'Mwy o gartrefi gofal i gau heb ymyrraeth frys'

Bodawen
Disgrifiad o’r llun,

Mae cartref Bodawen ym Mhorthmadog 97% yn llawn drwy gydol y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Bydd mwy o gartrefi gofal yng Nghymru yn cau heb ymyrraeth frys gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Fforwm Gofal Cymru.

Mae'r fforwm wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod nifer y cartrefi gofal yng Nghymru sy’n cau oherwydd costau cynyddol yn achos o bryder sylweddol.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dweud fod y sefyllfa yn creu diwylliant “o or-bryder ac ansicrwydd”.

Mae nifer y cartrefi gofal yng Nghymru ar eu hisaf ers 2015, gyda dros 500 o wlâu yn llai nag wyth mlynedd yn ôl.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cyfrifoldeb awdurdodau a byrddau iechyd lleol ydi gofal, ac maen nhw wedi buddsoddi £70m eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Roberts yn rhagweld y bydd mwy o gartrefi gofal yn cau dros y misoedd a blynyddoedd nesaf

Yng nghartref gofal Bodawen ger Porthmadog mae yna le i 39 o breswylwyr.

Mae'r cartref yma - a safle Cwmni Cariad yng Nghriccieth - 97% yn llawn drwy gydol y flwyddyn.

Yn ôl y rheolwraig Ceri Roberts, dyna’r unig ffordd o gynnal gwasanaethau gyda chostau ar gynnydd.

“Mae prisiau bwyd wedi mynd fyny dros 20%, incotenence products eto dros 20%, utilities wedi dyblu ac yswiriant hefyd wedi dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf," meddai.

“Yn anffodus does 'na’m cartrefi gofal yn cael eu hadeiladu felly fydd 'na fwy o gartrefi yn cau.”

Yn ôl Ms Roberts mae o leiaf pedwar cartref gofal wedi cau yng ngogledd Cymru dros y misoedd diwethaf, gan arwain at golli dros 160 o wlâu.

Mae hi’n disgrifio’r sefyllfa fel un sydd angen ei datrys ar frys.

87 yn llai o gartrefi gofal

Mae ffigyrau Arolygiaeth Gofal Cymru yn dangos fod yna ostyngiad o 87 yn nifer y cartrefi gofal ym mis Mawrth 2023 o'i gymharu â’r un cyfnod yn 2015.

Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos fod ’na ostyngiad o 520 yn nifer y gwlâu ym mis Mawrth 2022 o'i gymharu â’r un cyfnod yn 2015.

Yn ôl adroddiad blynyddol y sefydliad, y prif reswm bod darparwyr yn gadael y sector yn barhaol oedd gan “nad oedd posib cynnal y gwasanaeth yn ariannol” neu fod darparwyr yn penderfynu “nad oedden nhw eisiau bod yn gyfrifol am gartref o’r fath”.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mary Wimbury fod sawl cymuned yng ngogledd Cymru yn ddibynnol ar un cartref gofal yn unig

Dywedodd prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury, fod y sefyllfa yn eithriadol o heriol.

“Yn anffodus dwi’n siŵr y gwelwn ni fwy o gartrefi gofal yn cau achos y pwysau a chostau.

“Costau bwyd, yswiriant a jest dim digon o arian yn dod mewn i’r sector.”

Ychwanegodd Ms Wimbury fod sawl cymuned yng ngogledd Cymru yn ddibynnol ar un cartref gofal yn unig, a bod graddfa’r cau yn achosi pryder sylweddol.

Dywedodd hefyd fod cartrefi yn cau yn rhoi mwy o straeon ar y cartrefi a staff gofal sy’n weddill yn y gymuned.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa yn "creu lot fawr o ansicrwydd a gor-bryder ymysg pobl hŷn", medd Helena Herklots

Yn ôl Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae’r sefyllfa yn bryder sylweddol yng ngogledd Cymru, lle mae’r raddfa o gau yn gynt.

“'Da ni’n clywed am gartrefi gofal yn cau ac am bobl sy’n poeni hefyd a fydd cartref gofal eu hanwyliaid yn cau yn y dyfodol?” meddai.

“Mae’n creu lot fawr o ansicrwydd a gor-bryder ymysg pobl hŷn a’u teuluoedd ac maen nhw’n delio efo sgil effeithiau'r cynnydd mewn costau byw hefyd."

Ychwanegodd Ms Herklots fod angen i staff gofal gael eu talu ar yr un raddfa a staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gwneud swyddi tebyg, gan ddweud fod angen datrysiad “ar frys ac ar gyfer y tymor hir”.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, “mater i awdurdodau lleol a byrddau iechyd yw darparu gwlâu gofal preswyl a gofal nyrsio”.

“Rydyn ni wedi creu fframwaith clir i bartneriaid allu gweithio’n rhanbarthol i asesu angen y boblogaeth," meddai llefarydd.

"Rydyn ni’n buddsoddi £70m eleni i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn parhau i gael tal sydd o leiaf yn cyfateb i’r Cyflog Byw Gwirioneddol.”