Tata: DU yn trafod cytundeb £500m i ddiogelu ffatri
- Cyhoeddwyd
Mae AS wedi croesawu adroddiadau bod llywodraeth y DU mewn trafodaethau gyda Tata Steel i ddiogelu dyfodol ei ffatri ym Mhort Talbot.
Ond dywedodd Stephen Kinnock fod unrhyw gytundeb newydd hefyd angen cefnogaeth y gweithlu.
Mae Sky News yn adrodd byddai'r cytundeb yn sicrhau £1bn ar gyfer y safle ond y gall arwain at golli hyd at 3,000 o swyddi yn y DU dros y blynyddoedd i ddod.
Dywedon nhw fod y cynlluniau drafft yn cynnwys San Steffan yn ymrwymo tua £500m o gyllid.
Byddai rhiant-gwmni Tata Steel yn cytuno ar £700m o wariant cyfalaf, meddai Sky News, a fyddai'n helpu i dalu am symud i ffwrdd o ffwrneisi glo.
Dywedir y byddai'r cwmni'n ymrwymo i adeiladu ffwrneisi trydan, sy'n cynnig ffyrdd gwyrddach, llai llafurddwys o gynhyrchu dur na ffwrneisi traddodiadol.
Dywedodd AS Aberafan, Mr Kinnock, mewn neges ar Twitter: "Mae croeso i bob buddsoddiad, ond nid ffwrneisi trydan [yw'r] unig lwybr i ddatgarboneiddio dur.
"Rhaid i hydrogen ac ati hefyd fod yn rhan o'r cymysgedd, felly gellir parhau i wneud pob math o ddur, a diogelu dyfodol pob gwaith dur."
Ychwanegodd Mr Kinnock bod yn rhaid i undebau "gymryd rhan lawn a rhaid i'r gweithlu gefnogi'r cynllun".
Yn ôl ffynonellau yn y diwydiant fe all cymaint â 3,000 o staff y cwmni yn y DU golli eu swyddi yn y dyfodol.
Mae gweithfeydd Tata ym Mhort Talbot yn cyflogi tua 4,000 o weithwyr.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Mae Tata Steel yn parhau i drafod gyda llywodraeth y DU ar gyfer parhad a datgarboneiddio'r broses o wneud dur yn y DU yng nghanol amodau busnes sylfaenol heriol iawn o ystyried bod nifer o'i hasedau pen trwm yn nesáu at ddiwedd eu hoes. .
"O ystyried sefyllfa ariannol ein busnes yn y DU, dim ond gyda buddsoddiad a chefnogaeth y llywodraeth y mae unrhyw newid sylweddol yn bosibl, fel y gwelir hefyd mewn gwledydd cynhyrchu dur eraill yn Ewrop lle mae llywodraethau'n cefnogi cwmnïau gyda mentrau datgarboneiddio."
'Cynnal cynhyrchiant a diogelu'r dyfodol'
Dywedodd Community, undeb y gweithwyr dur: "Rydym yn parhau mewn trafodaethau gyda'r cwmni ac nid yw'r undebau wedi cytuno ar unrhyw strategaeth datgarboneiddio ar gyfer Port Talbot.
"Rydym yn parhau i gefnogi datrysiad a fydd yn cynnal cynhyrchiant ac yn diogelu'r dyfodol ar gyfer holl weithfeydd y DU. Rydym yn barod i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ni ddiogelu swyddi a'n diwydiant strategol hanfodol."
Beirniadodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham, y cynlluniau yr adroddwyd amdanynt a dywedodd y byddai'r undeb yn "cynnal ymgyrch sylweddol" i amddiffyn swyddi.
"Fe allai'r llywodraeth hon ein gwneud ni'n brifddinas dur gwyrdd Ewrop - yn lle hynny maen nhw'n dewis dilyn agenda torri swyddi," meddai.
"Ni fydd Unite yn gadael unrhyw garreg heb ei throi yn y frwydr am swyddi. Byddwn nawr yn cynnal ymgyrch sylweddol ar y mater hwn ac rydym yn llwyr ddisgwyl i'r Blaid Lafur wneud ymrwymiad difrifol i ddyfodol gwell i UK Steel."
Dywedodd llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio'n agos gyda'r cwmni, a'i bod wedi galw dro ar ôl tro ar lywodraeth y DU i gyflwyno pecyn cymorth ar fyrder i sicrhau gwaith dur ym Mhort Talbot.
"Ein bwriad yw i archwilio pob ffordd o sicrhau dyfodol carbon isel llwyddiannus i ddur Cymru. Mae'r nod hwn yn gwbl bosibl, ond mae angen i lywodraeth y DU weithredu ," meddai llefarydd.
Gwrthododd llywodraeth y DU wneud sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022
- Cyhoeddwyd7 Awst 2022