Clwb ieuenctid yn poeni am y dyfodol heb fwy o gyllid

Plant clwb ieuenctid yn chwarae.
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 250 o blant wedi cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Maerdy

  • Cyhoeddwyd

Mae clybiau ieuenctid yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd yr argyfwng costau byw.

Mae un clwb ieuenctid yn Nyffryn Aman wedi dweud na fydd dewis ond cau oni bai eu bod nhw’n dod o hyd i gyllid yn y misoedd nesaf.

Daw wrth i ffigurau diweddar ddangos fod rhieni yn ei chael hi’n anodd danfon eu plant i glybiau allgyrsiol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae “mynd i’r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth”.

'Mewn trwbl' heb gyllid erbyn Chwefror

Ers 2015 mae Clwb Ieuenctid Maerdy wedi bod yn croesawu plant yr ardal, ac erbyn hyn mae dros 250 wedi cofrestru.

“Ma’r ffaith bo' nhw’n dod fan hyn yn golygu bo' 'da nhw rywun i siarad â, a rhywle le ma' nhw’n saff, yn gallu bod eu hunain heb gael ei barnu, a fi yn becso tasen ni ddim yma, lle bydden nhw,” meddai Heledd Owen, rheolwr y clwb.

“Os nag y'n ni’n dod o hyd i ryw gyllid erbyn mis Chwefror fyddwn ni mewn trwbl - fydd 'na bosibilrwydd wedyn fyddwn ni yn cau.

“M'’ angen cyllid arnom ni, yn enwedig ar glybiau ieuenctid bach gwledig, achos does dim byd arall yma.

"Heb ni fi ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd i rai o'r plant, fi wir ddim.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd Owen yn poeni beth fyddai'n digwydd i'r plant sy'n mynychu pe bai'r clwb yn cau

Mae’r ganolfan yn rhan bwysig o fywydau plant a phobl ifanc yr ardal.

“Ma' nhw fel teulu i fi. Fi 'di bod yma ers hir a ni’n cael ein clywed yma,” meddai Aimee, sy’n 13.

“Hwn yw’r unig glwb ieuenctid yn GCS (Gwauncaegurwen) a pryd ni’n cael discos ma' pawb yn mynd,” meddai Lea, sy’n 11.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aimee a Lea yn teimlo bod y clwb yn un hynod werthfawr

Yn ôl arolwg diweddar gan Sefydliad Bevan mae nifer o rieni yn ei chael hi’n anodd fforddio gweithgareddau allgyrsiol i’w plant.

Gydag un ymhob pump yn dweud nad oedd modd i’w plant gymryd rhan mewn clybiau chwaraeon, ac un ym mhob saith ddim yn gallu mynychu gwersi cerddoriaeth, dawnsio neu ddrama.

“Ma' tlodi yn broblem enfawr yng Nghymru. Ma' un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi,” meddai Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan.

“Ma’r galw am wasanaethau sydd am ddim yn cynyddu, ond wrth gwrs heb arian cyhoeddus yn eu cefnogi, mae’n gylch ofnadwy sy’n golygu bod y cymorth ddim ar gael i’r plant a phobl ifanc sydd ei angen e fwyaf.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae un o bob tri o blant Cymru'n byw mewn tlodi, yn ôl Dr Steffan Evans

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth.

“Mae'r ystadegau ar gyfer tlodi plant yn dangos maint yr her yma yng Nghymru, a rhaid i'n hymdrechion ar y cyd barhau i ganolbwyntio ar fuddiannau plant a phobl ifanc heddiw a'r dyfodol.

"Mae ein Strategaeth Tlodi Plant newydd yn nodi ein huchelgeisiau tymor hir.

“Mae hyn yn cynnwys ehangu mynediad i chwarae yn y gymuned, chwaraeon, gweithgareddau ieuenctid, a mynediad at y celfyddydau a diwylliant.”

Pynciau cysylltiedig