Cytundeb newydd a chodiad cyflog i feddygon teulu

  • Cyhoeddwyd
Fel rhan o'r cytundeb bydd meddygon teulu yn cael codiad cyflog o 4.5%Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel rhan o'r cytundeb bydd meddygon teulu yn cael codiad cyflog o 4.5%

Mae meddygon teulu wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru ar delerau newydd yn cynnwys codiad cyflog.

Dywedodd y BMA - yr undeb sy'n cynrychioli meddygon - nad yw meddygon teulu yng Nghymru yn edrych ar y posibilrwydd o streicio ar hyn o bryd, o ganlyniad i'r cytundeb newydd.

Daw ar adeg pan fo undebau sy'n cynrychioli nifer o weithwyr iechyd yn ystyried gweithredu diwydiannol.

Mae'r cytundeb yn cynnwys codiad cyflog o 4.5% i holl staff sy'n gweithio mewn meddygfeydd, gyda chynlluniau i leihau'r "baich gweinyddol" ar feddygon.

Fel rhan o'r cytundeb hefyd, bydd ymdrechion i wella mynediad cleifion at feddygon teulu yn dod yn orfodol, gan gynnwys bod:

  • cleifion yn derbyn ymateb prydlon i unrhyw gysylltiad â phractis meddyg teulu dros y ffôn;

  • gan feddygfeydd systemau ffôn priodol i gefnogi anghenion pobl - gan osgoi'r angen i ffonio'n ôl sawl gwaith;

  • pobl yn derbyn gwybodaeth ddwyieithog ynglŷn â gwasanaethau lleol a gwasanaethau brys wrth gysylltu â meddygfa;

  • pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth am sut i gael cymorth a chyngor;

  • pobl yn derbyn y gofal cywir ar yr adeg gywir yn seiliedig ar eu hanghenion;

  • pobl yn gallu defnyddio amrywiaeth o opsiynau i gysylltu â'u meddygfa;

  • gan feddygfeydd fynediad at wasanaethau digidol.

Mwy o waith i'w wneud

Bydd gwaith yn parhau ar faterion yn ymwneud â'r gweithlu, o ystyried pryderon a godwyd gan y proffesiwn am brinder staff hirdymor.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan: "Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o hyd i wella mynediad at feddygfeydd a bydd y contract newydd hwn yn mynd peth o'r ffordd i fynd i'r afael â hynny.

"Fodd bynnag, mae rhai pobl yn parhau i wynebu heriau o ran cael mynediad at eu meddygfa, mae angen datrys hynny a byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i geisio gwella.

"Wrth symud ymlaen, bydd contract newydd, symlach yn dileu unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a'u timau yn ogystal ag atgyfnerthu'r safonau yr ydym yn disgwyl i bractisau gadw atynt wrth weithredu - gyda mynediad i gleifion yn rhan hanfodol o'r safonau hynny."

'Rhyddhad' cael cytundeb

Dywedodd Dr Ian Harris, Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu'r BMA yng Nghymru: "Mae'n rhyddhad ein bod ni 'di wedi dod i gytundeb a ni'n falch bod 'na fuddsoddiad wedi dod fel bo ni'n gallu codi cyflog ein staff ni sydd yn gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd.

"Ond y'n ni'n deall y cyfyngiadau ariannol sydd 'da'r llywodraeth yn sgil grant San Steffan felly mae rhaid cydnabod bod y cytundeb yma yn is na chwyddiant.

"Ry' ni'n sylweddoli dyna gyd y'n ni'n gallu cael ar hyn o bryd ond rhaid ystyried y cytundeb yn llwyr i ryw raddau achos bod e hefyd yn lleihau y biwrocratiaeth y'n ni'n cael pob dydd felly ry'n ni'n croesawu hynny hefyd."

Pynciau cysylltiedig