Teulu wedi eu 'llorio' gan farwolaeth merch chwe mis oed

Alex a Sophia KelemenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alex Kelemen, ei wraig Betty, a'u plant, Lucas a Sophia, ar wyliau yn Ninbych-y-pysgod pan gafodd Sophia ei hanafu ar 2 Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu merch chwe mis oed a fu farw yn ne Cymru yn dweud eu bod wedi eu "llorio" gan ei marwolaeth.

Roedd Alex Kelemen, 27, ei wraig Betty, 26, a'u plant, Lucas a Sophia, ar wyliau yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro pan gafodd Sophia ei hanafu mewn gwrthdrawiad mewn maes parcio ar 2 Ionawr.

Dywedodd Mr Kelemen, o Leigh yn ardal Manceinion, fod marwolaeth ei ferch fel "ffilm arswyd".

Mae disgwyl i Flaviu Naghi, 33 oed o Wigan, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Chwefror wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru heb drwydded nac yswiriant.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n anodd gwybod ac i feddwl am beth ddigwyddodd," meddai Mr Kelemen

Roedd y teulu'n paratoi i fynd adref o'u gwyliau pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

"Fe ddechreuodd y ffilm arswyd fel roedden ni am gyrraedd y car," meddai Mr Kelemen.

"Mae'n anodd gwybod ac i feddwl am beth ddigwyddodd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Kelemen nad yw'n gwybod sut i esbonio yr hyn sydd wedi digwydd i'w fab

Cafodd Sophia ei chludo i'r ysbyty a chael llawdriniaeth ar ôl cael ei hanafu, ond bu farw'r "seren fach" y diwrnod wedyn.

"Roedd o'n arswydus gweld ein merch fach yn y gwely 'na yn cael yr holl lawdriniaethau," meddai Mr Kelemen.

"Roedd pawb yn ei charu, ein ffrindiau i gyd, ein teulu."

Nawr, mae'r cwpl yn delio gyda'u galar ac yn ceisio helpu eu mab pum mlwydd oed, Lucas, i ddeall na fydd yn gweld Sophia eto.

"Mae o wedi bod yn holi am ei chwaer fach bob dydd ers iddo ddigwydd.

"Y boen fwyaf dwi wedi ei gael oedd egluro iddo fod Duw yn caru ei chwaer yn fwy na ni, a bod Duw wedi rhoi adenydd i Sophia er mwyn iddi allu hedfan drosto a'i amddiffyn."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Mae Mr Kelemen yn gobeithio trefnu cwnsela galar arbenigol i'w fab.

"Mae 'na bethau dwi ddim yn gwybod sut i'w hesbonio. Fo ydy ein unig fab a'r peth pwysicaf i ni," meddai.

Yn wreiddiol o Rwmania, mae'r teulu'n gobeithio rhoi eu merch i orffwys yn eu mamwlad cyn gynted ag y bydd ei chorff yn cael ei ryddhau.

"Mae hi am fyw yn fy nghalon am byth," meddai.

"Dwi'n gwybod y bydd hi'n fy ngwylio bob dydd."

Mae disgwyl i gwest i farwolaeth Sophia agor ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig