Ailagor Theatr y Palas Abertawe wedi 15 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae theatr yn Abertawe a fu’n llwyfan i Charlie Chaplin ac Anthony Hopkins wedi ailagor ei drysau am y tro cyntaf ers 2006.
Roedd disgwyl y byddai Theatr y Palas yn cael ei dymchwel ar ôl i'r adeilad fod yn wag am dros 15 mlynedd.
Ond yn dilyn prosiect gwerth bron i £10m, mae'r adeilad bellach wedi ailagor ac yn cynnwys caffi, swyddfeydd a lle i ddigwyddiadau.
Pan agorodd yn 1888, roedd yn denu hyd at 900 o ymwelwyr bob nos, a dros y degawdau mae’r adeilad wedi ei ddefnyddio fel neuadd bingo a chlwb nos.
'Abertawe angen rhywle fel hyn'
Fel rhan o’r gwaith adeiladu, mae nifer o nodweddion gwreiddiol y theatr wedi’u hadfer, gan gynnwys y bwa coch o amgylch y llwyfan, llen y llwyfan a’r brics coch gwreiddiol y tu allan.
Cwmni Tramshed Tech sydd nawr yn prydlesu’r adeilad, gyda’r gobaith o ddenu busnesau technoleg a busnesau lleol i weithio yno.
Mae Max Rees o Abertawe fel arfer yn gweithio o adref i gwmni technoleg, ond erbyn hyn mae'n gobeithio gweithio yn yr adeilad yn gyson.
Dywedodd: “Fi wedi gweithio o adre ers pum mlynedd, felly mae’n neis i gael swyddfa fel hyn ac i weithio gyda phobl newydd.
“Fi jest yn gweld ci fi fel arfer, ond mae’n neis i weithio gydag eraill a chael y cysylltiad yna gyda phobl.
“Fi bendant yn credu roedd Abertawe angen rhywle fel hyn, felly mae’n grêt.”
Y gantores o Gaerdydd, Jessica Robinson, oedd y cyntaf i ganu ar y llwyfan ers ailagor yr adeilad.
“Mae’n anrhydedd i berfformio ar y llwyfan yma ac i ymuno ag enwau fel Charlie Chaplin ac Anthony Hopkins sydd hefyd wedi perfformio yma. Mae’n llwyfan eiconig,” meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £6.9m yn y prosiect fel rhan o gynllun Trawsnewid Trefi.
Yn ôl Jayne Bryant AS, ysgrifennydd y cabinet dros lywodraeth leol a thai, mae’r gwaith yn “bwysig iawn”.
“Mae’n arbennig i fod mewn adeilad fel hyn sydd wedi cael bywyd newydd trwy’r buddsoddiad," medai.
“Mae buddsoddi mewn canol dinasoedd a threfi yn hynod bwysig, mae’n denu pobl i’r ardal, mae’n bwysig i’r economi leol ond hefyd mae’n bwysig i sut mae pobl yn teimlo am lle maen nhw’n byw.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf