Mwy o ferched na bechgyn yn cael problemau â'r cyfryngau cymdeithasol

Disgrifiad,

Dywedodd Mirain, Malan a Nest eu bod yn defnyddio'u ffonau yn aml, ond eu bod yn gwybod am rai oedd yn waeth

  • Cyhoeddwyd

Mae dwywaith cymaint o ferched oed ysgol uwchradd wedi dweud bod ganddyn nhw broblem yn ymwneud â defnyddio cyfryngau cymdeithasol o'i gymharu â bechgyn, yn ôl arolwg.

Roedd un ymhob pump o ferched rhwng 13 a 15 oed wedi sôn am broblemau - fel trafferth yn cyfyngu ar eu defnydd, neu gyfryngau cymdeithasol yn achosi gwrthdaro gyda theulu a ffrindiau.

Un o bob 10 o fechgyn o'r un oedran wnaeth adrodd problemau tebyg.

Daw'r canlyniadau o un o arolygon mwyaf plant ysgol yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Phrifysgol Caerdydd.

Dywedodd ICC nad oedd y rhesymau am y gwahaniaethau yn amlwg.

21% yn adrodd defnydd problemus

Cafodd plant rhwng 11 ac 16 oed eu holi am eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol, yn cynnwys a oedden nhw'n rhoi'r cyfryngau cymdeithasol o flaen diddordebau eraill, ac a oedd y cyfryngau cymdeithasol ar flaen eu meddyliau drwy'r amser.

Roedd y gwahaniaethau mwyaf rhwng bechgyn a merched ymysg plant 13 i 15 oed.

Roedd 21% o ferched yn y grŵp oedran hwnnw wedi adrodd y gyfradd uchaf o ddefnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol.

Tua 10% oedd y ffigwr i fechgyn o'r un oed.

Yn gyffredinol dros Gymru, y ffigyrau oedd 17.9% i ferched, a 9.7% i fechgyn.

Merch yn defnyddio ffon yn gorwedd ar welyFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd tair o ddisgyblion Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun eu bod yn treulio tua phedair i bum awr y dydd ar eu ffonau.

Dywedodd Nest, 13, ei bod yn dueddol o ddefnyddio'i ffôn yn amlach gyda'r nos, weithiau yn hwyr.

"Dwi yn meddwl bod hi'n anodd, pan dwi methu cysgu dwi yn mynd ar ffôn fi lot, a pan dwi'n mynd ar TikTok a dwi'n sgrolio, dwi'm yn gwbod sut i roi o off."

Dydy'r ysgol ddim yn caniatáu i ddisgyblion ddefnyddio ffonau yn ystod y dydd, a dywedodd Malan, 14, bod hynny wedi helpu.

"Dwi'n meddwl bod o wedi helpu lot, achos de ni'n siarad efo'n gilydd lot mwy amser cinio, yn lle mynd ar ffonau ni... Rŵan de ni'n siarad efo'n gilydd."

Soniodd Mirain, 14, bod defnyddio'i ffôn yn gallu ei chadw i fyny yn y nos, ond ei bod yn ceisio bod yn ofalus.

"Weithie dwi'n meddwl bo' fi arna fo gormod so dwi'n trio mynd arna fo llai a 'neud rwbeth gwahanol."

Emily van de Venter
Disgrifiad o’r llun,

"Nid yw'n glir yn nhermau beth sy'n arwain at y gwahaniaethau yma rhwng y rhywiau," medd Emily van de Venter

Dywedodd Emily van de Venter, ymgynghorydd gwella iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod manteision i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, ond bod "nifer pryderus o bobl ifanc yn nodi effeithiau negyddol ar eu perthnasoedd, eu diddordeb mewn hobïau ac anawsterau wrth gyfyngu ar eu hamser yn eu defnyddio".

Ychwanegodd bod y problemau gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn un o'r ffactorau posib mewn cynnydd mewn iselder a gorbryder ymhlith pobl ifanc.

"Rydyn ni'n gweld cyfraddau ychydig yn uwch mewn merched yn adrodd eu bod wedi cael eu bwlio - wyneb yn wyneb neu dros y we - ac mae lefelau ychydig yn uwch o ferched yn defnyddio dyfeisiau electronig yn hwyr yn y nos, er enghraifft," meddai.

"Ond nid yw'n glir yn nhermau beth sy'n arwain at y gwahaniaethau yma rhwng y rhywiau."