedi dangos ein cefnogaeth ni tuag at y gweithwyr dur trwy chwarae'n galed er mwyn gwneud yn siŵr bod dal gyda ni wynebau hapus a phawb yn bositif," meddai Efan.

"Gobeithio wedyn bod hynny'n dangos bod ni hefyd yn brwydro dros weithwyr y gwaith dur.

"Rydyn ni wedi bod wrthi dros y blynyddoedd yn chwarae i Tata Steel ac yn lwcus i chwarae a'r bathodyn 'na ar ein crys ni, a mae'n bwysig bod ni'n chwarae drostyn nhw hefyd a nid jyst dros ein gilydd.

"Rydyn ni’n ffrindiau oddi wrth y cae a rydyn ni jyst yn croesi bysedd bydd pethau yn edrych yn llawer hapusach iddyn nhw yn y dyfodol a'u teuluoedd nhw."