Disgwyl tân gwyllt wrth i America ddewis eu harlywydd nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae Aled Huw wedi gohebu o'r Unol Daleithiau ers canol y 1990au, gan dystio i sawl newid wrth i etholwyr gefnu ar y tir canol.
Yr wythnos hon mae'n teithio i'r Unol Daleithiau ar gyfer ras Arlywyddol 2024 - ei wythfed yn olynol.
Yw Trump II ar ddod? Gwlad y blockbusters yw America, ac mae'r Unol Daleithiau'n hoff o sequels i odro 'llwyddiant' a fu.
Meddyliwch am Rocky neu Top Gun... yw hyn yn awgrymu y gall Donald Trump fod ar ei ffordd yn ôl i'r Tŷ Gwyn?
Mae'r arolygon barn wedi'u hollti, yn gytûn ar un ffaith, fod dim rhwng ymgeisydd y Gweriniaethwyr a'i wrthwynebydd, y Democrat o Is-arlywydd Kamala Harris.
Fel arfer dewis rhwng parhad a newid yw'r etholiad arlywyddol i America, ond mae eleni'n wahanol.
Yn ddirprwy i Joe Biden, a oes modd i Kamala Harris gynrychioli newid? Ynteu oes 'na awydd i droi'r cloc yn ôl i 2016?
Bydd America'n bwrw pleidlais ar 5 Tachwedd - dyddiad arwyddocaol efallai, oherwydd mewn gwlad sydd wedi'i rhannu, fe fydd yna dân gwyllt.
Mae yna eironi bod dyn gwyn yn addo ail-greu America'r gorffennol - bod biliwnydd o ddyn busnes yn llwyddo i ddarbwyllo pobl dlawd a'r dosbarth gweithiol mai fe yw'r dyn i'w cynrychioli.
Bod dyn 78 oed adnabyddus yn rhoi llais i filiynau o Americanwyr sy'n teimlo wedi'u hanghofio ac sydd wedi colli ffydd yn eu gwlad, ei llywodraeth a'i sefydliadau.
Dim ots, medden nhw, ei fod yn droseddwr, ei fod wedi ei uchelgyhuddo ddwywaith, a'i gael yn euog gan lys o ymosod yn rhywiol ar fenyw.
Mae'n ymddangos i'w fethiannau adeg Covid gael eu maddau hefyd.
I'w gefnogwyr mae'r eirfa ddi-flewyn-ar-dafod a'i barodrwydd i ddweud pethau annerbyniol, i leisio'u hofnau os nad eu rhagfarnau, yn rhinweddau i'w croesawu.
I hanner America mae ei safbwyntiau a'u bolisïau'n wrthryfel yn erbyn Washington a'i sefydliadau.
Kamala Harris, menyw 60 oed o gefndir Affro-Americanaidd, sy'n sefyll rhwng Trump a thenantiaeth y Tŷ Gwyn am yr eildro - y sequel y mae'n dyheu gymaint amdano.
Mae hi'n wyneb i America wahanol - un sy'n ymrwymo i amddiffyn hawliau menywod, y digartref a mewnfudwyr, a bod yn llaw gadarn ar y llyw rhyngwladol mewn oes ansicr.
Er bod America'n undeb o 50 o daleithiau, nifer fach i bob pwrpas fydd yn cyfri'r tro hwn.
Saith talaith yw maes y gad - saith talaith â dim ond degau o filoedd o bleidleiswyr, o blith dros 160m o etholwyr.
Rhain sydd â'r cyfrifoldeb o ddewis cyfeiriad nesa'r wlad a chwrs y byd.
Gwlad ranedig a llai goddefgar
Rwy' wedi ymweld ag America'n gyson ers dros dri degawd ac wedi profi a thystio i newid rhyfeddol yn y wlad a'i phobl.
Newid a ddechreuodd o leiaf dau ddegawd ynghynt ond sy'n cyflymu ac yn llawer mwy gweledol a phendant ers dechrau'r mileniwm newydd.
Mae America'n rhannu, yn polareiddio, yn mynd yn llai goddefgar o'i gilydd.
Taleithiau coch Gweriniaethol yn mynd yn fwy coch, a glas y Democratiaid yn fwy glas fyth.
Edrychwch ar fap o'r gefnogaeth wleidyddol bresennol.
Coch yw canol y wlad i bob pwrpas, a'r glas wedi ei gyfyngu i'r gogledd-ddwyrain ac ar hyd yr arfordir gorllewinol.
Glas yw'r dinasoedd mawr, poblog, aml-hil, a chefn gwlad gwyn yn goch.
Prin, os o gwbl, yw taleithiau porffor, neu lasgoch, y tir canol.
Wrth i bobl symud i fyw i gymunedau sy'n rhannu eu gwerthoedd a'u daliadau, mae'r gwahaniaethau'n bwydo a thyfu, ac America'n mynd yn fwy 'llwythol'.
Mae'r rhaniadau'n bwydo rhagfarnau hefyd.
Yn yr 80au, degawd yr Arlywydd Ronald Reagan, doedd chwarter y boblogaeth ddim yn uniaethu â'r ddwy brif blaid, ac fe lwyddodd Reagan i apelio at Ddemocratiaid hefyd.
Ond diflannodd y tir canol yn America dros y degawdau diwethaf, ac rwy' wedi gweld a phrofi hynny.
Erbyn y flwyddyn 2000 roedd y 'canol' wedi cwympo i 6%.
Pwy all anghofio’r 527 o bleidleisiau ddewisodd rhwng Al Gore a George W Bush?
Bellach ar lefel genedlaethol, mae pleidleiswyr y tir canol wedi crebachu i lai na 1% o etholwyr.
Mae 'na sawl rheswm am y rhannu cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol.
Mae modd dadlau bod y cyfan yn dyddio'n ôl i ganol y 1960au, at ddwy ddeddf benodol.
Deddf hawliau sifil '64 a deddf pleidleisio '65 i fynnu cydraddoldeb a hawl pleidleisio cyfartal i bobl o gefndiroedd ethnig.
O'r foment yna, fe dyfodd dicter gwleidyddol rhwng pobl America, ac ymhlith rhai pobl wyn yn arbennig.
Ers i fi ymweld ag America gyntaf, mae'r gagendor rhwng pobl dlawd a'r aruthrol gefnog wedi tyfu'n enfawr.
Gwlad gyfoethoca'r byd yw America, ond mae canran y bobl sy'n ei chael hi'n anodd i brynu bwyd wedi cynyddu'n gyson, a phobl o gefndir Affro-Americanaidd yw'r ganran fwyaf, a'r un sy'n dringo gyflymaf.
Fel yng Nghymru, dros y blynyddoedd diwethaf mae chwyddiant wedi gorfodi hyd yn oed teuluoedd sy'n gweithio i ddibynnu ar fanciau bwyd.
Prin yw'r bobl yn y canol economaidd.
Slogan yr Arlywydd Reagan oedd Make America Great Again.
Slogan sy'n edrych nôl a 'mlaen, yn hiraethu ac yn addo cyfnod gwell i ddod.
Drwy herwgipio'r hen blaid Weriniaethol at ei ddibenion ei hun, nod Donald Trump yw arwain America i gyfeiriad gwahanol.
Gwlad o fewnfudwyr yw America. Dyna'i hanes, ei chryfder a'i gwendid, ac mae lliw croen nawr yn rhannu eto.
Fe brofais i hynny pan darodd Corwynt Katrina ddinas New Orleans yn 2005.
Methodd llywodraeth ffederal y Gweriniaethwr George W Bush â chynorthwyo trwch y boblogaeth dlawd yno.
Gadawodd traean o'r boblogaeth y ddinas - y rhan fwyaf yn bobl o gefndir Affro-Americanaidd. Traean oedd i bob pwrpas yn pleidleisio i'r Democratiaid.
Trodd talaith Louisiana yn goch - talaith sydd â chaethwasiaeth a chamdriniaeth pobl ddu yn ei genynnau.
Mae symudiad poblogaeth wedi cael effaith ehangach cenedlaethol, ac mae Donald Trump wedi elwa o ofn mewnfudo.
"Mae Efrog Newydd yn llawn," meddai am ei ddinas ei hun - dinas a groesawodd filiynau i godi'r wlad ar ei thraed.
Dinas lle mae'r Statue of Liberty yn cynnig llewyrch yng ngeiriau Emma Lazarus i'r "blinedig a'r tlawd" ac yn amserol i'r "gwastraff truenus".
Ond ai Kamala Harris fydd yn elwa yn y pendraw o sylwadau'r digrifwr Tony Hinchliffe yn rali fawr Madison Square Gardens, yn disgrifio pobl Puerto Rico fel "ynys o wastraff"?
Ynteu a fydd yr addewid o godi'r wal a gwahardd Mwslemiaid rhag croesi'r ffin yn taro deuddeg gyda mwyafrif yr etholwyr yn y taleithiau allweddol?
Fe brofais i orfoledd Americanwyr du y tu fas i'r Tŷ Gwyn pan gafodd Barack Obama ei ethol yn 2008 - oes yr "Yes we can".
Gwrthod ymgyrchu ar sail hil y gwnaeth Obama, ond pan adawodd yr Arlywydd du cyntaf wyth mlynedd wedyn, roedd hil yn rhannu'r wlad a'i gwleidyddiaeth yn fwy nag erioed.
Unodd y Gweriniaethwyr ar Capitol Hill i rwystro cymaint o'i bolisïau.
Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith i Donald Trump gael ei ethol ar ôl i Arlywydd du hawlio'r Tŷ Gwyn am ddau gyfnod.
Hwn hefyd oedd adeg gwawrio pŵer gwefannau cymdeithasol, a'u gallu negyddol.
Mae'n rhaid cydnabod bod 'na ambell gyfnod o 'undod cenedlaethol' wedi bod, os mai rhai prin a byr.
Rwy'n cofio'r undod amlyca'n eglur.
Glanio'n Washington ar un o'r awyrennau cyntaf i groesi'r Iwerydd ar ôl ymosodiadau 11 Medi ac ymweld â'r Pentagon oedd yn dal i losgi.
Ymosodiadau a siglodd y wlad i'w seiliau, ond a unodd y genedl a'i phobl.
Am gyfnod cafodd rhaniadau etholiad 2000 eu hanghofio, wrth i George Bush addo trechu terfysgaeth.
Ond fe arweiniodd methiannau ei ryfel yn Irac at ailagor y clwyfau.
Dychwelodd erthylu'n bwnc canolog hefyd - pwnc sy'n mynnu ei le yn ras 2024.
Ers dyfarniad allweddol Roe v Wade Goruchaf Lys America ym 1973, fe fu gan bob menyw yn America ddewis.
Ond yn ystod ei arlywyddiaeth cafodd Donald Trump gyfle i benodi tri o'r naw barnwr presennol yn yr Uchel Lys, gan sicrhau a hoelio mwyafrif ceidwadol i'r sefydliad.
Y barnwyr hynny wnaeth wrthdroi Roe v Wade y llynedd, gan arwain at rai taleithiau'n gwahardd erthylu eto.
Cam naturiol yw dod i'r casgliad y byddai mwy o fenywod America'n cefnogi safbwynt Kamala Harris a'r Democratiaid, ond dyw'r arolygon barn ddim yn adlewyrchu hynny.
Yw bod yn fenyw, heb sôn am fod yn fenyw o dras Affro-Americanaidd, yn parhau'n rhwystr i hawlio allweddi'r Tŷ Gwyn?
Cofiwch 2016. Dim ond 51% o fenywod bleidleisiodd i Hillary Clinton.
Mae rhyfeloedd Wcráin a'r Dwyrain Canol yn rhannu hefyd.
Gyda'r byd, ac nid dim ond America, ar groesffordd, mae'r dewis rhwng Trump a Harris ar dafodau'n rhyngwladol.
A fyddai Donald Trump mewn gwirionedd yn cefnu ar gefnogi Wcráin?
A fydd safbwynt cefnogol diamod Joe Biden i Israel yn colli pleidleisiau ymhlith pobl o dras Arabaidd i Kamala Harris?
Sut fyddai Arlywyddiaeth Trump II yn delio â Vladimir Putin, Xi Jinping a Kim Jong Un?
Mae'r pris uchel a dalwyd yn Afghanistan ac Irac yn dal yn fyw yn y cof yn America, ac mae awydd ymhlith canran sylweddol i roi'r gorau ar fod yn 'blismon y byd'.
Addo America ynysig y mae un, a'r llall yn ymrwymo i gydweithio.
O'r saith talaith allweddol yn etholiad eleni, mae un yn serennu - Pennsylvania.
'Conglfaen' yw llysenw'r dalaith, ac yn ogystal â bod yn gonglfaen i ymgyrchoedd y ddwy blaid, mae'n feicrocosm o weddill America.
Eleni eto mae'r llwybr i'r Tŷ Gwyn yn debygol o fynd drwy'r dalaith hon.
Donald Trump enillodd Pennsylvania a'r Tŷ Gwyn yn 2016.
Yn 2020 aeth i golofn Joe Biden gyda 'chydig dros 80,000 o bleidleisiau, er i'w fagwraeth yn ninas Scranton gyfrannu i'r llwyddiant yna.
Edrychwch yn fanwl ar y dalaith, ac mae'n ddrych i weddill America.
Tua 60% yn wyn, 40% o gefndiroedd ethnig.
Mae'r dinasoedd mawr, Pittsburg a Philadelphia, a'r ardaloedd trefol eraill yn gadarnleoedd i'r Democratiaid.
Y Gweriniaethwyr sydd biau'r maestrefi a chefn gwlad, a'r ardaloedd amaethyddol.
Yr un yw'r pynciau allweddol - yr economi, chwyddiant, erthylu a mewnfudo.
Does fawr o dir canol.
Prin hefyd, yn ôl yr arolygon barn, yw'r etholwyr sydd heb benderfynu pwy neu ba ochr i'w gefnogi.
Trump II neu'r Arlywydd benywaidd, du cyntaf. Dyna yw'r dewis, ac mae'r byd yn disgwyl am y blockbuster o bleidlais.
Bydd Newyddion S4C yn darlledu'n fyw o America yr wythnos hon, gan ddechrau am 19:30 nos Lun gyda rhifyn arbennig nos Fercher 6 Tachwedd