Cwest: Dyn, 22, wedi marw ar ôl cael ei drywanu ger Pontypridd

Roedd Liam Woolford, 22, yn dod o Borth, Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn yn Rhydyfelin ger Pontypridd ym mis Medi wedi iddo gael ei drywanu yn ystod ffrwgwd ar y stryd, mae cwest wedi clywed.
Cafodd Liam Woolford, 22, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi iddo gael anaf dwfn yn ystod y digwyddiad.
Clywodd y cwest fore Mercher yn Llys y Crwner ym Mhontypridd fod Mr Woolford wedi marw yn ystod llawdriniaeth a bod Heddlu'r De wedi ymateb i'r digwyddiad wedi iddyn nhw gael nifer o alwadau gan y cyhoedd.
Mae archwiliad post mortem wedi'i gynnal a nodwyd dros dro bod Mr Woolford wedi marw o "anaf i'r bongorff (trunk) o ganlyniad i drywanu".
Yn ystod y gwrandawiad clywodd y llys fod Mr Woolford yn byw ym Mhorth ac wedi'i eni yn Llantrisant.
Fe wnaeth y crwner Kerrie Burge ohirio'r cwest tan ddyddiad diweddarach a chydymdeimlodd â theulu Mr Woolford.
Mae pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn y llys eto yn ddiweddarach y mis hwn.
- Cyhoeddwyd23 Medi
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.